COP27: ‘Does dim amser i orffwys’, meddai’r Gweinidog Newid Hinsawdd
COP27: ‘No time to rest’, says Minister for Climate Change
Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James wedi dweud wrth arweinwyr y byd “does dim amser i orffwys” ar drothwy 27ain Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd, yn yr Aifft.
Wrth annerch cynhadledd Llywodraeth Cymru i’r wasg, dywedodd y Gweinidog y gall ymateb i’r argyfwng newid hinsawdd greu swyddi gwyrdd newydd a gwella iechyd a lles pobl trwy wella’r amgylchedd rydym yn byw ynddo.
Dywedodd: “mae llawer o’r problemau rydym yn eu hwynebu wedi’u cysylltu â’i gilydd a gall atebion integredig eu datrys.
“Mae ynni adnewyddadwy o Gymru yn helpu i leihau’n hallyriadau carbon ac yn creu swyddi gwyrdd, ond gall hefyd helpu i ddiogelu talwyr biliau rhag yr anwadalwch presennol yn y marchnadoedd nwy a thrydan sydd wedi achosi’r cynnydd diweddar yn y prisiau.”
Yn COP26 yn Glasgow llynedd, ymuno Cymru â’r “Beyond Oil and Gas Alliance” a datgan bod angen rhoi’r gorau i godi glo a thanwydd ffosil.
Fis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynlluniau i sefydlu cwmni datblygu ynni adnewyddadwy cyhoeddus. Bydd yn ailfuddsoddi unrhyw elw yng nghymunedau lleol Cymru er lles pobl Cymru.
Mae Cymru’n parhau i gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned a dydyn ni ddim yn cefnogi ffracio na drilio am nwy.
Nid rhywbeth fydd yn digwydd yn y dyfodol pell yw’r newid yn yr hinsawdd. Mae’n digwydd nawr. Rhwng mis Mawrth a mis Medi, cafodd Cymru lai na dwy ran o dair o’r glaw y byddai wedi disgwyl ei gael – y cyfnod sychach erioed.
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi rhybuddio y byddai cynnydd mewn tywydd anghyffredin, fel gwres, oerfel a llifogydd mawr, yn cael effaith anghymarus ar y bobl fwyaf bregus sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd mawr gan gynyddu’r anghydraddoldebau iechyd sydd eisoes yn bod.
Dywedodd Julie James: “Rhaid i’r newid i sero net fod yn seiliedig ar gyfiawnder cymdeithasol a gadael neb ar ôl. Rhaid i ni beidio ag osgoi’r hyn sy’n gorfod cael ei wneud dros y deng mlynedd nesaf a fydd yn siapio dyfodol ein gwlad.
“Wrth i mi ofyn i arweinwyr y byd yn COP27 beidio â gorffwys yn wyneb argyfwng y newid yn yr hinsawdd, dwi am ofyn i bawb yng Nghymru fod yn rhan o’r daith tuag at sero net. “Dw i am i bawb ddod ynghyd fel un tîm mawr, i weithredu ar yr hinsawdd ac adeiladu dyfodol gwell i’n gwlad.”