English icon English
members of PAC Cymru youth group-2

Corff cenedlaethol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru

New national body for youth work in Wales

Mae corff cenedlaethol newydd yn mynd i gael ei sefydlu i gryfhau'r sector gwaith ieuenctid, cefnogi arloesedd a chydweithredu a sicrhau ei fod yn gynaliadwy yn yr hirdymor.

Mae'r sector gwaith ieuenctid yng Nghymru yn eang ac yn amrywiol, gyda dros 900 o sefydliadau ar draws y sector a gynhelir a'r sector gwirfoddol yn ymwneud â darparu gwaith ieuenctid.

Wrth gyhoeddi'r cynlluniau yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid [23-30 Mehefin] dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

"O ystyried ehangder ac amrywiaeth y ddarpariaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru, rwy'n falch iawn o gyhoeddi cynlluniau i greu corff canolog newydd ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, i uno'r sector, cefnogi cydweithio a chynyddu ei effaith ar bobl ifanc.

"Bydd y sefydliad newydd cyffrous hwn yn sicrhau bod gan y llu o bobl ifanc dawnus, gweithwyr ieuenctid, a sefydliadau yn y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru'r strwythur, yr arweinyddiaeth a'r eiriolaeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu."

Mae gwaith ieuenctid yn cynnig amrywiaeth gyfoethog o gyfleoedd cynhwysol a rhai sy'n  grymuso i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae'r profiadau hyn yn annog pobl ifanc i ddefnyddio eu llais a chyfrannu at benderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Mae Peer Action Collective Cymru (PACC) yn un o nifer o brosiectau sy'n darparu gwasanaethau pwrpasol i ddiwallu anghenion penodol pobl ifanc yn eu hardal leol.

Enillodd PACC wobr Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cymru yn 2023, ac mae'n  cefnogi pobl ifanc o grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli, gan roi llais iddynt a'u helpu i ddatblygu eu hangerdd a'u doniau.

Efallai bod rhai wedi cael profiad o'r system cyfiawnder troseddol, wedi bod mewn gofal neu fod rhywrai wedi gwahaniaethu yn eu herbyn. Mae PACC yn galluogi pobl ifanc i fynd i'r afael â materion cymdeithasol pwysig fel trais ieuenctid a'r ffactorau sylfaenol sy'n ei yrru, gan gynnwys iechyd meddwl, rhywioldeb, hil a rhywedd.

Dywedodd Salman, 17 oed:

"Mae bod yn rhan o PACC wedi gwneud i mi sylweddoli bod fy llais yn bwerus a bod ganddo'r potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl eraill. Maen nhw'n ein hannog i gofleidio'r ffaith ein bod yn unigryw ac i sefyll dros yr hyn rydyn ni'n credu ynddo."

Mae enwebiadau ar gyfer Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid, sy'n cydnabod ac yn dathlu prosiectau gwaith ieuenctid rhagorol, gweithwyr ieuenctid a'r rhai sy'n ymwneud â Gwaith Ieuenctid ledled Cymru, wedi agor heddiw, 27 Mehefin.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu dros £12.9 miliwn o gyllid uniongyrchol i awdurdodau lleol ac amrywiaeth o fudiadau gwirfoddol yn 2025-26 i'w helpu i ddarparu cynnig gwaith ieuenctid cyfoethog ac amrywiol.