English icon English

Costau byw ar frig yr agenda i’r Gweinidogion Cyllid

Cost of living top of the agenda for Finance Ministers

Daeth Gweinidogion Cyllid o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ynghyd yng Nghaerdydd heddiw, a’r prif bwnc trafod oedd sut i gefnogi pobl a busnesau wrth i filiau barhau i godi.

Mae prisiau bwyd, tanwydd, ynni, dillad, costau teithio a rhenti yn parhau i gynyddu wrth i chwyddiant godi. Ac mae OFGEM wedi rhybuddio ei bod yn debygol y bydd cynnydd pellach o tua £800 y flwyddyn mewn biliau ynni ym mis Hydref. Mae pryderon cynyddol am effaith yr argyfwng ar iechyd a lles unigolion.

Bu Gweinidogion Cyllid y DU yn trafod beth arall y gellir ei wneud i helpu pobl i ymdopi â'r argyfwng, a hynny mewn mewn cyd-bwyllgor sy'n ystyried materion cyllidol ac economaidd sy'n effeithio ar y DU. Y cyfarfod heddiw oedd y tro cyntaf i'r Pwyllgor gyfarfod yng Nghaerdydd.

Bu'r Gweinidogion hefyd yn ystyried pryderon am gyllid yn lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal ag adfer ar ôl Covid a'r symudiad tuag at sero net. Trafodwyd yr angen i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy i sicrhau diogelwch ynni, a sut mae sicrhau bod pobl yn gallu talu costau eu hanghenion ynni yn awr ac yn y dyfodol.

Ar ôl y cyfarfod, ymwelodd Gweinidogion Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru ag Ysgol Gynradd Trwyn y De yn y Rhws – ysgol sero net gyntaf Cymru.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

"Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddefnyddio'r dulliau sydd ar gael iddi i gymryd camau brys pellach i dargedu’r bylchau mewn cymorth, yn enwedig i helpu aelwydydd incwm is a theuluoedd â phlant, ac i roi hwb i fusnesau sydd hefyd yn teimlo effeithiau’r cynnydd mewn costau.

"Byddai cael gwared â’r holl gostau polisi cymdeithasol ac amgylcheddol o filiau ynni cartrefi, er enghraifft, a chyflwyno cap pris is ar gyfer aelwydydd incwm is, yn eu helpu i allu talu am eu hanghenion ynni ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

"Mae ein cyllideb bellach yn werth o leiaf £600m yn llai na phan luniwyd ein cynlluniau gwario y llynedd. Rydym yn galw ar y Canghellor i'w chynyddu yn unol â chwyddiant fel y gallwn gefnogi adferiad y GIG yn dilyn y pandemig, buddsoddi mewn swyddi a thwf, a rhoi hwb i'n hymateb o ran costau byw."

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd y Gweinidog Cyllid, Conor Murphy:
"Roedd neges glir ar y cyd i’r Trysorlys heddiw – mae’n rhaid gwneud mwy i helpu aelwydydd a busnesau sy'n wynebu argyfwng costau byw na welwyd ei debyg o'r blaen. Er bod y Trysorlys wedi cyhoeddi cymorth i ddinasyddion, rhaid iddynt nawr ystyried cefnogi busnesau sydd hefyd yn wynebu costau tanwydd ac ynni uwch, wrth iddynt hefyd geisio adfer yn dilyn effaith pandemig Covid-19. Ynghyd â Gweinidogion Cyllid Cymru a'r Alban, pwysleisiais wrth Brif Ysgrifennydd y Trysorlys fod angen cymryd camau pellach. Galwais unwaith eto ar y Trysorlys i leihau treth ar werth ar filiau ynni.

"Dywedais eto hefyd wrth Brif Ysgrifennydd y Trysorlys fod angen sicrhau nad yw absenoldeb Gweithrediaeth yn rhoi dinasyddion y Gogledd o dan anfantais o ran y taliad £400 o dan y Cynllun Cymorth Biliau Ynni. Rydym wedi ymrwymo i barhau â'r trafodaethau rhwng fy Adran a'r Trysorlys i sicrhau bod ateb yn cael ei ganfod i ddarparu cymorth yn lleol."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Economi, Kate Forbes:

"Wrth i ni barhau â'n hadferiad economaidd o'r pandemig a'r argyfwng costau byw presennol, mae'n rhaid inni sicrhau bod adnoddau'r llywodraeth a'r sector cyhoeddus yn cael eu targedu’n gadarn at gyflawni blaenoriaethau clir, gan gynnwys mynd i'r afael â thlodi plant, tyfu'r economi a chyrraedd ein targedau newid hinsawdd.

"Yn ôl Comisiwn Cyllidol yr Alban, gostyngodd Cyllideb gyffredinol yr Alban 5.2% mewn termau real rhwng 2021-22 a 2022-23, a rhagwelir gostyngiad pellach o 1% mewn termau real tan 2025-26.

"Er ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu gyda'r adnoddau ariannol cyfyngedig a'r pwerau cyfyngedig sydd ar gael i ni ar hyn o bryd i fynd i'r afael â chostau byw cynyddol, mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael iddynt i helpu'r rhai mwyaf anghenus, gan gynnwys pobl ar aelwydydd incwm isel a theuluoedd â phlant, yn ogystal â busnesau."