English icon English
Taliesin Bryant Ysgol Llannon FM Xmas Card 2021 winner-2

‘Croeso Nadoligaidd’ – Prif Weinidog Cymru yn lansio cystadleuaeth dylunio cerdyn Nadolig

‘A Christmas Welcome’ – First Minister launches annual Christmas Card Competition

Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, yn gofyn i artistiaid ifanc brwdfrydig gymryd rhan yn ei gystadleuaeth dylunio cerdyn Nadolig eleni.

Bydd y Prif Weinidog yn dewis y cynllun buddugol, a chaiff ei ddefnyddio fel ei gerdyn Nadolig swyddogol eleni.

Mae’r Prif Weinidog yn anfon ei gerdyn Nadolig at filoedd o bobl ledled y byd, gan gynnwys y Brenin, Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden, a’r Dirprwy Arlywydd Kamala Harris.

Mae’r gystadleuaeth ar agor i blant ym mlynyddoedd pump a chwech mewn ysgolion cynradd ledled Cymru.

Thema’r gystadleuaeth eleni yw ‘Croeso Nadoligaidd’.

Mae Cymru wedi croesawu miloedd o bobl o Wcráin eleni wrth iddyn nhw ffoi o'r rhyfel yn eu mamwlad, yn ogystal â phobl o wledydd eraill ledled y byd sy'n chwilio am noddfa a diogelwch.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Roedd yn wych gweld yr holl gardiau gan blant o bob cwr o Gymru yn cystadlu’r llynedd. Dw i’n edrych ymlaen at weld fy nesg wedi ei gorchuddio eto eleni gyda chynlluniau lliwgar ar gyfer yr ŵyl.

“Dw i’n gobeithio bydd y thema ‘Croeso Nadoligaidd’ yn helpu plant i feddwl am y rhan y gallwn ni gyd chwarae i groesawu pobl, sydd angen lle diogel i fyw, i Gymru.

“Dw i wir yn edrych ymlaen at weld canlyniadau eu dychymyg yn cyrraedd yn y blwch post.”

Y dyddiad cau yw hanner dydd ar 28 Tachwedd.

E-bostiwch eich ceisiadau i cyfathrebucabinet@llyw.cymru 

Nodiadau i olygyddion

Canllawiau ar gyfer cymryd rhan

  • Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw hanner dydd 28 Tachwedd.
  • Mae’r gystadleuaeth ar agor i blant oed ysgol ym mlynyddoedd pump a chwech
  • Dylai pob cerdyn fod yn faint A4 ar y mwyaf (210mm x 297mm)
  • Nid oes ots a yw’r cerdyn ar i fyny neu ar draws
  • Dylai pob cerdyn fod yn ‘fflat’ – dim arwyneb anwastad, dim gwlân cotwm, glitr ac ati
  • Lliwiau llachar sy’n cael eu hatgynhyrchu orau
  • Dylech osgoi cefndir tywyll
  • Os ydych am gynnwys testun, yna gofynnwch i’ch athro eich helpu i gyfieithu neu defnyddiwch Google Translate. Dyma rai ymadroddion safonol: Nadolig Llawen - Merry Christmas / Cyfarchion y Tymor - Season’s Greetings. Rhowch y Gymraeg yn gyntaf ac yna’r Saesneg.
  • Cofiwch gynnwys enw a manylion cyswllt y plentyn gyda’r cerdyn
  • Yn anffodus, ni allwn ddychwelyd unrhyw gardiau
  • Gellir anfon cardiau sydd wedi’u gwneud ar gyfrifiadur drwy e-bost. Gellir anfon cardiau nad ydynt wedi’u creu ar gyfrifiadur drwy e-bost hefyd – tynnwch lun clir o’ch cynllun, ond cofiwch gadw’r gwaith gwreiddiol fel y gallwch ei anfon atom os byddwch yn llwyddiannus.