Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru yn agor i ymgeiswyr newydd
Wales’ Cultural Recovery Fund 3 opens to new entrants
Cadarnhaodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, fod trydydd rownd Cronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru yn agor ar gyfer ceisiadau heddiw [dydd Llun 31 Ionawr], ac y tro hwn bydd busnesau a sefydliadau nad ydynt wedi derbyn cymorth o'r blaen o dan y gronfa yn gymwys i wneud cais.
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog y byddai £15.4 miliwn arall ar gael i’r sefydliadau diwylliannol hynny yng Nghymru y mae pandemig COVID-19 yn parhau i effeithio’n ddifrifol arnynt.
Cysylltwyd â'r sectorau yr effeithiwyd arnynt, gan gynnwys lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, lleoliadau digwyddiadau, cyflenwyr a threfnwyr, amgueddfeydd lleol annibynnol, llyfrgelloedd cymunedol ac annibynnol, orielau a sinemâu annibynnol a gefnogwyd yn flaenorol gan y Gronfa drwy lythyr yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 17 Ionawr.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud taliadau gwerth £2.2 miliwn i fwy na 88 o ymgeiswyr. Mae disgwyl y bydd y rhan fwyaf o daliadau i'r rhai sydd wedi gwneud cais drwy'r broses hon yn cael eu gwneud yr wythnos nesaf.
Heddiw, gall ymgeiswyr newydd wneud cais ar wefan Busnes Cymru, lle mae rhagor o fanylion a ffurflenni cais ar gael. Bydd angen dychwelyd ceisiadau erbyn dydd Gwener 11 Chwefror.
I fod yn gymwys, rhaid i fusnesau o'r sectorau digwyddiadau, creadigol a threftadaeth ddarparu tystiolaeth bod eu trosiant o leiaf 50% yn llai rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Chwefror 2022 o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019/20.
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:
"Rydym yn gwbl ymwybodol bod y sectorau hyn yr effeithiwyd arnynt yn parhau i wynebu pwysau newydd.
"Mae'r arloesedd a'r cadernid a ddangoswyd gan y bobl a'r sefydliadau sy'n gwneud y sectorau hyn mor fywiog wedi bod yn rhyfeddol.
"Rydym am sicrhau bod y sector yn parhau i chwarae rhan yn ein hadferiad o'r pandemig ac wrth ddod â phobl at ei gilydd unwaith eto."
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymwybodol o'r effaith y mae'r pandemig yn ei chael ar ein cymuned lawrydd greadigol ac rydym wedi dyblu (i £1,000) dyfarniad grant y Gronfa Argyfwng i Fusnesau sydd ar gael i unig fasnachwyr a gweithwyr llawrydd cymwys nad ydynt yn talu ardrethi.
Mae'r trydydd rownd hwn yn adeiladu ar ddau gam blaenorol y Gronfa Adferiad Diwylliannol sydd wedi darparu £93 miliwn ac wedi cefnogi busnesau, sefydliadau ac unigolion yn y sectorau diwylliannol allweddol.