English icon English
Rhyl-4

Cronfa canol trefi Gogledd Cymru gwerth £3m i agor ar gyfer ceisiadau

£3m North Wales town centres fund to open for applications

Mae cronfa gwerth £3m sy’n cael ei threialu gan Lywodraeth Cymru yng nghanol pedair o drefi yn y Gogledd i annog entrepreneuriaid i sefydlu yno bellach ar agor ar gyfer mynegi diddordeb. Bydd y gronfa’n agor ar gyfer ceisiadau yr wythnos nesaf.

Bydd y gronfa yn cynorthwyo entrepreneuriaid i sefydlu busnesau ym Mangor, Bae Colwyn, y Rhyl a Wrecsam.  Bydd yr arian yn gyfuniad o gyllid grant a benthyciadau i helpu entrepreneuriaid sy'n dechrau arni. 

Nod y cynllun peilot yw annog entrepreneuriaid gan helpu hefyd i adfywio canol trefi sydd wedi cael eu taro'n galed yn ystod y pandemig.  Bydd y cynllun yn para am flwyddyn i ddechrau.

          Datblygwyd yr elfen fenthyciadau gyda Banc Datblygu Cymru ac fe'i gweithredir ganddo. Cynigir benthyciadau o £1,000 hyd at uchafswm o £50,000.

          Bydd y gronfa'n agor ar gyfer ceisiadau o 21 Mehefin.

          Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio'n ddifrifol ar ganol ein trefi a nod y prosiect peilot hwn yw annog a chefnogi busnesau newydd yng nghanol pedair o drefi yn y Gogledd.  Bydd y gronfa'n cymell entrepreneuriaid ac yn rhoi help llaw iddynt i sefydlu busnesau yno. 

 “Y nod yw nid yn unig cynyddu busnesau yng nghanol y trefi hynny ond hefyd cefnogi busnesau newydd.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru: “Mae'r flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi bod yn gyfnod eithriadol o heriol i fusnesau a chanol ein trefi.  Mae potensial mawr yng nghanol ein trefi, ac rydym am weld hynny'n cael ei wireddu.  Nod y prosiect peilot hwn yw helpu i annog busnesau newydd i ddefnyddio lle yng nghanol pedair o drefi ledled y Gogledd.

 “Bydd prosiectau peilot fel hyn yn helpu canol ein trefi a'n cymunedau i ddelio ag effaith y pandemig.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa Canol Trefi ewch i:

Dechrau busnes (developmentbank.wales) /

https://businesswales.gov.wales/cy/cronfa-entrepreneuriaeth-canol-tref-busnes-cymru