Cronfa newydd i dyfu gweithlu coedwigaeth Cymru
Branching out … a new fund to grow Wales’s forestry workforce
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £280,000 mewn cronfa sgiliau a hyfforddiant newydd sy'n gysylltiedig â choedwigaeth, gyda'r nod o dyfu'r gweithlu a darparu gwreiddiau cryf i'r diwydiant flodeuo.
Mae'r gronfa Sgiliau Coedwigaeth a Phren, sy'n agor heddiw, yn rhan o ymdrechion Cymru i ddiogelu'r gweithlu yn y dyfodol a darparu llwybr at yrfa mewn coedwigaeth - diwydiant y mae ei weithlu sy'n heneiddio wedi arwain at bryderon y byddwn yn gweld prinder sgiliau yn y DU yn y blynyddoedd nesaf.
Mae'r gronfa'n rhan o Raglen Sgiliau Hyblyg Llywodraeth Cymru a bydd yn cefnogi busnesau i fynd i'r afael â bylchau sgiliau yn eu gweithlu drwy ddarparu cymhorthdal ar gyfer lleoedd ar gyrsiau achrededig yn y gadwyn gyflenwi coedwigaeth a phren, gyda hyd at £20,000 ar gael fesul sefydliad.
Mewn astudiaeth yng Nghymru a Lloegr o fusnesau coedwigaeth yn 2021, rhestrodd yr ymatebwyr ddiffyg sgiliau fel y prif reswm dros swyddi gwag heb eu llenwi
Gyda'r angen am fwy o weithwyr medrus i gyrraedd y targedau ar gyfer creu coetiroedd ac i ehangu faint o bren o safon sy’n cael ei gynhyrchu i fodloni'r galw cynyddol am gartrefi cymdeithasol ffrâm bren carbon isel, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n gyflym i helpu i fynd i'r afael â'r mater.
Mae un cwmni ffyniannus yn Llambed sy'n mynd yn groes i'r duedd yn awyddus i wneud cais o dan y cynllun newydd, ar ôl manteisio ar fentrau cyllido sgiliau coedwigaeth blaenorol Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ei dîm tyfu yn gwbl gymwysedig.
Mae Lampeter Tree Services, a sefydlwyd gan Islwyn Williams a'i fab Meirion yn 1993, yn darparu gwasanaethau coedwigaeth ar gyfer y Grid Cenedlaethol, cynghorau, Cyfoeth Naturiol Cymru ac ystadau preifat.
Meirion a'i frawd Emyr sy'n rhedeg y busnes erbyn hyn. Mae cael staff cymwysedig i lefelau safon y diwydiant yn ofyniad cyfreithiol i wneud cais am lawer o'r contractau sy'n rhan o waith beunyddiol y cwmni a hyd yma mae ei weithlu wedi ymgymryd â 400 o gyrsiau hyfforddi gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru.
Un o'r aelodau staff sydd wedi elwa ar y cyrsiau hyn yw Tomos Williams, mab Meirion. Dychwelodd Tomos i'r busnes teuluol fel tirmon ar ôl graddio o Brifysgol Bangor. Erbyn hyn, mae'n dyfwr coed cymwysedig, ac yn arwain tîm ei hun.
O ran gwerth y cymorth a gafodd i ddysgu sgiliau, dywedodd Tomos:
"Heb y cyllid fyddwn i ddim wedi gallu ennill cymaint o sgiliau mewn cyfnod mor fyr, ac ni fyddem wedi gallu hyfforddi cymaint o'n staff. Rydym wedi llwyddo i sicrhau bod pawb wedi cael yr hyfforddiant angenrheidiol. Mae staff mwy cymwysedig yn golygu y gallwn ymgymryd â chontractau mwy cymhleth ac rydym yn fwy effeithlon wrth gyflawni ein gwaith.
"Rwyf wrth fy modd yn gweithio yn yr awyr agored. Yn fy ngwaith o ddydd i ddydd rydw i mewn mannau y mae pobl ond yn ymweld â nhw fel arfer ar y penwythnos - ystadau mawr, parciau cenedlaethol. Rydw i wedi cael cyfle i weithio ar goed hynafol. Mae'n waith arbennig."
Dywedodd y Gweinidog Sgiliau, Jack Sargeant:
"Coedwigwyr, tyfwyr coed a'r rhai sy'n prosesu pren ac yn gweithio ag ef yw'r swyddi gwyrdd gwreiddiol. Ond mae angen mwy ohonynt arnom. Rydym yn disgwyl i'r galw byd-eang am bren gynyddu pedair gwaith erbyn 2050. Mae'n hanfodol ein bod yn ehangu ein sector coedwigaeth medrus i fodloni'r galw hwnnw ac i gyrraedd targedau sero net.
"Bydd y gronfa hefyd yn helpu i ddatblygu sgiliau i gynyddu'r defnydd o bren yn y byd adeiladu sydd, yn wahanol i goedwigaeth, yn sector cymharol newydd lle nad yw sgiliau ffurfiol a hyfforddiant wedi bod ar gael o'r blaen."