English icon English
Brocastle

Cwblhau gwaith i ddatblygu safle cyflogaeth newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Work to develop new employment site in Bridgend complete

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cadarnhau bod y gwaith o ddatblygu safle cyflogaeth strategol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n rhoi ysgogiad sylweddol i gyfleoedd cyflogaeth, wedi'i gwblhau, yn dilyn buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru.

Mae gwaith seilwaith bellach wedi'i gwblhau i raddau helaeth ar safle Brocastle, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n safle cyflogaeth strategol 116 erw gyda chaniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer hyd at 770,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr.

Bydd y gwaith, a oedd yn cynnwys adeiladu ffyrdd allweddol a darparu cyfleustodau i wasanaethu 9 llwyfandir, yn ei gwneud yn bosibl datblygu safleoedd busnes modern i helpu twf economaidd a chreu swyddi.

Ariannwyd y gwaith, a wnaed gan gontractwr peirianneg sifil lleol, gan fwy na £10m gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys tua £6.2m a ddyfarnwyd drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

I gyd-fynd â'r safle, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi mewn Llwybr Teithio Llesol, gyda'r gwaith i ddechrau yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

 “Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i greu swyddi newydd ledled Cymru, gan ddarparu cyfleoedd gwaith newydd da i bobl yn ein cymunedau.

“Rwy'n falch bod y gwaith o ddatblygu safle cyflogaeth strategol newydd Brocastle bellach wedi'i gwblhau. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud buddsoddiad sylweddol i ddatblygu'r safle, er mwyn cynnig cyfleoedd parod i fuddsoddi i fusnesau – sy'n cyd-fynd â'n Cynllun Cyflenwi Eiddo.

“Rwy'n cael fy nghalonogi'n fawr gan lefel y diddordeb a ddangoswyd hyd yma. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at greu llawer o swyddi newydd.”

Cafwyd ymholiadau gan nifer o ddatblygwyr eiddo a pherchen-feddianwyr mewn amrywiaeth o sectorau.

JLL yw'r asiantiaid marchnata penodedig ar gyfer y safle. Dywedodd Heather Lawrence, Cyfarwyddwr Diwydiannol a Logisteg JLL:

“Mae Brocastle yn cynnig cyfle cyffrous i feddianwyr ddatblygu cyfleusterau mewn lleoliad strategol gyda mynediad i weithlu medrus a chysylltiadau cyfathrebu gwych. 

“Mae'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwblhau ar y safle yn sylweddol a dyma'r galluogwr i sicrhau bod gan dde Cymru gynnig cystadleuol ar gyfer y farchnad. Rydym yn gobeithio y bydd y safle hwn yn un o nifer y gall Llywodraeth Cymru ddarparu'r cymorth angenrheidiol i'w cyflwyno."