English icon English

Cwmni o’r Barri yn ennill cytundeb i allforio anadlenyddion i’r Ffindir

Barry company secures major export deal to supply breathalysers to Finland

Mae cwmni o Gymru a gynhyrchodd yr anadlennydd electronig cyntaf yn y byd wedi arwyddo cytundeb i allforio cannoedd o anadlenyddion i Lywodraeth y Ffindir, diolch i gymorth allforio gan Lywodraeth Cymru.

Mae Lion Laboratories o’r Barri ar fin gwerthu 250 o anadlenyddion is-goch cludadwy i’w defnyddio gan Heddlu, Gwarchodwyr Ffiniau a Gwasanaethau Carchardai’r Ffindir. Yn ogystal â chyflenwi’r cyfarpar eu hunain, mae’r cytundeb yn gofyn i’r cwmni helpu i’w cyflwyno ac i roi hyfforddiant llawn i wasanaethau cyfraith y wlad.

Ymwelodd  Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, â’r cwmni heddiw yn y Barri i’w longyfarch ac i annog rhagor o gwmnïau o Gymru i allforio.

Mae’r cytundeb hwn â’r Ffindir yn un o gyfres o gontractau rhyngwladol y mae Lion Labs wedi’u cipio.  Maen nhw eisoes yn allforio i dros saith deg o wledydd ledled Ewrop, Asia, America, Affrica ac Awstralia.

Mae cynnyrch y cwmni’n cael eu defnyddio gan heddluoedd ledled y byd, gan gynnwys yn y DU, Denmarc, Malaysia, Gwlad Thai, Oman, y Swistir, Namibia ac Awstralia.

Daeth y cyhoeddiad wrth i Lion Laboratories benodi dosbarthwyr newydd yn Ffrainc, Sbaen ac Awstria yn y 12 mis diwethaf fel rhan o gynllun i gynyddu ei bresenoldeb yn Ewrop.

Mae 70% o’r cyfan y mae Lion Laboratories yn ei werthu yn cael ei werthu dramor ac mae ei ymdrechion i sicrhau contractau tramor newydd yn rhan o gynllun i adfer ei fusnes rhyngwladol yn ôl i 85%, yr hyn yr oedd cyn y pandemig.

Dywedodd Martin Slade, Pennaeth Gwerthu Lion Laboratories:

“Mae allforio’n hynod bwysig i ni, o ran diogelu dyfodol y cwmni a thwf.  Mae’n ffordd o wneud yn siŵr nad ydyn ni’n gwbl ddibynnol ar un farchnad a thrwy werthu i amrywiaeth o wledydd, rydyn ni’n cynyddu’r cyfleoedd i’r busnes ac yn ein diogelu rhag anawsterau rhanbarthol.

“Yr un pryd, trwy weithio gydag amrywiaeth o wledydd, mae hynny’n ein helpu i wella’n cynnyrch wrth i ni eu datblygu i gwrdd â safonau rhyngwladol gwahanol, yn hytrach na dylunio ar gyfer nifer fach o farchnadoedd penodol.”

Cafodd Lion Laboratories ei sefydlu ym 1967 gan y gwyddonydd o Gymro, y Dr Tom Parry Jones, a weddnewidiodd diogelwch ar y ffyrdd trwy ddyfeisio’r anadlennydd electrogemegol gwreiddiol.  Ers hynny, mae’r cwmni wedi tyfu i fod yn arbenigwr byd-eang ym maes dadansoddi alcohol mewn anadl gyda’i ystod o offer yn helpu i erlyn gyrwyr sydd dan ddylanwad alcohol ledled y byd.

Mae Lion Laboratories wrthi’n tendro am gyfleoedd i gyflenwi heddluoedd gwledydd eraill wrth iddo barhau i ddiwallu anghenion y farchnad.

Mae Martin yn credu mai un o’r rhesymau pennaf dros lwyddiant a chynnydd Lion Laboratories yn y maes allforio yn y deng mlynedd diwethaf yw cefnogaeth Llywodraeth Cymru, sydd wedi cynnal ymchwil fanwl i’r farchnad mewn gwledydd newydd a helpu’r cwmni i ymuno â theithiau masnach.

Dywedodd Martin hefyd:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn hynod gefnogol trwy’n helpu ni i greu cysylltiadau pwysig dramor sydd wedi arwain at fusnes newydd.  Maen nhw wedi’n helpu i fynd i sioeau masnach i rwydweithio a siarad â chwsmeriaid a dosbarthwyr posib a’n helpu i gysylltu â llysgenadaethau Prydeinig dramor a’n cyflwyno i gysylltiadau mewn sawl gwlad gan gynnwys yr Almaen, Awstria a Sbaen gan sefydlu llwybrau newydd i farchnadoedd.

“Yn ystod ei ymweliad â Chymru ym mis Rhagfyr 2021, ymwelodd Llysgennad Hwngari â ffatri Lion Laboratories yn y Barri.  Llywodraeth Cymru drefnodd hyn ac esgorodd ar drafodaethau ynghylch busnes yno hefyd.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu Lion Labs i sicrhau’r archeb bwysig hon gyda Llywodraeth y Ffindir.

“Mae allforio’n dda iawn i fusnes, a dyma enghraifft ragorol arall o gwmni o Gymru’n allforio’n llwyddiannus.

“Amcan ein Cynllun Gweithredu ar Allforio yw helpu cwmnïau ledled Cymru i allforio’u nwyddau a’u gwasanaethau i farchnadoedd newydd ym mhedwar ban a helpu i greu rhagor o swyddi yma yng Nghymru.”