Cwmni peirianyddol uwch-dechnoleg o America yn ehangu yng Nghymru â’i is-gwmni Prydeinig
High-tech American engineering firm to expand in Wales with UK-based subsidiary
Mae cwmni peirianneg flaengar blaenllaw o America’n ehangu yng Nghymru trwy sefydlu Canolfan Ragoriaeth newydd ym Mro Morgannwg, fydd yn golygu creu 75 o swyddi newydd ac yn cynnal 200 o swyddi anuniongyrchol, cadarnhaodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething heddiw.
Gwnaeth y Gweinidog y cyhoeddiad pan agorodd bencadlys peirianneg newydd y Sierra Nevada Corporation Mission Systems UK LTD (SNC MS UK) – is-gwmni Prydeinig y Sierra Nevada Corporation (SNC) - yng Nghymru, ym Mro Tathan ym Mro Morgannwg.
Mae SNC yn arweinydd o ran datrys heriau mwya’r byd trwy dechnolegau peirianneg flaengar yn systemau’r gofod, byd masnach a diogelwch gwladol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi penderfyniad y cwmni i sefydlu presenoldeb amlwg yng Nghymru.
Mae’r cwmni wedi cymryd lês hir ar hangar awyrennau ym Mro Tathan ym Mro Morgannwg i greu ‘Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Systemau Gweithrediadau.”
Mae’r cwmni wedi buddsoddi’n drwm i addasu’r hangar ac mae 46 o bobl eisoes yn cael eu cyflogi ar y safle.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio i ddatblygu diwydiannau’r dyfodol yma yng Nghymru, a chreu swyddi newydd, bras a da i bobl ledled y wlad.
“Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu denu i Gymru un o’r cwmnïau Americanaidd sy’n tyfu gyflymaf. Fel cwmni blaengar yn nhechnolegau’r dyfodol, bydd Sierra Nevada Mission Systems UK yn creu swyddi newydd bras uwchdechnoleg ym Mro Tathan, gan roi hwb anferth i economi leol y Fro.
“Rwy’ wrth fy modd yn arbennig bod y cwmni wedi ymrwymo i gyn-aelodau’r lluoedd arfog a rhoi cyfle iddyn nhw ddefnyddio’u gwybodaeth, sgiliau a rhwydweithiau helaeth.”
Mae SNC MS yn un o nifer gynyddol o gwmnïau sydd wedi ymgartrefu ym Mro Tathan. Mae tros 1,000 o bobl bellach yn gweithio ar y llain awyr sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru.
Mae SNC MS UK yn cyflogi arbenigwyr mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) er mwyn datblygu atebion newydd i broblemau amddiffyn a diogelwch sylfaenol. Mae’r cwmni’n cydweithio hefyd â phrifysgolion lleol i gefnogi ymchwil academaidd yn y meysydd technolegol mwyaf cyfredol.
Hywel Baker, Rheolwr Gyfarwyddwr Sierra Nevada Corporation Mission Systems UK:
“Rydym wedi cynhyrfu ein bod yn gallu cynnig perfformiad gwell a galluoedd nad oedd ar gael o’r blaen i’n cwsmeriaid, diolch i’n Canolfan Ragoriaeth newydd.
“Mae SNC MS UK wedi ymroi i siapio dyfodol y sector a sbarduno ei dwf. Rydyn yn ymrwymo i greu swyddi crefftus a rhoi’r hyfforddiant a’r arweiniad i’n gweithwyr trwy gwmni sydd â hen hanes ac sy’n para i lwyddo yn y diwydiant.
“Mae’n wefr i ni gael buddsoddi yn y safle hwn i adfywio’r seilwaith sydd yno i greu amgylchedd modern ac addas i ddarparu’r dechnoleg orau o’i bath.
“Yn ogystal â dod â’r galluoedd modern hyn, mae’r gwaith yn adfywio ardal Sain Tathan gan ddenu busnesau eraill fydd yn cynyddu’r effeithiau economaidd ac yn creu rhagor o swyddi anuniongyrchol, yn annog mwy o arloesedd ac yn gwella sgiliau’r bobl leol.”