English icon English
MES PAS-2

Cwmnïau o Gymru yn ennill mwy na £1m o fusnes newydd yn Sioe Awyr Paris

Welsh firms win more than £1m of new business at Paris Air Show

Mae mwy na £1m o fusnes newydd wedi'i sicrhau gan ddirprwyaeth Cymru i Sioe Awyr Paris ym mis Mehefin gyda dros £3.6m mewn cyfleoedd pellach wedi'u nodi hefyd, yn ôl Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Sioe Awyr Paris yw'r digwyddiad awyrofod mwyaf yn y byd, gan ddenu dros 2,400 o arddangoswyr o 49 o wledydd a 139,000 o ymwelwyr masnach o 185 o wledydd.

Mae Cymru yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer gweithgynhyrchu awyrofod a gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag MRO (cynnal a chadw, atgyweirio ac ailwampio), gyda dros 160 o gwmnïau'n cyflogi mwy na 23,000 o bobl ledled y wlad, gan gyfrif am 10% o ddiwydiant awyrofod y DU.

Yn y sioe eleni, arweiniodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ddirprwyaeth o 7 cwmni a phrifysgol yng Nghymru, Maes Awyr Caerdydd ac Awyrofod Cymru.

Roedd pafiliwn Llywodraeth Cymru yn Sioe Awyr Paris yn gyfle i gwmnïau arddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau i ddarpar brynwyr - gan helpu i hyrwyddo galluoedd awyrofod a gofod Cymru i gynulleidfa fyd-eang.

Un cwmni i sicrhau cytundeb yn y sioe yw Metrology Engineering Services (MES). Wedi'i sefydlu ym mis Ebrill 2023 gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae'r cwmni o Fro Tathan yn ddarparwr gwasanaethau blaenllaw ym maes peirianneg cefn, sganio laser 3D, asesu difrod ac arolygu ansawdd.

Yn ystod Sioe Awyr Paris, llofnododd y cwmni fargeinion gwerth tua £ 450,000. Mae'r cysylltiadau newydd a wnaeth y busnes yn y sioe yn helpu i baratoi’r ffordd ar gyfer cytundebau yn y dyfodol. Roedd MES wedi sicrhau nifer o fargeinion allforio eisoes cyn Paris, a bydd y bargeinion diweddaraf hyn yn helpu i ddatblygu'r busnes ymhellach.

Ar hyn o bryd mae gan MES 8 o weithwyr, ac wrth iddo barhau i dyfu, mae'n bwriadu dyblu ei weithwyr erbyn diwedd y flwyddyn.

Meddai Steve Beasley, Prif Swyddog Gweithredol MES:

"Mae'r gefnogaeth a gefais gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol wrth ddechrau fy musnes. Drwy fy nghefnogi i fynychu sioeau masnach fel Sioe Awyr Paris, rwyf wedi gallu cwrdd â phartneriaid busnes newydd yn y DU ac o dramor. Bydd y cysylltiadau hyn yn sicrhau y gallaf barhau i ddatblygu fy musnes.

"Mae sioeau masnach, yn y DU a thramor yn ffordd wych o archwilio'r farchnad, cwrdd â chysylltiadau newydd a hyrwyddo fy musnes. Roedd arddangos fel rhan o grŵp ar stondinau Cymru yn gyfle imi rwydweithio â chwmnïau o'r un anian a helpu i hyrwyddo Cymru."

Yn ystod y sioe, cyhoeddodd TRIUMPH Group, arweinydd byd-eang mewn cloeon offer glanio a chynhyrchion symud gyda ffocws ar offer glanio, Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Stirling Dynamics – gan ganolbwyntio ar ddatblygu atebion Symud Electro-Fecanyddol ar y cyd.  Cyfarfu TRIUMPH hefyd â nifer o bartneriaid busnes newydd posib, gyda'r cwmni'n nodi llawer o gyfleoedd busnes newydd.

Meddai David Chapman, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes TRIUMPH:

"Roedd cael ein cynnwys yn stondin Cymru yn Sioe Awyr Paris yn gyfle gwych inni gwrdd â chysylltiadau busnes presennol a newydd ac i bwysleisio bod TRIUMPH yn gyfrannwr allweddol yn sector awyrofod Cymru.

"Rydym yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn y sioe fasnach nesaf a sicrhau mwy o fusnes ar gyfer ein gweithrediadau yng Nghymru."

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu cwmnïau o Gymru i ddatblygu a ffynnu, gan eu cefnogi i greu swyddi newydd yn niwydiannau'r dyfodol.

"Roedd Sioe Awyr Paris yn gyfle gwych i hyrwyddo galluoedd Cymru yn y sector awyrofod ac fel lleoliad allweddol ar gyfer mewnfuddsoddi, arloesi a masnach. Rwy'n falch iawn fod y busnesau a gymerodd ran yn nhaith fasnach Llywodraeth Cymru eisoes yn elwa'n sylweddol o'u presenoldeb yn y sioe.

"Mae hon yn enghraifft wych o'r gwaith cadarnhaol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo Cymru i'r byd."