Cyd-bwyllgor Fforwm Iwerddon-Cymru, 22 Hydref 2021
Joint Communiqué of the Ireland-Wales Forum, 22 October 2021
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf o Fforwm Iwerddon-Cymru yng Nghaerdydd ar 22 Hydref 2021.
Cynrychiolwyd Llywodraeth Iwerddon gan y Gweinidog dros Faterion Tramor a'r Gweinidog Amddiffyn, Simon Coveney T.D., y Gweinidog dros yr Amgylchedd, yr Hinsawdd a Chyfathrebu a'r Gweinidog dros Drafnidiaeth, Eamon Ryan T. D., a ymunodd â'r digwyddiad yn rhithiol, a'r Gweinidog Gwladol dros Hyrwyddo Masnach, Rheoleiddio Digidol a Chwmnïau, Robert Troy T.D.
Cynhaliodd Prif Weinidog Cymru Fforwm cyntaf Iwerddon Cymru yng Nghaerdydd, gyda Vaughan Gething A.S., y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, Lesley Griffiths A.S., a'r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters A.S.
Cyhoeddwyd ymrwymiad i derfnu Fforwm Iwerddon-Cymru yn flynyddol yn Natganiad a Rennir Iwerddon Cymru a Chynllun Gweithredu ar y Cyd 2021-25 a lansiwyd ar 1 Mawrth eleni, i ymgysylltu â rhanddeiliaid gwleidyddol, economaidd ac ehangach i ddatblygu cysylltiadau, cyfnewid safbwyntiau polisi, rhannu dysgu a meithrin cydweithrediad mewn meysydd y mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb datganoledig drostynt, i gryfhau'r berthynas ddwyochrog ehangach rhwng Iwerddon a Chymru. Trafododd y Fforwm y canlynol:
Datblygiadau Gwleidyddol Diweddar a Chysylltiadau Dwyochrog
Trafododd y Gweinidog dros Faterion Tramor a'r Prif Weinidog y datblygiadau gwleidyddol diweddaraf ledled Iwerddon a Chymru, ac yn fwy cyffredinol, gan gynnwys Covid-19, datblygiadau'r UE-DU, deiliadaeth Iwerddon ar y Cyngor Diogelwch a Chynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) sydd ar y gweill. Trafodwyd hefyd eu huchelgeisiau cyffredin ar gyfer perthynas ddwyochrog Iwerddon Cymru, yng nghyd-destun gweithredu Datganiad a Rennir Iwerddon a Cymru a Chynllun Gweithredu ar y Cyd 2021-25, a lansiwyd yn gynharach yn y flwyddyn, yn ogystal ag agoriad swyddogol Swyddfa Prif Gonswl Iwerddon yng Nghaerdydd. Cafwyd cynnydd cadarnhaol hyd yma, gan gynnwys secondiad swyddog o Lywodraeth Cymru i'r Adran Materion Tramor a oedd yn canolbwyntio ar ymgysylltu â diaspora, ehangder y prosiectau diwylliannol sydd ar y gweill, a'r cydweithrediad arfaethedig rhwng Amgueddfeydd Cenedlaethol Iwerddon a Chymru ar fioamrywiaeth a chynhwysiant.
Cydweithrediad Masnach a Datblygu Economaidd
Trafododd y Gweinidog Gething a'r Gweinidog Troy ddatblygiadau economaidd diweddar yng Nghymru ac Iwerddon, yn ogystal â chyfleoedd a heriau cyfredol ar gyfer cydweithredu economaidd. Ymunodd y Gweinidog Griffiths â hwy i drafod cyfleoedd pellach mewn perthynas â choridor masnach Iwerddon-Gogledd Cymru, a'r cysylltiadau rhwng Gogledd Cymru a Phwerdy'r Gogledd. Nododd y ddwy ochr y byddent, o ganlyniad, yn hoffi gweld fframwaith yn cael ei roi ar waith i hwyluso deialog barhaus rhwng yr unigolion allweddol yn y maes hwn ac i gefnogi rhwydweithiau cydweithredol.
Newid Hinsawdd a’r Polisi Ynni
Trafododd y Gweinidog Waters a'r Gweinidog Ryan flaenoriaethau Cymru ac Iwerddon ym maes polisïau newid hinsawdd ac ynni, gan gynnwys mewn perthynas â gwynt ar y môr, prosiectau cymunedol adnewyddadwy a chydgysylltu. Tynnodd y ddwy ochr sylw at bwysigrwydd ynni adnewyddadwy a gwerth trafodaethau archwiliadol ar gyfleoedd posibl i gydweithredu. Ymunodd cynrychiolwyr Wind Energy Iwerddon a Chynghrair Datblygwyr y Môr Celtaidd â'r Gweinidogion hefyd.
Cyfarfodydd yn y dyfodol
Cytunwyd y byddai'r cyfarfod nesaf o Fforwm Iwerddon Cymru yn cael ei gynnal yn Iwerddon ddiwedd 2022.
Caerdydd, 22 Hydref 2021