Cydgadeiryddion i arwain Comisiwn i wneud argymhellion am ddiwygio cyfansoddiadol
Co-chairs to lead Commission in recommending constitutional reform
Bydd yr Athro Laura McAllister a’r Dr Rowan Williams yn cydgadeirio comisiwn annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Bydd y Comisiwn yn datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni. Bydd hefyd yn ystyried yr holl opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru.
Bydd y Dr Williams a’r Athro McAllister yn arwain y Comisiwn i wneud argymhellion ar sut y gall setliad cyfansoddiadol Cymru wella canlyniadau i bobl Cymru orau. Bydd yn mynd ati i gynnwys y cyhoedd mewn sgwrs genedlaethol am ddyfodol Cymru.
Roedd sefydlu comisiwn annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru yn un o ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Yn dilyn penodi’r cydgadeiryddion, bydd yr aelodau eraill yn cael eu cadarnhau fis nesaf ac mae disgwyl i’r cyfarfod cyntaf gael ei gynnal ym mis Tachwedd.
Mae’r Athro Laura McAllister yn academydd ac yn gyn-chwaraewr pêl-droed rhyngwladol dros Gymru. Dywedodd:
“Mae angen mawr am gyfraniadau o ddifrif i’n dadl gyfansoddiadol ac rwy’n edrych ymlaen at ein gwaith a fydd yn helpu i lenwi’r bwlch hwnnw. Byddwn yn meddwl yn feiddgar ac yn radical am opsiynau posib’ ar gyfer dyfodol Cymru, a hynny yng nghyd-destun y pwysau cynyddol ar yr Undeb.”
Ganed y Dr Rowan Williams yn Abertawe a bu’n Archesgob Caergaint rhwng 2002 a 2012. Dywedodd yntau:
“Gorchwyl y Comisiwn hwn yw gofyn pa strwythurau a darpariaethau cyfansoddiadol fydd yn rhyddhau potensial cymunedau a phobl Cymru orau.
“Rydyn ni am sicrhau bod cyfundrefn lywodraethu Cymru yn effeithiol, yn atebol ac yn greadigol, ac edrychwn ymlaen at glywed pa obeithion a gweledigaethau sy’n cyffroi pobl o amgylch y wlad.”