Cydnabod cyflogeion GIG Cymru yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines
NHS Wales employees recognised in Queen’s New Year Honours
Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Judith Paget, wedi llongyfarch gweithwyr GIG Cymru sydd wedi cael eu cydnabod yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines.
Mae wyth unigolyn o bob rhan o GIG Cymru wedi derbyn anrhydedd. Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, wedi cael ei urddo’n Farchog hefyd am ei rôl ym mhandemig COVID-19.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:
“Llongyfarchiadau enfawr i bawb yn GIG Cymru sydd wedi cael eu hanrhydeddu yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines. Mae'n dda gweld pobl yn cael eu cydnabod ar draws sawl maes ledled Cymru a'r rhai sy'n gweithio ar y rheng flaen yn parhau i wneud popeth o fewn eu gallu i frwydro yn erbyn pandemig COVID-19 a darparu gofal hanfodol. Rydw i eisiau diolch i bob unigolyn sy'n gweithio yn y GIG a'r sector gofal cymdeithasol am eu gofal, eu hymrwymiad a'u hymroddiad parhaus.
“Rydw i hefyd eisiau talu teyrnged i Dr Frank Atherton sy’n parhau i chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â’r pandemig parhaus ac rydw i’n falch o weld ei waith yn cael ei gydnabod.”
Dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru, Judith Paget:
“Bob dydd rydw i’n gweld pa mor galed mae staff yn gweithio yn y GIG ac rydw i wrth fy modd bod rhai o’r unigolion ymroddedig hynny wedi derbyn Anrhydedd Blwyddyn Newydd gan y Frenhines. Rydw i'n gwybod y bydd pawb yn y GIG a ledled Cymru yn ymuno â mi i anfon ein dymuniadau gorau at y rhai sydd wedi cael eu cydnabod eleni.”