English icon English
Minister for Social Care with young carers-2

Cydnabyddiaeth mewn ysgolion yn hanfodol er mwyn helpu gofalwyr ifanc i ffynnu

Recognition in schools vital to help young carers thrive

Yn ystod Wythnos Gofalwyr Ifanc, manteisiodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden, ar y cyfle i wrando ar ofalwyr ifanc yn sôn am bwysigrwydd cael eu cydnabod fel cam cyntaf tuag at gael cymorth yn yr ysgol.

Mae dros 22,500 o ofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion ifanc yng Nghymru - sy'n cyfateb i bron dau ofalwr ym mhob ystafell ddosbarth. 

Mae traean o ofalwyr dan 25 oed yn dweud ei bod yn anodd cydbwyso cyfrifoldebau gofalu â gwaith ysgol, coleg neu brifysgol. Mae rhai gofalwyr ifanc yn treulio hyd at 50 awr yr wythnos yn gofalu am aelod o'r teulu sydd â salwch neu anabledd.

Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:

"Mae'n bwysig bod ysgolion a cholegau yn ymwybodol o fyfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu, a bod gofalwyr ifanc yn cael eu cydnabod er mwyn derbyn y cymorth priodol.

"Gall cardiau adnabod gofalwyr ifanc fod yn ffordd hawdd i ofalwr ifanc roi gwybod am ei sefyllfa i athrawon a staff addysg, er mwyn iddyn nhw ei helpu i gysylltu â'r gwasanaethau sydd eu hangen, ac i’r gofalwyr eu hunain gyflawni eu potensial yn llawn."

Mae cardiau adnabod gofalwyr ifanc yn golygu nad oes angen i ofalwyr ifanc esbonio eu hamgylchiadau dro ar ôl tro i wahanol staff, sy'n helpu i sicrhau eu bod yn gallu cael y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth angenrheidiol.

Gall y cymorth mewn ysgolion gynnwys cwnsela, aelod dynodedig o staff i'w helpu, a threfniadau hyblyg lle bo angen. 

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn gweithredu cynllun cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc.

Ychwanegodd y Gweinidog:

"Mae cardiau adnabod i ofalwyr ifanc yn ffordd ddefnyddiol o helpu i nodi a pharchu anghenion penodol y gofalwyr hyn. Dw i'n gobeithio gweld y cardiau'n cael eu defnyddio'n gyson mewn ysgolion yng Nghymru, fel bod gan bobl ifanc yr hyder i ofyn am help pan fo angen."

Dywedodd gofalwr ifanc:

"Dw i'n defnyddio fy ngherdyn adnabod i ofalwyr ifanc i roi gwybod i'r athrawon fy mod i'n ofalwr ifanc, ac weithiau bod yn rhaid imi gael cymorth neu amser ychwanegol i gyflawni tasgau.

"Mae grŵp gofalwyr ifanc gwych yn yr ysgol, ac rydyn ni i gyd yn cefnogi ein gilydd. Mae gan bob gofalwr ifanc yr hawl i gael cefnogaeth yn yr ysgol, ac athrawon sy'n deall sut beth yw bod yn ofalwr ifanc."

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Kate Cubbage:

"Yn y blynyddoedd diwethaf, mae wedi dod i'r amlwg bod gofalwyr ifanc yn darparu mwy o oriau gofal nag erioed o'r blaen, a hyn i gyd ochr yn ochr â dosbarthiadau, gwaith cartref, a cheisio cadw mewn cysylltiad â'u ffrindiau yn yr ysgol.

"Mae defnyddio'r cerdyn adnabod gofalwyr ifanc yn yr ysgol yn ffordd gyflym o egluro'r rôl ofalu, a gall hynny fod yn gam cyntaf tuag at gael gafael ar y cymorth sy'n eu helpu i ffynnu.

Mae gan lawer o ysgolion yng Nghymru arweinwyr ar gyfer gofalwyr, a bydd yr arweinwyr hynny’n gysylltiedig â'u sefydliad gofalwyr lleol. Gall pawb wedyn ddod at ei gilydd i gefnogi'r gofalwr ifanc yn yr ysgol ac yn y gymuned."

Nodiadau i olygyddion

Carers Week runs from 10-16 June 2024

Carers Week is an annual campaign to raise awareness of caring, highlighting the challenges unpaid carers face and recognise the contribution they make to families and communities throughout the UK.

This year’s theme is ‘Putting carers on the map’.

Young Carer ID Card Scheme

  • The national scheme has been funded by Welsh Government and is operated by all 22 local authorities.
  • A refresh of the scheme will commence in October 2024.
  • Young carers should check their local authority social care web pages for details on how to obtain the card. More information on Carers Trust Wales website What We Do - Young Carers ID Card | Carers Trust Wales

About young carers in Wales

  • The 2021 Census figures indicated that there were 22,550 unpaid carers under the age of 25 in Wales. Of these there were 8,230 young carers (under 18) and 14,320 young adult carers (18-25)
  • Since the 2011 Census there has been a marked increase in the proportion of children and young adults who are reporting they provide significant levels of care, namely 20 hours or more per week (increase from 15% to 27%) and also 50 hours or more per week (increase from 12% to 15%).
  • The data also highlighted that young carers and young adult carers in Wales were more likely to be living in areas of high deprivation, compared to their peers without caring responsibilities.
  • A 2023 Carers Trust survey of carers aged under 25 showed 33% always or usually struggle to balance caring with school, college, or university work. Two-fifths (40%) said they don’t get the help they need to balance caring and learning.