Cyfle i ffermydd Cymru gael benthyciadau llog isel ar gyfer buddsoddiadau cynaliadwy
Welsh farms to access low-interest loans for sustainable investment
- Gall busnesau ffermio yng Nghymru wneud cais am fenthyciadau rhwng £25,001 ac £1 miliwn o 1 Gorffennaf 2026 ymlaen
- Mae'r cynllun yn cynnig cyfradd llog sefydlog o 3%, gyda gwyliau a thymhorau ad-dalu o hyd at 15 mlynedd
- Mae hyd at £5 miliwn ar gael yn 2026/27 i gefnogi gwelliannau mewn effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy a chynhyrchiant
Bydd busnesau ffermio yng Nghymru yn gallu cael gafael ar gyllid hirdymor fforddiadwy i fuddsoddi mewn cynaliadwyedd a chynhyrchiant drwy gynllun peilot newydd gwerth £5 miliwn sy'n cael ei lansio ar 1 Gorffennaf 2026.
Bydd y Cynllun Benthyciadau Amaethyddiaeth Gynaliadwy (SALS) yn cynnig benthyciadau cyfradd sefydlog ar log o 3%, y gellir eu had-dalu dros gyfnod o hyd at 15 mlynedd. Gall busnesau fferm cymwys yng Nghymru gael benthyg rhwng £25,001 ac £1 miliwn i ariannu gwelliannau mewn effeithlonrwydd ynni, cynhyrchu ynni adnewyddadwy, rheoli gwastraff, tir ac adeiladau, ac offer newydd.
Bydd y cynllun peilot blwyddyn o hyd a gyflwynir gan Fanc Datblygu Cymru yn profi galw'r farchnad ac mae wedi'i lunio ar sail y realiti ymarferol sy'n wynebu ffermydd Cymru — gan gynnwys costau mewnbynnau ac ynni cynyddol a'r angen i fuddsoddi mewn gwydnwch hirdymor.
Dywedodd Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: "Mae ffermwyr Cymru yn uchelgeisiol ac yn flaengar, ond gall y gost ymlaen llaw o fuddsoddi mewn dyfodol mwy cynaliadwy a gwydn fod yn rhwystr go iawn.
"Mae'r cynllun hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi'r sector amaeth mewn ffordd sy'n sail i gynaliadwyedd hirdymor busnesau fferm ac sy'n hyrwyddo arloesi a thwf."
Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru:
"Mae cefn gwlad Cymru yn llawn busnesau uchelgeisiol sydd eisiau buddsoddi, addasu a meithrin gwydnwch hirdymor, ond yn aml, mae cael gafael ar y math cywir o gyllid wedi bod yn her.
"Bwriad y Cynllun Benthyciadau Amaethyddiaeth Gynaliadwy yw darparu cymorth ymarferol a fforddiadwy ar gyfer prosiectau ar y fferm sy'n ceisio cefnogi gwelliannau mewn cynhyrchiant, lleihau costau ynni a buddsoddi mewn gweithrediadau mwy cynaliadwy.
"Mae hyn yn ymwneud â helpu ffermydd Cymru i fuddsoddi ar gyfer y tymor hir wrth gefnogi'r economi wledig ehangach, cadwyni cyflenwi lleol a'r pontio i amaethyddiaeth carbon is."
Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i fusnesau gynnal gweithgareddau amaethyddol neu ategol ar dir amaethyddol yng Nghymru. Rhaid iddynt hefyd naill ai ffermio o leiaf dri hectar o dir cymwys neu ddangos mwy na 550 awr o lafur safonol yn flynyddol. Mae opsiynau ad-dalu tymhorol hefyd yn cael eu hystyried i adlewyrchu patrymau llif arian y byd amaeth.
Mae SALS yn cefnogi ymrwymiadau Llywodraeth Cymru o ran rheoli tir yn gynaliadwy, datgarboneiddio a chymunedau gwledig cryfach.
Mwy o wybodaeth yma: Y Cynllun Benthyciadau Amaethyddiaeth Gynaliadwy - Dev Bank