Cyfle i fynegi eich barn ar fesurau diogelu newydd ar gyfer morloi ac ysgyfarnogod

Have your say on new protections for seals and hares

  • Bydd ymgynghoriad pedair wythnos yn agor ar 21 Medi yn ceisio barn ar fesurau newydd i ddiogelu morloi ac ysgyfarnogod 
  • Mae'r cynigion yn cynnwys trosedd newydd am aflonyddu ar forloi a thymor cau i amddiffyn ysgyfarnogod yn ystod eu cyfnod bridio 
  • Gall pobl rannu eu barn unwaith y bydd yr ymgynghoriad yn lansio yn ddiweddarach y mis hwn 

Mae pobl yng Nghymru yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar fesurau newydd i ddiogelu morloi ac ysgyfarnogod. 

Bydd yr ymgynghoriad yn agor ar 21 Medi ac yn parhau am bedair wythnos. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am farn ar ddau gynnig: ei gwneud hi'n drosedd i aflonyddu ar forloi yn fwriadol neu'n ddi-hid, a chyflwyno tymor cau statudol ar gyfer ysgyfarnogod lle bydd yn anghyfreithlon i anafu, cymryd neu ladd ysgyfarnogod. 

Mae Cymru yn gartref i safleoedd bridio morloi llwyd pwysig, gan gynnwys Bae Angel ger Llandudno, lle mae morloi yn gorffwys, yn bwrw ac yn magu eu morloi bach. Gall aflonyddwch achosi niwed gwirioneddol, weithiau gan arwain at famau a'u morloi bach yn cael eu gwahanu.  

Yn wahanol i rywogaethau hela eraill, nid oes gan ysgyfarnogod yng Nghymru dymor bridio gwarchodedig ar hyn o bryd, sy'n golygu y gellir eu lladd ar unrhyw adeg o'r flwyddyn, gan gynnwys pan fo benywod yn feichiog neu'n gofalu am rai bach. 

Bwriad y cynigion hyn yw lleihau niwed y gellir ei osgoi i anifeiliaid gwyllt a chau bylchau yn y rheolau presennol. Gall unigolion a sefydliadau gyfrannu at yr ymgynghoriad cyn gwneud penderfyniadau ar sut i fwrw ymlaen. Mae ffermwyr, rheolwyr tir, pysgotwyr, grwpiau cadwraeth ac aelodau o'r cyhoedd i gyd yn cael eu hannog i fynegi eu barn. 

Mae'r cynigion yn rhan o ymdrech ehangach i foderneiddio a symleiddio cyfraith bywyd gwyllt yng Nghymru. 

Dywedodd Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: 

"Rwyf am i bobl ledled Cymru fynegi eu barn ar y cynigion hyn. Rydym wedi gwrando ar bryderon am y niwed y gall aflonyddwch ei achosi i forloi a'u morloi bach, ac am y bwlch mewn amddiffyniad i ysgyfarnogod yn ystod eu tymor bridio.  

"Rydyn ni eisiau i bawb allu mwynhau bywyd gwyllt ysblennydd Cymru. Y cwestiwn yw sut rydyn ni'n sicrhau eu bod yn gallu gwneud hynny'n gyfrifol. 

"Rwy'n awyddus i glywed ystod eang o safbwyntiau cyn i ni benderfynu sut orau i symud ymlaen a byddwn yn annog pawb i lenwi'r ymgynghoriad newydd hwn." 

Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Nigel Harrison, arweinydd plismona cenedlaethol ar gyfer bywyd gwyllt a throseddau gwledig: 

"Mae ein swyddogion yn ymateb yn rheolaidd i adroddiadau o forloi yn cael eu tarfu ar safleoedd fel Angel Bay. Byddai trosedd benodol yn rhoi ffordd gliriach a mwy effeithiol i ni amddiffyn yr anifeiliaid hyn ac ymateb pan achosir niwed.  

"Rydym yn cefnogi'r ymgynghoriad hwn a byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwarchod bywyd gwyllt i gymryd rhan."