Cyfleuster depo newydd yng Nghaerdydd yn cyflymu gwaith atgyweirio a gwasanaethu trenau
New Cardiff depot facility speeds up train repairs and servicing
- Bydd teithwyr ledled De Cymru yn elwa o wasanaethau mwy dibynadwy yn dilyn buddsoddiad o £12m yn depo rheilffyrdd Treganna Caerdydd
- Mae canolfan cynnal a chadw newydd yn caniatáu i beirianwyr wasanaethu ac atgyweirio trenau yn gyflymach, ar y safle, gan leihau yr amser pan na fydd modd defnyddio'r trenau.
- Bydd y cyfleuster yn cynnal a gwasanaethu fflyd o drenau newydd Trafnidiaeth Cymru.
Mae canolfan cynnal a chadw newydd gwerth £12m wedi'i gosod yn depo rheilffyrdd Treganna yng Nghaerdydd i helpu i gynnal a gwasanaethu fflyd o drenau newydd Trafnidiaeth Cymru.
Mae'r cyfleuster newydd - a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Trafnidiaeth Cymru - yn caniatáu i beirianwyr symud, atgyweirio ac ailosod yr olwyn a'r offer o dan y ffrâm o dan gerbydau trên yn fwy diogel ac effeithlon nag o'r blaen.
Gall trenau a oedd yn flaenorol yn ael eu hanfon i rywle arall ar y rhwydwaith ar gyfer cynnal a chadw arbenigol bellach gael eu gwasanaethu ar y safle, sy'n golygu eu bod yn dychwelyd i'r gwasanaeth yn gyflymach.
Gwnaed y cyhoeddiad gan y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth Mark Hooper yn ystod ymweliad â'r safle. Dywedodd:
"Mae'r buddsoddiad hwn yn Nhreganna yn rhan o'n hymrwymiad i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth modern, gwydn - un sy'n perfformio'n dda i'r teithwyr sy'n dibynnu arno bob dydd.
"Trwy gynnal mwy o'n fflyd yn lleol ac yn effeithlon, gallwn gael trenau yn ôl i wasanaeth yn gyflymach a pharhau i wella dibynadwyedd a phrydlondeb i deithwyr ledled y rhanbarth."
Mae depo Treganna yn cynnal trenau sy'n gwasanaethu cymunedau ledled De Cymru. Bydd y cyfleuster yn arbennig o bwysig yn ystod yr hydref, pan fydd dail ar y llinell a thywydd garw yn cynyddu'r galw am gynnal a chadw cyflym.
Mae'r buddsoddiad hwn yn adlewyrchu polisi Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu capasiti cynnal a chadw rheilffyrdd mewnol yng Nghymru, lleihau dibyniaeth ar gyfleusterau y tu allan i Gymru ac adeiladu gwytnwch hirdymor i'r rhwydwaith.
Dywedodd Dan Tipper, Prif Swyddog Seilwaith Trafnidiaeth Cymru:
"Rydym yn falch iawn o weld y cyfleuster cynnal a chadw newydd yn gweithio yn swyddogol yn ein depo yn Nhreganna. Mae'r buddsoddiad hwn o £12 miliwn yn garreg filltir wych yn ein taith i drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru a'r Gororau.
"Trwy ddod â'r gallu cynnal a chadw arbenigol hwn yn fewnol, gallwn gyflymu amseroedd atgyweirio yn sylweddol, gwella dibynadwyedd dyddiol, a sicrhau ein bod yn cadw mwy o drenau yn rhedeg i'n cwsmeriaid a'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu."