English icon English
nathalia-rosa-rWMIbqmOxrY-unsplash-2

Cyflwyno cyfyngiad ar gynnyrch â braster, siwgr a halen uchel.

Restriction on high fat, sugar and salt products to be introduced.

Bydd deddfwriaeth newydd i gyfyngu ar werthu cynnyrch uchel mewn braster, siwgr a halen am brisiau rhatach dros dro, ac i gyfyngu ar eu lleoliad mewn siopau, yn cael ei chyflwyno yng Nghymru.

Mae’r gyfraith newydd, a fydd yn cael ei chyflwyno yn 2024 ac mewn grym ar draws Cymru erbyn 2025, yn adeiladu ar yr ymrwymiad i wella deiet ac atal gordewdra drwy gyfyngu ar y ffyrdd y gellir hyrwyddo bwydydd uchel mewn braster, siwgr neu halen.

Bydd hyn yn cynnwys cynigion cyfaint, fel opsiynau amleitem a chyfyngiadau ar ble gellir arddangos cynnyrch uchel mewn braster, siwgr neu halen mewn siopau, fel ar ben yr eil. Yn ogystal, er mwyn mynd i’r afael â graddfa’r her, bwriedir cynnwys prisiau rhatach dros dro a chynigion ‘bargen pryd bwyd’. Er na fyddai’n gwahardd bargeinion pryd bwyd na mathau eraill o gynigion, byddai’n cyfyngu ar gynnwys y cynnyrch lleiaf iach yn y cynigion hyn.

Mae cynnyrch sy’n uchel mewn braster, siwgr neu halen yn dueddol o gael eu hyrwyddo’n fwy, a byddant yn cael eu lleoli mewn safleoedd amlycach mewn siopau. Mae hyn yn annog pobl i brynu’n fyrbwyll, ac yn golygu y bydd pobl yn prynu mwy o fwyd nad ydynt yn rhai iach, yn gwario wario mwy, ac yn bwyta mwy nag yr oeddent wedi’i fwriadu.

Mae dros 60% o oedolion yng Nghymru’n drymach na’r hyn sy’n bwysau iach, ac mae dros chwarter o blant dros eu pwysau neu’n ordew erbyn y byddant yn dechrau yn yr ysgol. Gall hyn gael effaith sylweddol ar iechyd pobl, gyda lefelau clefydau cysylltiedig â gordewdra, fel diabetes math 2, ar eu huchaf erioed yng Nghymru. 

Dangosodd arolwg Amser i Siarad diweddar Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cefnogaeth gryf gan y cyhoedd ar gyfer camau’r llywodraeth i wneud ein bwyd yn iachach, gyda 57 y cant o bobl yn cytuno y dylai llywodraethau ddefnyddio dulliau ariannol fel trethi i leihau siwgr mewn bwydydd â lefelau uchel o siwgr. Dywedodd wyth deg pedwar y cant o ymatebwyr eu bod yn bwriadu gweithredu yn y 12 mis nesaf i gyrraedd neu i gadw pwysau iach.

Er na fydd y ddeddfwriaeth hon yn berthnasol i bob cynnyrch uchel mewn braster, siwgr a halen, bydd yn targedu’r bwyd a diod sy’n cyfrannu fwyaf at ordewdra.

Y gobaith yw y bydd y mesurau hyn yn annog y diwydiant bwyd a manwerthu i ystyried sut y gellir sicrhau bod dewisiadau iachach ar gael yn haws ac yn fwy fforddiadwy, fel y gall pawb fforddio deiet iach. Gallai hyn gynnwys darparu mwy o gynigion ar fwydydd iachach neu leihau cynnwys y braster, siwgr a halen yn y cynnyrch sy’n berthnasol i’r cyfyngiadau ar hyn o bryd. 

I'w gwneud yn haws i’r diwydiant bwyd weithredu ar draws ffiniau, y nod yw y bydd cynnyrch sy’n dod o dan y ddeddfwriaeth newydd yn cyd-fynd â’r cynnyrch sydd wedi’i gynnwys yn neddfwriaeth Lloegr. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio'n agos gyda’r diwydiant bwyd i roi canllawiau iddynt a’u cefnogi i ail-greu cynnyrch er mwyn lleihau’r lefelau braster, siwgr a halen.

Mae tystiolaeth yn parhau i gael ei hystyried ar gyfer cynigion eraill sy’n destun ymgynghoriad ar yr un pryd, gan gynnwys tystiolaeth mewn lleoliadau y tu allan i’r cartref, fel labeli calorïau ac atal gwerthiant diodydd egni i blant o dan 16 oed.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:

“Bydd y ddeddfwriaeth hon yn datblygu ein hymrwymiad i wella deiet pobl a helpu i atal gordewdra yng Nghymru. Er bod deddfwriaeth debyg yn cael ei chyflwyno yn Lloegr, rwyf o blaid cynnwys prisiau rhatach dros dro a chynigion bargen pryd bwyd yn ein cyfyngiadau ni.

“Ni fyddwn yn gwahardd unrhyw gynnyrch nac unrhyw fath o gynnig. Ein nod yw ailgydbwyso ein hamgylcheddau bwyd tuag at gynnyrch iachach, fel bod y dewis iach yn ddewis hawdd.

“Mae hyn yn rhan bwysig o’r jig-so fel rhan o’n strategaeth Cymru Iach: Pwysau Iach fel rhan o ddull aml-elfen. Mae ein cenhedlaeth nesaf yn haeddu ‘normal’ gwahanol, lle bydd bwydydd iachach ar gael yn haws, yn fwy fforddiadwy, ac yn fwy atyniadol, a lle nad yw bwydydd braster, siwgr a halen uchel yn rhan ganolog o’n deiet. Mae ein cenhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol yn haeddu gwell.”

Dywedodd Gemma Roberts, Cyd-gadeirydd Cynghrair Gordewdra Cymru:

“Mae Cynghrair Gordewdra Cymru yn gefnogol iawn o strategaeth Pwysau Iach Cymru Iach Llywodraeth Cymru. Mae argyfwng gordewdra yng Nghymru, ac ry’n ni’n falch o weld bod Llywodraeth Cymru’n cynnig deddfwriaeth a fydd yn cefnogi pobl Cymru i wneud dewisiadau iachach.

Mae prisiau rhatach dros dro yn dechnegau marchnata sy’n cael eu defnyddio i gynyddu gwerthiant a chynyddu’r nifer sy’n cael eu bwyta. Nid rhoddion am ddim ydyn nhw, a dydyn nhw ddim yn arbed arian inni. Rydym mewn argyfwng costau byw, ac mae defnyddwyr yn cael eu peledu â chynigion arbennig sy’n cynyddu gwariant ar y cynnyrch lleiaf iach. Mae angen i Gymru symud y cydbwysedd a chefnogi teuluoedd i’w gwneud yn haws i brynu ffrwythau a llysiau”.

Dywedodd Dr Ilona Johnson, Meddyg Ymgynghorol mewn Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu’r ddeddfwriaeth newydd hon i gefnogi pobl i wneud y dewisiadau iachach y gwyddom eu bod yn dymuno eu gwneud. Gyda mwy na 60 y cant o oedolion ac oddeutu chwarter y plant o dan bump nawr dros eu pwysau neu’n ordew, mae hwn yn fater difrifol yng Nghymru. Mae hwn yn fater eithriadol o gymhleth a does dim un ateb clir. Gwyddom o’r dystiolaeth fod polisïau sy’n targedu’r amgylchedd bwyd yn effeithiol a bod fframwaith deddfwriaethol cryf yn gam pwysig i’n helpu ni i newid y cydbwysedd tuag at ddewisiadau iachach a phobl iachach. 

Cynhelir ymgynghoriad ar fesurau gorfodi yn nes ymlaen eleni. 

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Notes

  • The high fat, sugar and salt products which will be included within the legislation will be the same products including within England’s upcoming legislation to make it easier for the food industry to operate across borders.
  • Some retailers are already voluntarily making changes to support healthier food environments such as not selling confectionery at checkouts and reformulating some product lines to contain less fat or sugar.
  • The legislation builds on proposals in the Health Food Environment Consultation
  • A statement on the additional proposals within the Healthy Food Environment consultation will be made in the Senedd in due course.