English icon English
Discover Wales SVW-C85-1617-0206-2

Cyflwyno Cymru i Brynwyr Rhyngwladol

Wales to Showcase Tourism Offering to International Buyers

Bydd cynrychiolwyr o bron i 30 o brif gwmnïau teithiau - sy'n gyfrifol am ddod â miloedd o ymwelwyr rhyngwladol o bob cwr o'r byd i'r DU bob blwyddyn - yn cymryd rhan mewn digwyddiad 'Darganfod Cymru' yng Nghaerdydd a'r cyffiniau rhwng 8-10 Hydref.

Prif nod y digwyddiad yw cyflwyno'r gweithredwyr teithiau i gyflenwyr Cymru fel rhan o'r cynllun i hybu nifer yr ymwelwyr rhyngwladol i'r wlad o farchnadoedd allweddol fel UDA ac Ewrop a fydd yn helpu i gynyddu refeniw i'r economi ymwelwyr.

Cynhelir y digwyddiad gan Croeso Cymru rhwng dydd Sul 8 a dydd Mawrth 10 Hydref mewn partneriaeth â'r gymdeithas masnach deithio UKinbound, Home | Southern Wales Tourism, The Royal Mint, GWR a Gwesty'r Parkgate.  Bydd y gweithredwyr yn cymryd rhan mewn ymweliad cynefino deuddydd sy'n cynnwys atyniadau allweddol fel Maenor Llancaiach Fawr, Gwaith a Chrochendy Nantgarw, Castell Ogwr a Bae Caerdydd. 

Yna bydd y gweithredwyr yn cymryd rhan mewn digwyddiad rhwydweithio yn Y Bathdy Brenhinol a gweithdy yng Ngwesty'r Parkgate, Caerdydd, gyda 30 o fusnesau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru sy'n cynnwys Elm Grove Country House, Jin Crefft & Profiadau Jin Cymraeg - Hensol Castle Distillery a Dylan’s Restaurants.  Bydd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr o VisitBritain hefyd yn bresennol.

Mae ymchwil diweddar gan Croeso Cymru yn dangos bod gweithredwyr teithiau mewn marchnadoedd allweddol wedi sbarduno tua 275,000 o nosweithiau a oedd werth £17.9m i Gymru yn 2022. Amcangyfrifir bod Croeso Cymru wedi cyfrannu at oddeutu £8.4m o gyfanswm y gwerth.  Mae gweithredwyr y DU ac Iwerddon (£11.1m) - domestig ac o’r tu allan - wedi sbarduno dros hanner cyfanswm y gwerth, gyda Gogledd America (£3.2m) yn cyfrannu bron i hanner y gweddill.  Mae gan dros 70% o'r cwmnïau teithiau hynny a gyfwelwyd ddiddordeb mewn datblygu neu werthu mwy o gynnyrch yng Nghymru, gyda thraean o'r gweithredwyr â 'diddordeb cryf'.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio eto gyda UKinbound i gynnal digwyddiad Darganfod Cymru.  Rydym yn gwybod pa mor hanfodol yw'r fasnach deithio i sbarduno busnes twristiaeth i Gymru, yn enwedig yn rhyngwladol, ac mae'n cyd-fynd â'n strategaeth dwristiaeth i gefnogi'r tair agwedd ar y gwaith: tymhorol, lledaeniad a gwariant. Rydym yn gwerthfawrogi'r rôl sylweddol gweithredwyr teithiau wrth gyflwyno Cymru i farchnadoedd rhyngwladol lle maent yn weithredol.  Rwy'n siŵr y bydd Cymru yn creu argraff fawr ar y gweithredwyr teithiau ar ôl iddynt y profiadau o'r radd flaenaf y gallwn eu cynnig yma - ac edrychwn ymlaen at eu croesawu nhw - a'u cleientiaid - yn ôl i Gymru yn fuan."

Dywedodd Joss Croft OBE, Prif Swyddog Gweithredol UKinbound: "Mae'r mathau hyn o ddigwyddiadau yn hanfodol i'n gweithredwr teithiau.  Mae gallu profi'r ystod lawn o weithgareddau, tirweddau a llety anhygoel sydd ar gael yng Nghymru yn golygu y byddant yn gallu marchnata’r rhain yn fwy llwyddiannus yn y pen draw i ymwelwyr rhyngwladol sydd â diddordeb mewn dod i'r DU. 

"Yn yr un modd, mae'r digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i fusnesau lleol feithrin perthnasoedd gwerthfawr newydd â diwydiant teithiau’r DU a fydd yn eu helpu i ddenu mwy o gwsmeriaid a mwy o refeniw y mae gwir eu hangen yn dilyn y pandemig."

Bydd Eurowelcome, y gweithredwr teithiau mwyaf ar gyfer Sbaen ac America Ladin yn mynychu'r digwyddiad.  Yn dilyn trafodaethau gyda Croeso Cymru, mae Eurowelcome yn ehangu ei ddarpariaeth gyda chyfres newydd ar gyfer 2024 o raglen 10 taith ar gyfer marchnad Gogledd America sy’n cynnwys Cymru.  

Dywedodd Chris Pourgourides, Eurowelcome: "Rydym wedi datblygu taith newydd sbon i Gymru gan ein bod wedi bod yn gweld mwy a mwy o ddiddordeb o fewn y farchnad ar gyfer ymweld â Chymru.  Rydym yn dethol yr atyniadau eiconig, er enghraifft Castell Caernarfon, ac yn eu cymysgu â phrofiadau dilys lleol ac un o fy ffefrynnau yw purfa Halen Môn ar Ynys Môn nad oes mo’i debyg yn unman arall ac rydym yn credu y bydd yn creu argraff fawr ar ein gwesteion.  Bu tîm Croeso Cymru yn help mawr i ni o ran cynllunio teithiau, a hefyd o ran goresgyn rhai o’r heriau yr ydym wedi'u hwynebu, ac ni allem fod wedi gwneud hynny heb arbenigedd Croeso Cymru.  Rwy'n ddiolchgar iawn i'r tîm ac yn edrych ymlaen at ddod â llawer o bobl i Gymru."