English icon English
From L to R Charles Janczewski, 'Jan', Chair Cardiff & Vale University Health Board; Magda Meissner, Project Lead; Eluned Morgan, Minister for Health and Social Services; Sian Morgan, Project Lead

Cyflwyno prawf newydd yng Nghymru i chwyldroi diagnosis o ganser yr ysgyfaint

New test to revolutionise lung cancer diagnosis rolled out in Wales.

Gallai prawf gwaed ar gyfer biopsi hylif arloesol i wella triniaeth ar gyfer canser yr ysgyfaint helpu mwy o bobl yng Nghymru.

Canser yr ysgyfaint yw’r pedwerydd mwyaf cyffredin yng Nghymru a’r canser sy’n achosi’r nifer mwyaf o farwolaethau. Drwy gynyddu’r defnydd o fiopsi hylif anfewnwthiol (sampl gwaed) yn gynharach yn y llwybr canser, gellir gwneud penderfyniadau cyflymach am driniaethau wedi’u targedu, a darparu’r triniaethau hynny’n gynt hefyd. Bydd hyn yn gwella canlyniadau cleifion a chyfraddau goroesi.

Mae’r defnydd newydd o’r prawf gwaed yn bosibl diolch i Wasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan, technoleg Illumina, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a buddsoddiad gan sawl sefydliad sy’n bartneriaid yn y fenter. Gall y defnydd newydd o’r prawf gwaed ganfod marcwyr canser lluosog heb fod angen biopsi meinwe mewnwthiol.

Bydd yr astudiaeth newydd hon yn gwerthuso manteision biopsi hylif pan fo amheuaeth bod gan rywun ganser yr ysgyfaint. Bydd yn edrych ar sut y gall ei ddefnyddio’n gynharach yn y broses ddiagnostig wella a chyflymu diagnosis a lleihau’r amser rhwng diagnosis a thriniaeth. Bydd hefyd yn helpu i ddeall sut y gellir defnyddio’r dechnoleg hon pan fo amheuaeth bod gan rywun fathau eraill o ganser.

Mae disgwyl i’r defnydd o fiopsi hylif ym maes meddygaeth genomig ddod yn rhan ganolog o ofal iechyd a rhoi dealltwriaeth well o salwch, gwella canlyniadau cleifion a thrawsnewid bywydau. Yn y dyfodol, mae ganddo’r potensial i ddarparu ffordd syml, hwylus a dibynadwy o archwilio canser a amheuir a ffordd lai mewnwthiol o fonitro ar gyfer canser yn dychwelyd.

Mae profi’r defnydd o dechnolegau newydd megis biopsi hylif yn un enghraifft o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu trawsnewid gwasanaethau diagnostig yng Nghymru, fel y nodir yn Strategaeth Ddiagnosteg Cymru sy’n cael ei lansio heddiw [25 Ebrill]. Bydd y strategaeth hon yn darparu gwasanaethau i leihau amseroedd aros profion diagnostig, gwella canlyniadau cleifion, a chefnogi’r gweithlu diagnostig ar draws ein Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Mae Cymru wedi bod yn arwain y ffordd o ran sut rydyn ni’n integreiddio profion genomig mewn gwasanaethau iechyd i chwyldroi gofal iechyd. Fe allai biopsi hylif roi manteision gwirioneddol i gleifion yng Nghymru ac achub bywydau drwy’n helpu ni i ganfod a thrin canser yn gynharach.

“Dyma enghraifft allweddol o sut all gweithio mewn partneriaeth ar draws sawl sector gyfrannu at ganlyniadau iechyd gwell. Mae hyn yn rhan o’n gwaith ehangach i adfer a thrawsnewid gwasanaethau drwy Strategaeth Ddiagnosteg Cymru.”

Dywedodd Craig Maxwell, cynrychiolydd cleifion y grŵp llywio QuicDNA:

“Cefais ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint EGFR nad oedd modd ei wella na’i drin drwy lawdriniaeth pan o’n i’n 40 oed. Mae gen i felly brofiad uniongyrchol o’r llwybr diagnostig ar gyfer canser yng Nghymru. Mae Cymru mor ffodus o’i nyrsys a’i meddygon ardderchog sy’n ein cefnogi ar y llwybr hwn. Mae cyfrifoldeb arnon ni i gyd i wneud yn siŵr bod y dechnoleg orau a diweddaraf ar gael iddyn nhw i gynnal y llwybr diagnostig. Mae’r astudiaeth glinigol hon yn gam mawr ymlaen i helpu cleifion canser, fel fi.

Ar ôl i fy nhiwmor gael ei ddarganfod, cymerodd hi 72 o ddiwrnodau anodd, llawn straen, i wybod pa fath o ganser oedd gen i. Bydd y dechnoleg newydd hon yn helpu i roi canlyniadau’n gyflymach, gan alluogi cleifion canser i gael triniaeth yn gynharach a’u helpu i gynllunio, gyda’u teuluoedd, at y bywyd newydd sydd o’u blaenau. Rhaid inni sicrhau bod y profion arloesol newydd hyn ar gael ym mhob rhan o Gymru, ac y gall ein nyrsys a’n meddygon ardderchog ddefnyddio’r dechnoleg hon i’w helpu nhw i’n helpu ni.”

DIWEDD

 

Nodiadau i olygyddion

Notes

This is the first time this test has been analysed in-house in the NHS. 

A very limited liquid biopsy test is already offered by AWMGS to a small number of people where tissue biopsy material is not available. 

The clinical study will involve 1260 patients who are being investigated for suspected stage III and IV lung cancer. Patients will have a liquid biopsy test in addition the standard diagnostic tests (e.g. tissue biopsy and tissue genomic profiling).

Full list of organisations involved.

  • The All Wales Medical Genomics Service (AWMGS)
  • Genomics Partnership Wales.
  • Health and Care Research Wales
  • Centre for Trials Research
  • Aneurin Bevan University Health Board
  • Cardiff and Vale University Health Board
  • Life Sciences Hub Wales
  • Wales Cancer Network
  • Moondance Cancer Initiative
  • Tenovus Cancer Care
  • Amgen (through Collaborative Working Agreement)
  • Illumina (through Collaborative Working Agreement)
  • AstraZeneca (through Donation & Grants)
  • Bayer (through Donation & Grants)
  • Lilly (through Donation & Grants)

In Wales, lung cancer is the third most common cancer in women and the fourth most common cancer in men. However, it is the most common cause of cancer death overall. The majority of patients are diagnosed with advanced stage (stage 3 and 4) disease. There is only a 16% one-year survival rate for patients with stage 4 disease.