English icon English

Cyfnewidfa fysiau newydd Caerdydd yn croesawu 9,000 o deithwyr y dydd

Cardiff’s new bus interchange welcomes 9,000 passengers a day

Ers agor ei drysau ym Mis Mehefin, mae Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd bellach yn croesawu hyd at 9,000 o deithwyr y dydd.

Ar ôl ychwanegu pedwar ar ddeg o wasanaethau pellach ym mis Medi mae nifer y bysiau sy'n defnyddio'r gyfnewidfa wedi cynyddu o 1,830 i 3,476 yr wythnos, gan ddod â rhwng 8,000 a 9,000 o deithwyr y dydd i’r safle.

Mae'r gwasanaethau newydd wedi dyblu nifer y cyrchfannau sy'n helpu i ddarparu cysylltiadau i deithwyr ledled Caerdydd yn ogystal â Chasnewydd. A chyda gwasanaeth First Cymru Bus yn ymuno o 5 Ionawr 2025, bydd gwasanaethau i Fro Morgannwg a Phorthcawl yn gweithredu yn fuan o'r gyfnewidfa fysiau newydd gan fynd â chyfanswm y gwasanaethau i dri deg un.

Mae Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn rhan o uchelgais ehangach i wella seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig ar draws rhanbarth Metro y de-ddwyrain.

Wrth siarad ar ymweliad â'r gyfnewidfa, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

"Rwy'n falch iawn bod y gyfnewidfa fysiau newydd yn helpu i ddarparu rhwydwaith bysiau gwell ar draws de-ddwyrain Cymru, gan gysylltu cymunedau ar draws y brifddinas a darparu dewis amgen go iawn i bobl deithio yn gynaliadwy.

"Rydyn ni'n gwybod bod bysiau'n hanfodol i lawer o bobl gyrraedd y gwaith, ymweld â ffrindiau a theulu a chael mynediad at wasanaethau a dyna pam rydyn ni'n gweithredu'n radical i wella gwasanaethau bysiau lleol ledled Cymru.

"Yn gynnar y flwyddyn nesaf, byddwn yn cyflwyno bil a fydd yn ein galluogi i ddylunio rhwydwaith a fydd yn darparu rhwydwaith mwy integredig o wasanaethau sy'n canolbwyntio ar y cwsmer."

Roedd hygyrchedd yn ffactor allweddol wrth ddylunio'r gyfnewidfa newydd. Yn ogystal â llysgenhadon wrth law i helpu teithwyr lle bo angen, mae gan y cyntedd hefyd lawr cyffyrddol i gynorthwyo cwsmeriaid dall a rhannol ddall a map hygyrchedd ar gyfer gwybodaeth ynghylch ble i ddod o hyd i faeau a chyfleusterau.

Wrth sôn am y cyfleuster newydd, dywedodd Dr Robert Gravelle, Rheolwr Mynediad a Chynhwysiant Amlfoddol Trafnidiaeth Cymru

"Roeddem yn falch o fynd ar daith o amgylch Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates. Roedd yn galonogol gweld sut mae cyfranogiad cynnar y Panel wedi helpu i wneud y Gyfnewidfa yn amgylchedd hygyrch a chroesawgar i bobl anabl.  Cynhaliwyd  trafodaeth bord gron hefyd ar y rhwystrau sy'n wynebu teithwyr anabl sy’n defnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus, a chydag arweinyddiaeth a chefnogaeth tîm Mynediad a Chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru, byddwn yn parhau i weithio am drafnidiaeth hygyrch ac integredig i’n holl gymunedau."