Cyfraith newydd i gael gwared â rhwystrau i bleidleiswyr ac ymgeiswyr yng NghymruCyfraith newydd i gael gwared â rhwystrau i bleidleiswyr ac ymgeiswyr yng Nghymru
New law will remove barriers for voters and candidates in Wales
Heddiw, [dydd Llun, 2 Hydref] cyflwynodd Llywodraeth Cymru Fil sy'n paratoi’r ffordd ar gyfer cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig mewn etholiadau yng Nghymru yn y dyfodol.
Bydd Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn moderneiddio'r ffordd y caiff etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau'r Senedd eu cynnal. Mae’n cadarnhau bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cofrestru awtomatig ledled Cymru ar gyfer yr etholiadau hynny, unwaith y bydd rhaglen beilota wedi'i chyflawni.
Bydd awdurdodau lleol yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn cyfres o dreialon a fydd yn canolbwyntio ar y ffordd orau o gasglu data, gan gynnwys defnyddio data sy'n bodoli eisoes, i gefnogi cofrestru awtomatig.
Mae'n rhaid i bobl gofrestru i bleidleisio ar hyn o bryd, ond o dan y cynigion newydd, bydd yn ofynnol i awdurdodau llywodraeth leol gofrestru pobl ar y gofrestr llywodraeth leol heb yr angen am gais. O ganlyniad, bydd pleidleisio'n symlach – yn arbennig i bobl ifanc ac i bobl sydd wedi symud i fyw i Gymru o wlad arall.
Bydd y ddeddfwriaeth newydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion sefydlu cronfa i helpu gyda chostau ychwanegol sy’n wynebu pobl anabl sy'n sefyll mewn etholiadau yng Nghymru yn y dyfodol (ee offer symudedd a meddalwedd cyfathrebu). Mae hyn yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus gyda chronfa o'r fath a dreialwyd yn etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2021 ac yn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022.
Gofyniad arall yn y Bil yw i Weinidogion Cymru sefydlu platfform ar-lein a fydd yn cynnwys gwybodaeth i bleidleiswyr am etholiadau yng Nghymru. Bydd hyn yn sicrhau bod gwybodaeth am etholiadau ac ymgeiswyr ar gael yn rhwydd i bawb.
Dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:
"Mae'r diwygiadau yn y Bil hwn yn cynnal y cynnydd sylweddol rydym wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ran cryfhau democratiaeth yng Nghymru, gan gynnwys estyn y bleidlais i bobl ifanc 16 a 17 oed a gwladolion tramor cymwys. Ein huchelgais yw y bydd y newidiadau ar waith mewn pryd ar gyfer yr etholiadau datganoledig a lleol mawr nesaf yn 2026 a 2027, gan ddod â ni gam arall yn nes at gyflawni ein gweledigaeth hirdymor o ran diwygio etholiadol.
"Yn y pen draw, hanfod hyn yw gwneud pethau mor hawdd â phosibl i bobl bleidleisio a chymryd rhan mewn democratiaeth. Mae ein camau i gael gwared ar rwystrau yn gyferbyniad llwyr â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd wedi atal rhai pleidleiswyr rhag arfer eu hawl ddemocrataidd drwy ei gwneud yn ofynnol i gael cerdyn adnabod ffotograffig mewn etholiadau lleol diweddar yn Lloegr."
Dywedodd Jess Blair, Cyfarwyddwr Electoral Reform Society Cymru:
“Bydd y ddeddfwriaeth sy’n cael ei chyflwyno heddiw gan Lywodraeth Cymru yn dod â democratiaeth Cymru i’r ganrif bresennol. Rydyn ni’n croesawu’r modd y mae Gweinidogion yn edrych ar sut i wneud pleidleisio yn haws i bobl drwy gael gwared â rhwystrau rydyn ni’n gwybod y mae nifer o bobl yn eu hwynebu.
“Bydd symud at Gofrestru Pleidleiswyr yn Awtomatig yn cael gwared â rhwystr i bleidleiswyr sydd newydd gael yr hawl i bleidleisio. Gobeithio y bydd yn arwain at fwy o rannu gwybodaeth rhwng gwasanaethau fel na fydd pleidleiswyr mwyach yn gorfod trafferthu newid eu manylion pan fyddant yn symud cartref. Mae’r cam hwn yn rhoi Cymru ochr yn ochr â gwledydd democrataidd eraill ledled y byd sy’n cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig fel mater o drefn.
“Rydyn ni’n croesawu’r darpariaethau i sefydlu platfform gwybodaeth newydd i bleidleiswyr. Bydd cael un man penodol lle y bydd gwybodaeth am ddemocratiaeth yng Nghymru ar gael yn ei gwneud yn haws i bleidleiswyr gael gafael ar adnoddau sydd mewn sawl man ar hyn o bryd."