English icon English

Cyfraith newydd yn gwella ailgylchu yn y gweithle a record drawiadol Cymru

New law will improve workplace recycling and Wales’ already impressive record

Bydd record ailgylchu drawiadol Cymru yn gwella diolch i gyfraith newydd a basiwyd yn y Senedd wythnos diwethaf.

Bydd y rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle busnes, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector wahanu deunyddiau allweddol y gellir eu hailgylchu yn y ffordd y mae cartrefi eisoes yn ei wneud ar draws y rhan fwyaf o Gymru.

Bydd y gyfraith yn dod i rym ar 6 Ebrill 2024 a bydd yn cynyddu ailgylchu ac yn lleihau faint o wastraff a anfonir i'w losgi ac i safleoedd tirlenwi.

Bydd hefyd yn gwella ansawdd a maint deunyddiau ailgylchadwy a gesglir o weithleoedd, a fydd yn ei dro yn dal deunyddiau pwysig i'w bwydo'n ôl i economi Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, "Rwyf wedi datgan erioed bod gennym ddull 'Tîm Cymru' o ymdrin â phopeth a wnawn i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

"Mae'n bwysig bod yr ymdrech ar y cyd hon yn deillio o'r busnesau a'r sefydliadau mwyaf i'r lleiaf wrth helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur a gwella ailgylchu.

"Rwyf mor falch ein bod wedi cyrraedd carreg filltir wrth basio'r gyfraith bwysig hon a fydd yn ein helpu i gymryd cam sylweddol tuag at economi gryfach a gwyrddach fel yr ymrwymwyd iddi o fewn ein Rhaglen Lywodraethu.

Felly mae’n briodol bod y Rheoliadau hyn wedi’u gwneud ar adeg sy’n cyd-fynd â Chynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP28) gan eu bod yn adeiladu ar ein hymrwymiad i fod yn ddiwastraff ac i sicrhau allyriadau carbon sero net erbyn 2050.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Bluestone, Marten Lewis: "Mae ailgylchu yn gwneud synnwyr busnes yn ariannol. Mae'n rhatach, mae'n lleihau ein hôl troed carbon, yn cyd-fynd â'n gwerthoedd, ac yn cyflawni ein cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

"Rydym wedi bod yn gwahanu ein cynnyrch gwastraff ers sawl blwyddyn, felly nid yw addasu i'r ddeddfwriaeth newydd wedi bod yn rhy wahanol. Mae'r ymateb cyffredinol i'r newidiadau gan staff a gwesteion wedi bod yn gadarnhaol, gyda'r rhan fwyaf o bobl yn dweud bod y biniau newydd yn gwneud y broses ailgylchu yn haws i ddeall beth sy'n mynd ble.

"Yr allwedd i gydymffurfio â'r newidiadau yn y gyfraith, yn enwedig yn ein sector ni, lle rydym yn delio â llawer iawn o staff a gwesteion, yw cynllunio ymhell ymlaen llaw. Po gynharaf y gallwch ddechrau gweithredu'r newidiadau, gorau oll."

Dywedodd Jacob Hayler, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol: "Mae'r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle newydd yn nodi cam mawr arall ymlaen ar gyfer ailgylchu Cymru, gan adeiladu ar y system lwyddiannus o gartrefi.

"Mae'r diwydiant ailgylchu a rheoli gwastraff yn cefnogi mesurau i gysoni gofynion, sy'n lleihau dryswch, yn cynyddu cyfranogiad, ac yn hybu perfformiad. Mae'r sicrwydd y mae rheoleiddio clir ac amserol yn ei ddarparu hefyd yn galluogi diwydiant i fuddsoddi yn y gwasanaethau sydd eu hangen, a'u darparu i gefnogi cyfraddau ailgylchu uwch." 

Mae ymgyrch gyfathrebu genedlaethol eisoes ar y gweill i roi gwybod i weithleoedd am y newidiadau sydd ar ddod ac i ddarparu canllawiau, astudiaethau achos ac adnoddau eraill penodol i’r sector i gefnogi gweithleoedd a’r sector gwastraff i gydymffurfio â’r gyfraith newydd hon.

Mae canllawiau a chymorth ar gael yn: www.llyw.cymru/ailgylchu-yn-y-gweithle

DIWEDD