"Cyfraniad bach a allai wneud gwahaniaeth mawr" – Cyflwyno deddfwriaeth i hybu diwydiant twristiaeth ffyniannus a chynaliadwy yng Nghymru
“A small contribution that could make a big difference” – Legislation introduced to support a thriving, sustainable tourism industry in Wales
Heddiw, mae Bil i roi'r dewis i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll fach ar ymwelwyr yn eu hardaloedd, i'w ailfuddsoddi mewn twristiaeth leol, yn cael ei gyflwyno gan yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford.
Mae Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yn cynnig y bydd pobl sy'n aros dros nos yng Nghymru ac yn mwynhau popeth sydd gan y wlad i'w gynnig yn talu tâl bach. Bydd yr arian a godir yn cefnogi gweithgarwch twristiaeth a seilwaith lleol.
Mae cyflwyno'r ddeddfwriaeth yn cyflawni un o ymrwymiadau allweddol y Rhaglen Lywodraethu a bydd yn helpu i fuddsoddi yn nyfodol Cymru gan y byddai pob ymwelydd sy'n aros dros nos yn cyfrannu at ddiogelu harddwch a threftadaeth y wlad.
Byddai'n rhoi cyfle i gymunedau lleol gynhyrchu refeniw ychwanegol. Os bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn dewis cyflwyno ardoll ymwelwyr, amcangyfrifir y gallai gynhyrchu hyd at £33m y flwyddyn.
Byddai cyfradd yr ardoll yn cael ei gosod ar:
- 75c y pen y noson i bobl sy’n aros mewn hosteli ac ar leiniau mewn safleoedd gwersylla.
- £1.25 y pen y noson i bobl sy'n aros ym mhob math arall o lety.
Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn cynnwys gofyniad i sefydlu a chynnal cofrestr o lety ymwelwyr yng Nghymru, a fyddai – am y tro cyntaf – yn darparu cofrestr o'r ystod eang o lety i ymwelwyr sydd ar gael ledled y wlad.
Bydd awdurdodau lleol yn penderfynu a ydynt am gyflwyno ardoll yn eu hardal, yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i'w cymunedau. Amcangyfrifir mai'r cynharaf y gallai hyn ddigwydd yw yn 2027 ar ôl i awdurdodau lleol ymgynghori â'u cymunedau.
Caiff ardollau ymwelwyr eu defnyddio'n llwyddiannus mewn sawl rhan o'r byd, gan gynnwys ym Manceinion, Gwlad Groeg, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Sbaen, Portiwgal a Chaliffornia. Defnyddir yr arian a godir i gefnogi economi ymwelwyr iach drwy ddiogelu a buddsoddi yn y seilwaith a'r gwasanaethau y mae gwesteion yn eu mwynhau.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
"Mae'r Bil hwn wedi'i seilio ar yr egwyddor o degwch. Ry'n ni'n gwybod bod twristiaeth yn gwneud cyfraniad pwysig i economi a bywyd Cymru. Ry'n ni am sicrhau ei bod yn gynaliadwy dros y tymor hir.
"Dyna pam ry'n ni'n credu ei bod hi'n deg i ymwelwyr gyfrannu at gyfleusterau lleol, gan helpu i ariannu seilwaith a gwasanaethau sy'n rhan annatod o'u profiad. Mae ardollau ymwelwyr yn gyffredin ar draws y byd ac yn rhoi budd i gymunedau, twristiaid a busnesau lleol – ry'n ni eisiau'r un peth i Gymru.
"Byddai'r arian a gâi ei godi drwy ardoll yn cael ei gadw gan awdurdodau lleol a'i ailfuddsoddi yn eu hardaloedd lleol i gefnogi twristiaeth leol, gynaliadwy. Mae'n gyfraniad bach a allai wneud gwahaniaeth mawr."
Disgwylir i gynllun cofrestru statudol ar gyfer pob darparwr llety ddechrau gweithredu yn 2026 i gefnogi'r gwaith o gasglu a gweinyddu ardoll ymwelwyr.
Bydd yn cynnwys manylion am bwy sy'n gweithredu yn y sector, a ble a sut maent yn gweithredu. Bydd hefyd yn helpu i greu gwell dealltwriaeth o'r sector ac yn cefnogi penderfyniadau polisi yn y dyfodol yn lleol ac yn genedlaethol.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:
"Bydd y Bil hwn yn rhoi'r dewis i gynghorau gyflwyno ardoll ar ymwelwyr sy'n aros dros nos. Mae'n ffordd o godi arian ychwanegol i gefnogi gwasanaethau lleol a gwella amwynderau sydd o fudd i ymwelwyr a'r gymuned.
"Bydd pob cyngor yn penderfynu sut i gymhwyso'r ardoll yn seiliedig ar yr hyn sydd orau ar gyfer eu hardal nhw, gan gydnabod y gallai fod yn addas mewn rhai rhannau o Gymru ond nid mewn rhannau eraill. Bydd cynghorau'n ystyried amgylchiadau lleol yn ofalus ac yn sicrhau eu bod yn ymgynghori â phreswylwyr cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.
"Rydyn ni'n falch ein bod wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar hyn ac yn edrych ymlaen at weld y ddeddfwriaeth ddrafft yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd hyn yn gam pwysig ymlaen i dwristiaeth ac economïau lleol Cymru."