Cyhoeddi cronfa brofedigaeth gwerth £1 miliwn i gefnogi fframwaith cenedlaethol newydd i helpu pobl sy’n galaru
£1m bereavement fund announced to support new national framework to help those grieving
Mae profedigaeth yn rhywbeth a fydd yn cyffwrdd â phawb ohonom ar ryw adeg yn ein bywydau. Gan weithio gydag elusennau a sefydliadau’r trydydd sector, mae Fframwaith Cenedlaethol newydd ar gyfer Darparu Gofal mewn Profedigaeth wedi cael ei ddatblygu, gyda chefnogaeth grant cymorth gwerth £1 miliwn.
Mae’r cynllun hefyd, yn allweddol, wedi cael mewnbwn gan y rhai hynny sydd wedi profi profedigaeth.
Mae gofal mewn profedigaeth yn cefnogi pobl drwy effaith emosiynol, gorfforol a meddyliol galar. Mae’r fframwaith newydd yn amlinellu’r gefnogaeth y dylai pobl ddisgwyl ei chael os ydyn nhw’n wynebu profedigaeth neu wedi’i phrofi.
Mae’r Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Profedigaeth, sy’n cynnwys nifer o sefydliadau elusennol a’r trydydd sector wedi cyfrannu at y fframwaith a byddan nhw yn awr yn gweithio gyda byrddau iechyd, awdurdodau lleol, byrddau partneriaeth rhanbarthol a’r trydydd sector i sicrhau y rhoddir y cynllun ar waith yn gyflym.
Law yn llaw â’r grant cymorth gwerth £1 miliwn a fydd ar gael i’r rhai hynny yn y trydydd sector, bydd £420,000 yn ychwanegol yn cael ei roi i fyrddau iechyd i helpu i roi set newydd o safonau profedigaeth ar waith.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:
“Yn anffodus, bydd y rhan fwyaf ohonom yn profi profedigaeth ar ryw adeg yn ein bywydau ond mae sut rydyn ni’n delio â galar yn wahanol iawn i bob un ohonom.
Nod ein fframwaith profedigaeth newydd yw sicrhau bod gan bawb fynediad at ofal mewn profedigaeth o ansawdd uchel, pryd a lle bynnag y mae ei angen arnyn nhw. Hoffwn ddiolch i’r holl elusennau, sefydliadau’r trydydd sector ac unigolion sydd wedi cyfrannu at y darn pwysig hwn o waith. Byddan nhw yn ein helpu i ddefnyddio’r gronfa brofedigaeth gwerth £1 miliwn i lunio a gwella gwasanaethau.”
Dywedodd Idris Baker, Cadeirydd y Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Profedigaeth ac arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal diwedd oes Llywodraeth Cymru:
“Mae galar yn effeithio ar bawb. Mae’n digwydd inni mewn ffyrdd gwahanol ac yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, mae wedi digwydd i fwy ohonom nag arfer. Mae llawer o bobl sy’n profi profedigaeth yn cael cefnogaeth dda, ond gwyddom nad yw pawb yn cael hynny. Rydyn ni wedi ceisio defnyddio’r gorau o’r hyn a wneir yn awr fel man cychwyn i’r fframwaith hwn fel y gall cymunedau, elusennau a chyrff cyhoeddus sicrhau bod rhagor o gefnogaeth ar gael i bobl mewn profedigaeth, pan fo’i hangen arnyn nhw, lle bynnag y maen nhw yng Nghymru, a beth bynnag fo amgylchiadau’r marwolaethau sy’n effeithio arnyn nhw.”
Nodiadau i olygyddion
Nodiadau i Olygyddion
Ymhlith yr elusennau sydd wedi ymgysylltu â’r gwaith o ddatblygu’r fframwaith mae -
- Cruse Bereavement Care Cymru
- Sandy Bear’s Children’s Bereavement Charity
- SANDS
- Cymdeithas Alzheimer's
- Bliss
- Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru
- Tommy’s
- 2 Wish Upon a Star
- Macmillan Cancer Support
- City Hospice, Caerdydd
Attachment EMBARGOED UNTIL 0:01 28 OCTOBER 2021