Cyhoeddi Is-gadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
New Vice Chair of Powys Teaching Health Board announced
Heddiw, mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi bod Kirsty Williams wedi’i phenodi yn Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Gwnaeth Kirsty Williams, sy’n gyn-Weinidog Addysg, wasanaethu am 22 mlynedd yn y Senedd lle’r oedd yn cynrychioli Brycheiniog a Sir Faesyfed.
Wedi iddi ymddeol o wleidyddiaeth rheng flaen ym mis Mai 2021, mae hi bellach yn cadeirio'r bwrdd cynghori ar gyfer y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu – y rhaglen sydd wedi disodli’r rhaglen Erasmus yng Nghymru. Mae hi hefyd yn gwasanaethu fel Comisiynydd i'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Bydd y penodiad yn dechrau ar 10 Ionawr 2022 ac yn dod i ben ar 9 Ionawr 2026.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
"Rwy'n falch iawn o wahodd Kirsty Williams i wasanaethu fel Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
"Mae'n dod ag amrywiaeth o sgiliau a phrofiad a bydd yn gwneud cyfraniad hanfodol i waith y Bwrdd.
"Hoffwn ddymuno’n dda iddi yn y rôl ac edrychaf ymlaen at barhau â gwaith Llywodraeth Cymru gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i gyflawni ein huchelgais ar gyfer gofal iechyd wrth inni edrych y tu hwnt i'r pandemig."
Dywedodd yr Athro Vivienne Harpwood, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:
"Rwyf wrth fy modd o gael croesawu Kirsty Williams CBE i'r bwrdd iechyd.
"Mae'n dod â'i phrofiad helaeth fel un sydd wedi eirioli ers amser hir dros bobl Powys fel gwas cyhoeddus ac fel cyn-Weinidog yn Llywodraeth Cymru.
"Bydd yn gaffaeliad mawr i'r Bwrdd, ac rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at weithio gyda hi dros y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod wrth i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ymateb i rai o'r heriau mwyaf y mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi'u hwynebu erioed."
Cafodd y penodiad ei wneud yn dilyn proses deg ac agored.