English icon English
mhorwood Eluned Morgan Press Conference 110122 09-2

Cyhoeddi lefelau uwchgyfeirio newydd Byrddau Iechyd Cymru.

New escalation levels of Welsh Health Boards announced.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod pob bwrdd iechyd nawr mewn rhyw lefel o uwchgyfeirio yn sgil pryderon am yr heriau ariannol eithafol y maent yn eu hwynebu sy’n cael eu hachosi gan flynyddoedd o fesurau cyni Llywodraeth y DU a’r lefelau chwyddiant uchaf erioed.

Mae pedair lefel o ymyrraeth ar gael, sy’n sbarduno mwy o gymorth i sefydliadau’r GIG, o drefniadau arferol (y lefel ymyrraeth isaf); monitro uwch; ymyrraeth wedi'i thargedu, i fesurau arbennig (y gyfradd ymyrraeth uchaf).

Oherwydd yr hinsawdd ariannol eithriadol galed, nid yw byrddau iechyd wedi gallu cyflwyno Cynlluniau Tymor Canolig Integredig sy’n gytbwys yn ariannol. Bydd y byrddau iechyd hynny, nad oeddent eisoes ar ffurf ymyrraeth ar gyfer cynllunio a chyllid, yn cael eu huwchgyfeirio i fonitro uwch.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

“Mae’n siomedig bod yr holl fyrddau iechyd wedi’u huwchgyfeirio i fonitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid. Nid ydym yn gwneud y penderfyniadau hyn yn ysgafn ac mae’n adlewyrchu’r sefyllfa ariannol anodd iawn rydym ynddi, o ganlyniad i chwyddiant a chyni, a’r heriau sy’n effeithio ar fyrddau iechyd.

“Rydym yn gweld pwysau gweithredol, rhestrau aros hir, a sefyllfa ariannol eithriadol heriol yn y GIG – ond nid yw hyn yn unigryw i Gymru.

“Byddwn yn cefnogi byrddau iechyd i wella eu sefyllfaoedd cynllunio ariannol, ond bydd angen gwneud rhai penderfyniadau anodd wrth i ni weithio drwy’r her ariannol galed iawn hon. Yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf, ochr yn ochr â’r GIG, byddwn yn gweithio gyda’r cyhoedd i amlinellu lle mae angen gwneud arbedion i leihau’r diffygion sylweddol hyn yn y gyllideb.”

Mae gwelliannau sylweddol wedi cael eu gwneud ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM), sydd wedi galluogi’r Gweinidog i leihau’r lefel ymyrraeth o ymyrraeth wedi’i thargedu i fonitro gwell ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Dywedodd fod y newid yn dyst i ymdrechion enfawr staff yr unedau i drawsnewid adran heriol iawn.

Mae’r swyddogaethau llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant, ymddiriedaeth a hyder wedi’u hisgyfeirio yn y bwrdd iechyd hefyd i fonitro gwell yn dilyn cynnydd sylweddol wrth fynd i’r afael â’r pryderon a’r argymhellion a godwyd yn adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru yn 2019.

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd:

“Er bod rhai meysydd o hyd lle mae angen gwelliannau pellach, mae’n amlwg bod cynnydd yn parhau i gael ei wneud ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Rwyf wedi cael fy nghalonogi gan y gwelliannau hyn a hoffwn ddiolch i holl staff y bwrdd iechyd am eu holl waith caled yn cefnogi a thrawsnewid y gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol a’r swyddogaethau llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant, ymddiriedaeth a hyder.”

Mae lefelau uwchgyfeirio newydd Byrddau Iechyd eraill y GIG, yr ymddiriedolaethau a’r Awdurdodau Iechyd Arbennig yng Nghymru wedi'u datgan heddiw hefyd.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau

Mae’r tabl isod yn dangos statws uwchgyfeirio blaenorol a phresennol pob sefydliad.

Sefydliad

Statws Blaenorol

(Medi 2022)

Statws Presennol (Gorffennaf 2023)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Trefniadau arferol

Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Ymyrraeth wedi’i thargedu ond fe’i huwchgyfeiriwyd i Fesurau Arbennig ym mis Chwefror 2023

Mesurau arbennig

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid

Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid

Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol

Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer ansawdd a llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant, ymddiriedaeth a hyder

Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer materion ansawdd yn gysylltiedig â pherfformiad

Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid

Monitro uwch ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol

Monitro uwch ar gyfer ansawdd a llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant, ymddiriedaeth a hyder

Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer materion ansawdd yn gysylltiedig â pherfformiad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer cynllunio a chyllid

Monitro uwch ar gyfer perfformiad ac ansawdd

Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer cynllunio a chyllid

Monitro uwch ar gyfer perfformiad ac ansawdd

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Trefniadau arferol

Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Monitro uwch ar gyfer perfformiad ac ansawdd

Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid

Monitro uwch ar gyfer perfformiad ac ansawdd

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol