Cyhoeddi rhaglen beilot newydd ar gyfer mentora darllen mewn ysgolion cynradd
New pilot primary school reading mentoring programme announced
Bydd deg ysgol gynradd ledled Cymru yn cymryd rhan mewn rhaglen beilot newydd i gefnogi darllen a llythrennedd yn ôl cyhoeddiad gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.
Bydd yr ysgolion yn cael eu partneru â myfyrwyr prifysgol sydd wedi gwirfoddoli i fod yn fentoriaid darllen. Bydd grwpiau bach o hyd at wyth o ddysgwyr yn cael chwe sesiwn awr o hyd wyneb yn wyneb â'u mentoriaid.
Bydd y peilot yn helpu dysgwyr ym mlynyddoedd pump a chwech, er mwyn eu cefnogi i baratoi ar gyfer yr ysgol uwchradd. Bydd darllen yn Gymraeg yn cael ei gynnwys mewn unrhyw gamau ac ehangiad yn y dyfodol.
Bydd y prosiect yn cael ei oruchwylio gan Brifysgol Caerdydd sydd eisoes wedi dechrau recriwtio myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o bob cwr o Gymru i gymryd rhan a bod yn rhan o rwydwaith o fentoriaid. Bydd pob myfyriwr yn cael hyfforddiant.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Mae darllen yn sgil hanfodol y bydd disgyblion yn ei defnyddio drwy gydol eu bywyd. Mae'n hollbwysig ein bod yn tanio cariad at ddarllen yn gynnar iawn.
"Mae gwella sgiliau darllen yn flaenoriaeth genedlaethol, a dyna pam yn yr ydym wedi buddsoddi £5 miliwn ychwanegol i gefnogi disgyblion, gan gynnwys sicrhau bod pob plentyn yn cael llyfr am ddim.
"Bydd y rhaglen beilot mentora yn cynnig manteision i wella sgiliau llythrennedd a hefyd yn meithrin hyder a sgiliau cyfathrebu’r mentor a'r rhai sy'n cael eu mentora.
“Mae ymchwil yn dangos bod darllen mwy a datblygu cariad at ddarllen yn cael effaith gadarnhaol ar lwyddiant mewn addysg.”