English icon English

Cyhoeddi ystadegau gwastraff ac ailgylchu newydd heddiw

New waste and recycling stats published today

Mae Cymru wedi trechu ei tharged ar gyfer tirlenwi llai ac unwaith eto wedi rhagori ar ei thargedau ailgylchu yn ôl ffigyrau newydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau, 7 Rhagfyr).

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1biliwn ers datganoli mewn ailgylchu trefol ac mae hynny wedi arwain at gynyddu cyfraddau o ddim ond 4.8% yn 1998-1999, i 65.7% heddiw - sy'n uwch na'r targed statudol o 64%.

Y gyfradd ailgylchu yw canran y gwastraff a gesglir gan awdurdodau lleol sy'n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio.

Yn 2024-25, bydd y targed statudol yn codi i 70%, ffigur y mae pum awdurdod lleol yng Nghymru eisoes wedi'i daro: Abertawe, Sir Benfro, Pen-y-bont ar Ogwr, Ceredigion a Sir Fynwy

Roedd cyfanswm o 17 o 22 awdurdod lleol Cymru wedi rhagori ar y targed o 64%, gyda 12 ohonynt wedi gweld gwelliant yn eu perfformiad ers llynedd.

Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod llai o wastraff yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi nag erioed o'r blaen. 

Mae cyfran y gwastraff a gesglir gan gynghorau sy’n mynd i'w dirlenwi wedi gostwng yn sylweddol, gan ddisgyn o 42% yn 2012-13 i 1.6% yn 2022-23. Mae hyn eisoes yn well na tharged Llywodraeth Cymru o dirlenwi llai na 5% erbyn 2024-25.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

"Mae'r ystadegau tirlenwi ac ailgylchu unwaith eto yn dangos i ni'r hyn y gallwn ei wneud o gael pawb i weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac i ymroi i adeiladu Cymru werdd a ffyniannus ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

"Gall Cymru fod yn falch bod ei hymdrechion yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i allyriadau, a'i bod yn cadw tua 400,000 tunnell o CO2 y flwyddyn rhag cael ei ryddhau i'r atmosffer.

"Mae ein hanes ailgylchu a'r ffaith ein bod bron iawn wedi llwyr roi'r gorau i dirlenwi yn sylfaen ardderchog i ni adeiladu arno i ddelio â'r argyfyngau hinsawdd a natur - ond nid oes amser i laesu dwylo.

"Rwy'n gofyn i bawb yng Nghymru barhau â'r gwaith gwych rydyn ni wedi'i wneud ar y daith hon er lles pawb - a meddwl o ddifrif am ailgylchu fel caffaeliad i'r economi."

Prin wythnos yn ôl, pasiodd y Senedd gyfraith newydd a ddylai arwain at wella eto ar record ailgylchu drawiadol Cymru.

Bydd y rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob busnes a gweithleoedd y sector cyhoeddus a'r trydydd sector wahanu deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y ffordd y mae cartrefi eisoes yn ei wneud ar hyd ac ar led y wlad.

Daw'r gyfraith i rym ym mis Ebrill gan arwain at fwy o ailgylchu ac at anfon llai o wastraff i'w losgi a'i dirlenwi.

Bydd hefyd yn cynyddu ac yn gwella ansawdd y deunydd ailgylchadwy a fydd yn cael ei gasglu mewn gweithleoedd, a bydd hynny yn ei dro yn casglu deunydd pwysig y gallwn ei fwydo'n ôl i economi Cymru.

Darllenwch fwy yma: Cyfraith newydd yn gwella ailgylchu yn y gweithle a record drawiadol Cymru | LLYW.CYMRU

DIWEDD