Minister for Education and Welsh language school classroom

Cyhoeddi'r bwriad i ddarparu canllawiau i gyfyngu ar ffonau symudol mewn ysgolion wrth amlinellu blaenoriaethau addysg

Guidance to restrict mobile phones in schools announced as education priorities set out.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau statudol i ysgolion ar gyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion yn dilyn ymgynghoriad.
  • Canfu arolwg o'r gweithlu fod mwyafrif helaeth yr ymatebwyr eisiau mwy o gyfarwyddyd cenedlaethol ar y defnydd o ffonau mewn ysgolion.
  • Mae'r Gweinidog Addysg wedi nodi ei blaenoriaethau, gan gynnwys codi safonau, cryfhau'r Gymraeg, datblygu sgiliau ac adeiladu system sy'n gweithio i bawb.

Cyhoeddwyd y bwriad i ddarparu canllawiau statudol newydd i gyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion, wrth i'r Gweinidog Addysg amlinellu ei blaenoriaethau.

Bydd y canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion yn ei gwneud yn glir beth yw'r disgwyliadau o ran sut mae ffonau yn cael eu defnyddio yn ystod y diwrnod ysgol, ac yn eu cryfhau.

Bydd y canllawiau yn cael eu gwerthuso yn ystod y flwyddyn ysgol, a bydd modd cryfhau'r disgwyliadau ymhellach os bydd angen.

I lywio'r canllawiau, cynhaliwyd arolwg ymhlith y gweithlu o'r defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion. Dangosodd y canfyddiadau, er bod gan y rhan fwyaf o ysgolion bolisi ffonau symudol, nad oedd yna un dull gweithredu cyson, ac roedd mwyafrif helaeth yr ymatebwyr eisiau mwy o gyfarwyddyd cenedlaethol, ac 82% o blaid cyfyngiadau statudol.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan:

"Roedd ein cynllun 100 diwrnod yn glir y bydden ni'n gweithredu, a dw i wedi gwrando ar y galwadau am eglurder cryfach ar y mater hwn. Dyma pam y bydd y llywodraeth yn cyhoeddi canllawiau statudol i ddarparu disgwyliadau cenedlaethol clir ar sut mae ffonau symudol yn cael eu defnyddio mewn ysgolion.

Dw i am fod yn glir: fel Gweinidog Cabinet, dw i'n rhoi fy nghefnogaeth lawn i benaethiaid – ac yn eu hannog yn gryf – i gyflwyno cyfyngiadau clir a chadarn ar y defnydd o ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol, hyd at a chan gynnwys cyfyngiad llwyr ar draws safle’r ysgol. Dw i’n ymwybodol y bydd angen gallu gwneud eithriadau bob amser yn achos rhai plant, am resymau meddygol er enghraifft.  Drwy ymgynghori ar y canllawiau ar ddechrau'r flwyddyn ysgol, dw i'n rhoi'r eglurder i ysgolion y maen nhw ei eisiau yn gyflym, ac yn creu amgylchedd dysgu mwy diogel drwy gyfyngu nawr ar yr elfennau sy'n tynnu sylw'r dysgwyr.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau’r wythnos hon ar gyfer cyfyngiadau newydd ar fynediad pobl dan 16 i gyfryngau cymdeithasol. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu pobl ifanc ar-lein, a byddwn yn asesu goblygiadau’r cyhoeddiad hwn yn ofalus. Byddwn yn gweithio gyda arweinwyr ysgol a phartneriaid ar draws y system addysg yng Nghymru i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a bod eu hanghenion yn cael eu hadlewyrchu wrth symud ymlaen gyda’r cyfyngiadau newydd.”

Nododd y Gweinidog Addysg hefyd ei blaenoriaethau ar gyfer y sector addysg, gan gynnwys:

  • Codi safonau ar gyfer pob plentyn, ym mhob cymuned drwy ddatblygu Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol newydd cyn diwedd yr haf, ac adolygu'r cwricwlwm.
  • Cefnogi ein gweithlu addysg drwy leihau'r llwyth gwaith a chreu'r amodau gorau ar gyfer addysgu.
  • Rhoi cyfle cyfartal i bob plentyn gael siarad Cymraeg drwy ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfleoedd gwirioneddol i ddefnyddio'r Gymraeg y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.
  • Creu system addysg drydyddol gydlynol sy'n rhoi'r lle canolog i ddysgwyr ym mhopeth, mynd i'r afael â'r bwlch o ran y rhai sy'n manteisio, ac adolygu sut mae prifysgolion yn cael eu hariannu.

Ychwanegodd Anna Brychan:

"Addysg yw'r allwedd i ryddhau potensial ein cenedl, a does dim prinder talent, egni ac arloesedd yng Nghymru. Os ydyn ni am ddatgloi'r potensial hwn ac adeiladu Cymru gryfach, mae angen system addysg gryfach arnon ni.

Fe fyddwn ni'n codi safonau, yn cryfhau'r Gymraeg, yn datblygu sgiliau ac yn adeiladu system sy'n gweithio. Drwy weithio gyda'n gilydd, fe allwn ni sicrhau cyfleoedd, uchelgais a rhagoriaeth i bob dysgwr, ym mhob rhan o Gymru, a chefnogi'r gweithlu sy'n gwneud hynny'n bosibl. Mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud addysg yn flaenoriaeth am fod dyfodol Cymru yn dibynnu arni.”

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  • The workforce surve can be found here here
  • The Cabinet Minister for Education and Welsh Language will make a specific statement on the Welsh language before the summer.