Cyllid Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r farchnad fepio anghyfreithlon
Welsh Government funding to crack down on illegal vaping market
Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i Safonau Masnach Cymru er mwyn helpu i fynd i'r afael â fepio anghyfreithlon yng Nghymru.
Bydd y cyllid yn adeiladu ar ymgyrch flaenorol i fynd i'r afael â thybaco anghyfreithlon, lle cymerwyd meddiant o dros 840,000 o sigaréts anghyfreithlon a mwy na 400 cilogram o dybaco rholio â llaw anghyfreithlon o eiddo masnachol yng Nghymru.
Bydd swyddogion Safonau Masnach Cymru yn mynd i'r afael â fepio anghyfreithlon drwy:
- ymgymryd â phryniant prawf,
- defnyddio cŵn i adnabod manwerthwyr twyllodrus,
- casglu gwybodaeth,
- cynnal gwiriadau mewn porthladdoedd i sicrhau bod cynhyrchion sy'n anghyfreithlon ac o bosibl yn beryglus yn cael eu tynnu oddi ar y silff yn gyflym ac yn effeithiol.
Bydd hyn yn helpu i ddiogelu defnyddwyr rhag y cynhyrchion hyn, gan gynnwys plant a phobl ifanc sy'n fepio fwyfwy, ac amddiffyn busnesau cyfreithlon yng Nghymru.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:
"Ni fydd cyflenwi cynnyrch fepio anghyfreithlon yn cael ei oddef yng Nghymru.
"Mae hon yn broblem gymhleth ac ar raddfa fawr sy'n effeithio ar bob cymuned yng Nghymru, a bydd yr arian rydyn ni'n ei roi yn helpu swyddogion gorfodi i atal cynnyrch fepio anghyfreithlon rhag cael eu gwerthu yng Nghymru.
"Mae cynnyrch yn cael eu gwerthu'n anghyfreithlon i blant, ac mae rhai hefyd yn niweidiol i iechyd, a gwelwyd eu bod yn cynnwys cemegau peryglus a lefelau niweidiol o fetelau fel plwm.
Mae'n hysbys hefyd fod gan gynnyrch fepio anghyfreithlon gysylltiadau â throseddau a chamfanteisio'n rhywiol ar blant.
Yn hollbwysig, bydd y gorfodi cynyddol hwn yn arwain at lai o blant yn cael y cynnyrch hyn a llai mewn perygl o gael eu cam-drin.
"Mae hyn o fudd i'r amgylchedd hefyd, gyda llai o'r cynnyrch a allai fod yn beryglus yn niweidio ein hamgylchedd drwy gael eu gwaredu ar gam."
Dywedodd Cadeirydd Safonau Masnach Cymru, Judith Parry:
"Mae Safonau Masnach Cymru yn croesawu cyllid Llywodraeth Cymru sy'n galluogi'r prosiect hwn i fwrw ymlaen.
Yn wreiddiol, roedd fepio yn cael ei ystyried yn ffordd o helpu i roi'r gorau i smygu. Yn anffodus, rydyn ni wedi gweld y farchnad fepio anghyfreithlon a thafladwy yn cynyddu'n sylweddol, a dyma'r prif faes sy'n peri pryder i'r gwasanaeth safonau masnach ar hyn o bryd.
Cymerwyd meddiant o gannoedd o filoedd o gynnyrch anghyfreithlon sy'n cyrraedd Cymru o'i phorthladdoedd a thrwy ddulliau eraill.
Mae Safonau Masnach Cymru yn pryderu ynghylch yr effaith y gall cynnyrch o'r fath ei chael ar ein pobl ifanc, gyda llawer nad ydyn nhw erioed wedi ysmygu o'r blaen yn dechrau fepio. Gall llawer o'r cynnyrch hyn gynnwys sylweddau anghyfreithlon fel metelau trwm, a gall llyncu'r sylweddau hyn achosi niwed i unigolyn dros gyfnod o amser.
Mae hwn yn faes gwaith cymhleth sy'n treiddio i fyd troseddau cyfundrefnol a chamfanteisio'n rhywiol ar blant. Felly, rhaid cofio bod pobl yn dioddef oherwydd y troseddau hyn a bydd gwasanaethau safonau masnach ledled Cymru, gan weithio'n agos gydag asiantaethau partner, yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod y fasnach fepio anghyfreithlon yn cael ei rheoleiddio mor effeithlon ac effeithiol â phosib".