English icon English

Cyllid newydd i gefnogi llesiant meddyliol Prentisiaid, Hyfforddeion a dysgwyr a staff addysg bellach

New funding to support mental well-being of Apprentices, Trainees & further education learners and staff

Heddiw, mae Gweinidogion wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn darparu £2.18 miliwn o gyllid i gefnogi iechyd meddwl a llesiant dysgwyr a staff addysg bellach, prentisiaid a hyfforddeion yng Nghymru.

Drwy gydol pandemig COVID-19, mae’n ymddangos bod cyfnodau clo olynol wedi cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl a llesiant yr holl ddysgwyr a staff ôl-16.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod sefydliadau wedi neilltuo amser ac adnoddau ychwanegol i helpu dysgwyr a staff sy’n dioddef problemau iechyd meddwl, ac y byddant yn parhau i wneud hynny.

Mae £1.6 miliwn o gyllid yn cael ei ddyrannu i helpu i ddarparu cymorth ychwanegol penodol i ddysgwyr sy’n dilyn prentisiaeth a hyfforddeiaeth yn ystod y flwyddyn ariannol hon (2021/22).

Bydd y cyllid ychwanegol yn cefnogi ystod o ymyriadau iechyd meddwl a chymorth, gan gynnwys:

  • Talu costau cyflogau staff sy’n cefnogi eu hiechyd meddwl a llesiant;
  • Caffael a darparu rhagor o gymorth ar gyfer dysgu proffesiynol, yn unol â’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith;
  • Caffael a darparu cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth (gan gynnwys ar gyfer llywodraethwyr);
  • Datblygu, gweithredu a gwerthuso polisïau a strategaethau llesiant.

Yn 2021-22, mae bron i £2 filiwn o gyllid ychwanegol wedi cael ei ddyrannu i gefnogi sefydliadau addysg bellach i ymateb i effeithiau COVID-19.

Mae’r cyllid hwn yn ychwanegol at y cyllid o £2 filiwn y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei roi bob blwyddyn at iechyd meddwl a llesiant staff a dysgwyr mewn addysg bellach.

Wrth gyhoeddi’r cyllid ar gyfer dysgu seiliedig ar waith, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar iechyd a llesiant pobl, gan gynnwys eu hiechyd meddwl. I lawer, bydd yn un o’r cyfnodau anoddaf y bydd unrhyw un ohonom wedi’i wynebu yn ystod ein hoes. Rwy’n bryderus iawn am yr effaith sylweddol y mae’r pandemig wedi’i chael ar lesiant ein pobl ifanc.

“Fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarn i sicrhau nad oes cenhedlaeth goll yng Nghymru o ganlyniad i’r pandemig. Felly, bydd y cyllid ychwanegol o £1.6 miliwn rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn darparu cymorth wedi’i dargedu i ddysgwyr sy’n astudio o dan y Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau. Bydd yn canolbwyntio ar leihau’r risg o ganlyniadau negyddol, gan gynnwys ymddieithrio a gadael addysg, a allai arwain at broblemau iechyd meddwl acíwt tymor hwy.”

Wrth gyhoeddi’r cyllid ar gyfer addysg bellach, dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

“Mae angen ein cymorth ar bobl ifanc a staff mewn colegau o hyd, wrth iddynt fynd i’r afael ag effaith y pandemig. Mae’r cyllid llesiant hwn rwy’n ei ddarparu i golegau yn golygu y gallant barhau â’r gwaith gwych y maent yn ei wneud i helpu i feithrin cadernid y gweithlu a myfyrwyr.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dangos ein bod wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau ein bod yn darparu cyfleoedd cyfartal i’r holl ddysgwyr ôl-16 gael mynediad at y cymorth llesiant sydd ei angen arnynt yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Mae’n bwysig bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt a bydd y cyllid a gafodd ei gyhoeddi heddiw yn darparu ystod o wasanaethau.”