Cyllid newydd i gwmnïau yng Nghymru ddatblygu cynnwys dwyieithog i gynulleidfaoedd ifanc
New funding for Wales-based companies to develop bilingual content for young audiences
Heddiw, mae Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, wedi cyhoeddi y bwriedir datblygu rhagor o raglenni Cymraeg, ym maes gweithredu byw ac animeiddio, ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru, diolch i hwb ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r Dirprwy Weinidog wedi cadarnhau y bydd wyth prosiect yn cael cyfanswm o £352,545 o gyllid gan Gronfa Cymru Greadigol ar gyfer Cynnwys i’r Ifanc, a fydd yn gweld cwmnïau yng Nghymru yn datblygu cynnwys dwyieithog newydd i blant a phobl ifanc.
Bwriad y gronfa, sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, yw cynyddu’r ddarpariaeth o raglenni ar gyfer plant a phobl ifanc.
Mae’r prosiectau yn cynnwys animeiddio a gêm sydd wedi’u hysbrydoli gan fythau a chwedlau Cymru; sioe sgets gomedi sydd wedi’i hanelu at gynulleidfa o blant cyn oed ysgol gyda chriw amrywiol o gymeriadau wedi’u gwneud o fotymau ac edafedd yn serennu ynddi; i sioe gemau dŵr llawn hwyl sy’n cyfuno heriau meddyliol a chorfforol.
Syniad diweddaraf Cloth Cat, sydd wedi cynhyrchu dros 100 awr o animeiddio ar amrywiaeth o gyfresi a ddarlledir yn rhyngwladol fel Boj, Dai Potsh, Luo Bao Bei ac Olobob Top, yw ‘Familiars’. Mae stiwdio Cloth Cat, sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, wedi dod yn stiwdio animeiddio a chynhyrchu gemau ffyniannus. Mae wedi ymestyn ei gweithlu craidd i chwe aelod o staff llawnamser ac mae’n cyflogi dros 25 o staff medrus fesul prosiect yn rheolaidd.
Dywedodd Jon Rennie o Cloth Cat: “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o Gronfa newydd Cymru Greadigol ar gyfer Cynnwys i’r Ifanc ac mae’n parhau â’r buddsoddiad gan Cymru Greadigol mewn cwmnïau lleol sy’n dymuno cyrraedd cynulleidfaoedd rhyngwladol. Syniad am gyfres animeiddio cyfrifiadurol a gêm yw ein prosiect sy’n plethu’r Gymru fodern a mytholeg Geltaidd i adrodd stori antur i blant 7-11 oed.”
Mae Cwmni Da o Gaernarfon wedi cael cyllid ar gyfer datblygu syniad am raglen o’r enw ‘Actio dy Oed’. Comedi sefyllfa yw ‘Actio dy Oed’ sydd wedi’i hanelu at blant Cyfnod Allweddol 2 (6-11 oed) a’u rhieni. Mae’n defnyddio arddull ystrydebol comedi sefyllfa draddodiadol i greu byd cyfarwydd, wrth gynnig rhywbeth hollol newydd ar yr un pryd.
Dywedodd Barry “Archie” Jones, awdur a chynhyrchydd ‘Actio Dy Oed’: “Mae Actio Dy Oed yn syniad rydyn ni wedi bod eisiau ei ddatblygu ers peth amser. Rydyn ni wir yn credu bod gan y syniad botensial i apelio at gynulleidfaoedd rhyngwladol, a bydd y gefnogaeth hon gan Lywodraeth Cymru yn helpu i wireddu’r freuddwyd yna.”
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:
“Mae gennym sector creadigol sy’n fywiog ac sydd wedi hen ennill ei blwyf yng Nghymru sydd â hanes ardderchog o gynhyrchu cynnwys o’r safon uchaf ac sydd wedi ennill gwobrau ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc. Cafodd rhai o’r animeiddiadau mwyaf eiconig fel SuperTed a Sam Tân eu creu yng Nghymru ac mae’r rhain wedi mynd ymlaen i gael argraff barhaol ar genhedlaeth gyfan o blant a phobl ifanc.
“Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu helpu i ddatblygu rhagor o gynnwys gwreiddiol am Gymru ac o Gymru, a fydd yn helpu busnesau creadigol Cymru. Bydd hyn yn ennyn diddordeb ein pobl ifanc yn ein hanes a’n diwylliant yn ogystal â bod yn ffordd o glywed a defnyddio’r Gymraeg mewn modd sy’n berthnasol ac yn ddiddorol iddyn nhw.
“Rwy’n hyderus y bydd y buddsoddiad hwn yn hwb i’n hymdrechion i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”
Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Cefin Campbell: "Mae sicrhau bod plant a phobl ifanc ledled Cymru yn gallu manteisio ar gynnwys hwyliog, atyniadol yn hanfodol ac mae gan sector creadigol fywiog ran hanfodol i'w chwarae yn hyn o beth. Rydym yn cefnogi ein busnesau creadigol i greu straeon, delweddau a chynnwys a wneir yng Nghymru, am Gymru ac yn y Gymraeg er lles pawb."