Cyllid newydd i gynyddu mynediad at ddiffibrilwyr yng Nghymru
New funding to increase defibrillator access in Wales
Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi £500,000 ychwanegol i wella mynediad cymunedau at ddiffibrilwyr.
Bydd cynyddu nifer y diffibrilwyr mewn lleoliadau cymunedol yn helpu i wella cyfraddau goroesi pobl sy’n dioddef ataliad y galon y tu allan i ysbyty.
Bydd y cyllid yn galluogi grwpiau cymunedol, meysydd chwaraeon a sefydliadau cyhoeddus i gael mynediad at ddiffibriliwr ac mae’n hwb ychwanegol i’r £500,000 a gyhoeddwyd ym mis Medi'r llynedd.
Roedd y buddsoddiad blaenorol wedi arwain at gymeradwyo dros 400 o geisiadau am ddiffibriliwr, gan sefydliadau megis cynghorau lleol a chynghorau tref, cymdeithasau preswylwyr, campfeydd, ysgolion, lleoliadau chwaraeon, sefydliadau gofal plant a mannau addoli.
Bob blwyddyn ym mis Chwefror, mae ymgyrch #Defibuary yn cael ei chynnal am fis i godi ymwybyddiaeth a rhoi’r sgiliau a’r hyder i bobl allu achub bywyd.
Mae siawns rhywun o oroesi ataliad y galon y tu allan i ysbyty yn lleihau 10% bob munud sy’n mynd heibio. Bob blwyddyn yng Nghymru, mae oddeutu 6,000 o bobl yn dioddef ataliad sydyn ar y galon.
Mae’r ymgyrch Achub Bywydau Cymru, sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth, ariannu adnoddau addysgol a hyfforddiant CPR newydd a gwella mynediad y cyhoedd at ddiffibrilwyr.
Ar hyn o bryd mae 6,188 o ddiffibrilwyr mynediad cyhoeddus wedi’u cofrestru ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Circuit (y rhwydwaith cenedlaethol o ddiffibrilwyr).
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “Rwy’n falch o allu cyhoeddi £500,000 ychwanegol o gyllid, sy’n golygu ein bod wedi buddsoddi £1 miliwn mewn diffibrilwyr cymunedol yn y chwe mis diwethaf.
“Rwyf wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth o sgiliau achub bywyd a sicrhau gwell mynediad cymunedol at ddiffibrilwyr ar draws Cymru.
“Mae’n bwysig bod gennym rwydwaith cynhwysfawr o ddiffibrilwyr, bod pobl yn ymwybodol o’r rhwydwaith hwnnw a bod ganddynt yr hyder i’w defnyddio. Bydd y gwaith gan Achub Bywydau Cymru yn helpu i gefnogi hyn.
“Mae pob eiliad yn bwysig pan fydd rhywun yn dioddef ataliad y galon. Gallwn ni i gyd helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd rhoi CPR a defnyddio diffibriliwr yn gynnar.”
Nodiadau i olygyddion
Notes to editors
- A case study of an application approved and shortly receiving a defibrillator is below. For further information please contact chris.seal@gov.wales
Neville Eden, 61, applied to Save a Life Cymru for a community defibrillator on behalf of the residential estate where he lives and set up a fundraising page to cover the cost of the defibrillator cabinet.
Within 12 hours of setting up the page the residents of Parc Hendre, in Abergele, raised more than £500.
The cabinet has now been installed on an electrical sub-station, after permission was granted by SP Energy Network, and the defibrillator is set to be installed next week.
Neville, who previously trained as a first aider with the Red Cross, said: “The idea came from a local Facebook group set up in lockdown and really brought everyone together. They’re all amazing for raising the money in such a short period of time.
“I’ve shared a few training videos in the group about how to use it, but I know the 999 operator would talk through it with anyone who needed to use it.
“We’re also hoping to organise a CPR and defibrillation skills session with a partner from Save a Life Cymru, so people feel confident to use it too.”
- 490 applications were submitted for defibrillators purchased from the first £0.5m announced for community defibrillators in September. Applications have varied from: local and town councils, residents’ and housing associations, gyms, schools, sporting venues, organisations, childcare venues and places of worship.
- So far, 433 applications have been approved. Nineteen applications were not approved as they did not meet the critieria.
- Each year in February, a month-long #Defibuary campaign takes place to raise awareness and equip people with the skills and confidence to save a life.
- Every year in Wales more than 6,000 people will have an out-of-hospital cardiac arrest and currently the survival rate is less than one in five. In Wales, 80% of cardiac arrests occur in the home.
- Anyone, at any age and at any time can suffer a cardiac arrest and knowing what to do and being familiar with a defibrillator can improve the chances of survival. It is a quick and easy skill to learn and you can find out more by visiting https://gov.wales/save-a-life-cymru
- Save a Life Cymru is a valuable partnership that brings together organisations across Wales to help develop the Welsh public’s CPR and defibrillation skills so people feel confident to help if they witness someone experiencing an out-of-hospital cardiac arrest.