Cyllid newydd i ysbrydoli pobl ifanc yn y 'cymoedd technoleg' i fod yn wyddonwyr, technolegwyr, peirianwyr a mathemategwyr y dyfodol
New funding to inspire young people in ‘tech valleys’ to be scientists, technologists, engineers and mathematicians of the future
Cyn bo hir, bydd pob disgybl ysgol gynradd ac uwchradd ym Mlaenau Gwent a Merthyr Tudful yn gallu ymgysylltu ag ystod gyffrous o gyflogwyr gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) lleol fel rhan o ymdrech newydd i ysbrydoli ac annog mwy o bobl ifanc i ddilyn gyrfaoedd STEM medrus iawn, yn ôl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.
Mae Prosiect Peirianneg y Cymoedd (WVEP) yn fenter a ddatblygwyd ar y cyd gan Ymddiriedolaeth Panasonic a'r Academi Frenhinol Peirianneg. Dechreuodd yn 2018, ac mae’n cael ei ariannu gan yr Ymddiriedolaeth a’i gynnal gan yr Academi. Ei nod yw creu canolfannau rhagoriaeth mewn addysgu STEM a gwella cyfleoedd dysgu yng nghymoedd y de drwy ddod ag arferion peirianneg y byd go iawn i ysgolion a cholegau.
Mae'r rhaglen yn helpu i gyfoethogi'r cwricwlwm, yn ennyn diddordeb disgyblion, ac yn darparu profiadau dysgu o ansawdd uchel drwy addysgu ac ymgysylltiad ychwanegol â chwmnïau STEM, gan godi uchelgais dysgwyr am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt. Mae'r rhaglen yn arbennig o awyddus i helpu i gynyddu amrywiaeth mewn gyrfaoedd STEM, gan ymgysylltu â grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol mewn peirianneg ar hyn o bryd.
Ar hyn o bryd mae'r WVEP yn gweithio gyda Choleg Gwent a Choleg Merthyr, ynghyd ag wyth ysgol uwchradd a phum ysgol gynradd yn yr ardal. Hyd yma, mae wedi darparu dros 20,000 o gyfleoedd dysgu STEM ac mae wedi dyfarnu 69 o fwrsariaethau Peiriannydd y Dyfodol Ymddiriedolaeth Panasonic i fyfyrwyr ôl-16, gyda 33% o'r bwrsariaethau'n cael eu dyfarnu i fyfyrwyr benywaidd ym mlwyddyn academaidd 20/21.
Bydd y rhaglen yn derbyn £348,377 dros bedair blynedd o Raglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru, gan ymestyn gwaith ymgysylltu â chyflogwyr WVEP i gynnwys pob un o'r 53 ysgol ym Mlaenau Gwent a Merthyr Tudful o dymor y gwanwyn 2022.
Bydd hyn yn helpu i greu etifeddiaeth gynaliadwy drwy ysgolion ag adnoddau gwell, athrawon wedi uwchsgilio a mwy o gysondeb rhwng y cwricwlwm STEM ac anghenion busnesau STEM yn yr ardal. Bydd hefyd yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer symudedd cymdeithasol ac yn cyfrannu at y cyflenwad o weithwyr medrus iawn y mae rhaglen Cymoedd Technoleg gwerth £100 miliwn Llywodraeth Cymru yn anelu at ei hwyluso.
Drwy gydol cyfnod y prosiect estynedig, bydd Ymddiriedolaeth Panasonic yn parhau i ariannu bwrsariaethau Peiriannydd y Dyfodol i fyfyrwyr sy'n symud ymlaen i Addysg Bellach, gydag estyniad i ariannu'r rhai sy'n mynd ymlaen eto i Addysg Uwch.
Mae STEM yn rhan annatod o’r Cwricwlwm i Gymru, ochr yn ochr â pharatoi dysgwyr ar gyfer astudio, cyflogaeth a bywyd yn yr 21ain ganrif.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Fy uchelgais yw gwneud Cymru yn wlad lle mae mwy o bobl ifanc yn teimlo'n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol. Fy neges iddyn nhw yw nad oes rhaid i chi symud i ffwrdd i symud ymlaen.
"Mae rhaglenni fel hyn yn hanfodol ar gyfer creu optimistiaeth ynghylch y weledigaeth hon. Mae'n cyfoethogi'r cwricwlwm, yn ennyn diddordeb disgyblion, ac yn ysbrydoli myfyrwyr drwy ddod ag arferion peirianneg o'r byd go iawn i ysgolion.
"Drwy'r Cymoedd Technoleg, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau twf busnesau ar draws cymoedd y de ac ehangu’r sylfaen o sefydliadau technoleg sydd gennym yn yr ardal. Rydyn ni am helpu pob busnes i arloesi ac ymdrechu i gael technolegau o’r radd flaenaf.
"Rydyn ni eisoes yn gyrchfan o ddewis i gwmnïau a phrosiectau eithriadol. Mae'r rhaglen hon, drwy gydweithio o ddifri ag awdurdodau lleol, busnesau ac ysgolion, yn ymrwymiad hirdymor i greu canolfannau rhagoriaeth mewn dysgu STEM a meithrin gweithlu'r dyfodol, er mwyn i'r busnesau a'r mentrau hyn fedru cyflawni mwy fyth yn y dyfodol. Gallai lywio'r gwaith o gyflwyno'r model ledled Cymru."
Cyflwynir WVEP gan yr Academi Frenhinol Peirianneg, elusen sy'n canolbwyntio ar harneisio grym peirianneg i adeiladu cymdeithas gynaliadwy ac economi gynhwysol sy'n gweithio i bawb.
Dywedodd Dr Hayaatun Sillem CBE, Prif Swyddog Gweithredol yr Academi Frenhinol Peirianneg: "Rwy’ wrth fy modd bod ein cynlluniau uchelgeisiol i ymestyn ymgysylltiad cyflogwyr drwy Brosiect Peirianneg y Cymoedd wedi'u gwireddu a bod yr Academi'n gallu cryfhau ac ehangu ei gwaith yng Nghymru. Un o brif amcanion yr Academi yw cefnogi datblygiad economi gynhwysol, ac mae hynny'n cynnwys ymgysylltu ag ysgolion mewn ardaloedd o symudedd cymdeithasol isel, darparu mynediad cyfartal i wyddoniaeth a pheirianneg i'r myfyrwyr yn yr ardaloedd hyn, a datblygu eu sgiliau ar gyfer y dyfodol. Drwy adeiladu partneriaethau lleol hirdymor rhwng ysgolion a chyflogwyr yn yr ardaloedd hyn, gallwn hefyd gydweithio i gyfrannu at greu sylfaen o sgiliau peirianneg sy'n gallu diwallu anghenion rhanbarthol yn well."
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: "Rwy'n falch iawn o weld y cynllun WVEP yn cael ei ymestyn i ysgolion ar draws Blaenau Gwent a Merthyr Tudful – mae llwyddiant y rhaglen hyd yma yn dyst i ymdrechion ysgolion a chyflogwyr i ehangu cyfleoedd i bobl ifanc yn y rhan hon o Gymru, ac mae’n wych gweld hyn yn mynd o nerth i nerth.
"Mae rhaglenni fel y rhain yn werthfawr i bob dysgwr – boed yn symud ymlaen i yrfaoedd sy'n gysylltiedig â STEM ai peidio – fel y gallant ffynnu mewn byd sy'n cael ei yrru gan wyddoniaeth a thechnoleg. Mae sicrhau bod gennym ddysgwyr medrus yn y meysydd hyn yn hanfodol i'n rhagolygon economaidd yma yng Nghymru.
"Mae ein Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil – a gyflwynwyd yn y Senedd yn gynharach y mis hwn – yn nodi ein cynlluniau ar gyfer diwygiadau radical yn y sector addysg ôl-16, gan sicrhau bod mwy a mwy o bobl yn cael mynediad at fwy o gyfleoedd dysgu a hyfforddi ar ôl iddynt gyrraedd diwedd eu haddysg orfodol. Mae rhaglenni fel WVEP yn dangos y gallwn helpu pobl ifanc i symud i'r meysydd hynny drwy eu hyfforddi mewn sgiliau gwerthfawr tra byddant yn dal i fod yn yr ysgol, ac edrychaf ymlaen at weld llwyddiant y rhaglen yn y dyfodol."