English icon English

Cyllid newydd o £65 miliwn i helpu colegau a phrifysgolion i gyrraedd sero net

£65 million of new funding to help colleges and universities reach net zero

Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid newydd o £65 miliwn i gefnogi'r sectorau addysg bellach, addysg uwch a dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru.

Mae'r pecyn yn cynnwys £46 miliwn i helpu darparwyr addysg ôl-16 a dysgu yn y gymuned i leihau eu hôl troed carbon a gwella eu cysylltedd digidol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyrraedd sero net erbyn 2050. Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn ofynnol i bob adeilad ysgol a choleg newydd gyrraedd targedau Carbon Sero-net.  

Bydd darparwyr addysg yn defnyddio'r cyllid i lunio cynlluniau arloesol er mwyn gwella eu hôl troed carbon, yn ogystal â gwneud gwelliannau i seilwaith eu safle, megis gosod goleuadau LED a chynyddu nifer y mannau gwefru ceir trydan.

Caiff deunyddiau hyfforddi newydd eu datblygu hefyd, sy'n addas at yr amrywiaeth eang o gyrsiau sydd ar gael yn y sector addysg bellach, i roi cyfle i fyfyrwyr coleg ddysgu am Garbon Sero-net fel rhan o'u hyfforddiant. Er enghraifft, efallai y bydd myfyrwyr sy'n cymryd cyrsiau ym maes trin gwallt a harddwch yn dysgu am darddiad y cemegion y byddant yn eu defnyddio ac am eu gwaredu mewn modd sy'n ystyriol o'r amgylchedd. Bydd myfyrwyr sy'n cymryd cyrsiau ym maes adeiladu yn dysgu am ffynonellau ynni adnewyddadwy a gwaith ôl-osod.

Rhoddir cyllid hefyd er mwyn helpu darparwyr addysg bellach dalu costau uwch y deunyddiau traul a ddefnyddir mewn nifer o gyrsiau galwedigaethol mewn colegau, megis costau brics a phren. Er enghraifft, mae'n debyg bod costau dur wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y pandemig.

Caiff y cyllid ei ddefnyddio hefyd i gefnogi dysgwyr ôl-16 mewn ymateb i COVID-19, er enghraifft drwy dalu am fentora a rhagor o gymorth iechyd meddwl. Mae hyn ar ben yr £8 miliwn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf i helpu colegau addysg bellach i dalu'r costau sy'n codi yn sgil sicrhau bod modd parhau i gynnal addysg wyneb yn wyneb yn ddiogel, yn ogystal ag ymgyrch recriwtio i ddenu rhagor o staff i'r sector.

Bydd £10m hefyd yn cael ei ddarparu ar gyfer gweithgareddau ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch, i gyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i frwydro yn erbyn newid hinsawdd. Mae gan ein colegau a'n prifysgolion rôl bwysig i'w chwarae yn yr ymdrech genedlaethol i gyrraedd Sero Net, fel cyflogwyr mawr ledled Cymru a chartrefi dysg y gweithwyr a fydd yn rhoi eu haddysg ar waith mewn proffesiynau sy'n galw am sgiliau uwch.

“Mae colegau a phrifysgolion wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau bod dysgu yn parhau, gan gadw myfyrwyr a staff yn ddiogel ar yr un pryd.

"Rydym wedi ymrwymo i ddarparu £50m o gyllid ychwanegol ar gyfer addysg ôl-16 yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ar ein rhaglen Adnewyddu a Diwygio a gwneud beth bynnag a allwn i alluogi ein pobl ifanc i gyrraedd eu potensial."