English icon English
WBF Hoodie Carys-2

Cyllid pellach ar gyfer Hwylusydd Lles yn sector sgrin Cymru

Further funding for WellBeing Facilitators in Wales’ screen sector announced.

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod rhaglen beilot sy’n cefnogi pobl sy’n gweithio yn sector sgrin Cymru gyda’u hiechyd meddwl ar fin elwa o £150,000 ychwanegol yn dilyn cam cyntaf llwyddiannus.

Wedi’i ariannu drwy Gymru Creadigol, mae rhaglen yr Hwylusydd Lles yn bartneriaeth rhwng rhaglen CULT Cymru – Undebau Creadigol yn Dysgu gyda’i Gilydd ac arbenigwyr iechyd meddwl a llesiant 6ft from the Spotlight CIC. 

Caiff y rhaglen ei gyrru a'i lliwio gan Grŵp Cynghori o gyflogwyr, undebau a chyrff diwydiant i ymateb i faterion a heriau a rannwyd gan bobl sy'n gweithio yn y sector.

Yng ngham cyntaf y peilot a gynhaliwyd rhwng Medi 2022 a Mawrth 2023, cafodd deg cwmni cynhyrchu fynediad at grantiau o hyd at £15,000 i sicrhau bod Hwylusydd Llesiant sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig yn rhan o’u cynyrchiadau i hyrwyddo iechyd meddwl a darparu cyngor llesiant yn y sector sgrin.

Dangosodd adborth gan gyflogwyr a'r gweithlu fod yr hwyluswyr yn ei gwneud hi'n haws o lawer datrys problemau llesiant ac wedi helpu i wella'r diwylliant gwaith. Nododd nifer o gynyrchiadau hefyd fod cael Hwylusydd Lles ar y set wedi helpu i gynyddu eu cynhyrchiant cyffredinol.

Bydd Cam 2 y peilot yn adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd dros y chwe mis diwethaf ac yn galluogi carfan newydd o gwmnïau cynhyrchu i elwa ar y cymorth a'r cyngor sydd ar gael gyda'r nod o gynyddu llesiant ar y set a chadw mwy o staff.

Fel rhan o gam 2 y peilot bydd chwe Hwylusydd Llesiant newydd o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys pobl o Gefndiroedd Mwyafrifol y Byd, pobl anabl a'r gymuned LGBTQ+ yn cael eu hyfforddi. Mae cynlluniau hefyd i ehangu’r peilot i sectorau creadigol eraill fel cerddoriaeth.

Wrth gyhoeddi'r cyllid yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden:

"Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu sicrhau cyllid ar gyfer ail gam y rhaglen bwysig hon - ac wrth inni nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl - mae'n amser da inni feddwl a siarad am iechyd meddwl, mynd i'r afael â stigma yn uniongyrchol, a darganfod sut y gallwn greu cymdeithas sy'n atal problemau iechyd meddwl rhag datblygu ac sy’n diogelu ein llesiant meddwl. 

"Mae cam cyntaf y rhaglen Hwylusydd Lles wedi cael effaith sylweddol ar arferion gwaith teg, diogel, cynhwysol a chefnogol yn y sector - ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid ar yr ail gam."

Dywedodd Philippa Childs, Pennaeth Bectu:

"Mae Bectu wedi ymgyrchu'n gyson i iechyd meddwl a llesiant gweithwyr fod yn flaenoriaeth allweddol i gyflogwyr ac ymgysylltwyr, ac rwy'n falch iawn bod yr undeb yn gweithio mewn partneriaeth ag undebau creadigol eraill, Cymru Greadigol a rhanddeiliaid y diwydiant ar fenter mor bwysig a llwyddiannus.

"Mae rôl Hwylusydd Lles nid yn unig yn darparu arweiniad a chefnogaeth i weithwyr a gweithwyr llawrydd, ond mae'n dangos ymrwymiad gan gyflogwyr i flaenoriaethu iechyd meddwl a llesiant yn y gwaith.

"Mae effaith y pandemig ar weithlu'r diwydiannau ac yna’r argyfwng costau byw yn golygu nad yw blaenoriaethu iechyd meddwl yn y gwaith erioed wedi bod mor bwysig. Drwy gydweithio cyson a pharhaus yn y diwydiant, gallwn gefnogi'r gweithlu yn well a sicrhau bod y sector cynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu ar drywydd i wella ei arferion gwaith."

Dywedodd Ruth Ballantyne – Swyddog Rhanbarthol, Undeb y Cerddorion a Chadeirydd CULT Cymru:

"Gan weithio gydag aelodau undeb yn y diwydiannau creadigol bob dydd gallwn werthfawrogi'r angen am hwyluswyr llesiant a'r rôl bwysig y gallant ei chwarae. Mae'r peilot hwn wedi helpu i dynnu sylw at yr angen yn y sector am gymorth llesiant ac yn dilyn ei lwyddiant rydym yn edrych ymlaen at ymestyn y rolau hyn i'r rhai sy'n gweithio mewn cerddoriaeth a digwyddiadau byw.

"Mae llawer o gerddorion yn gweithio mewn amgylcheddau ynysig, straen uchel lle byddai mynediad at Hwylusydd Lles yn ychwanegiad i'w groesawu'n fawr. Mae'r rolau hyn yn gam hanfodol i sicrhau bod iechyd meddwl a llesiant yn flaenoriaeth a'r diwydiannau creadigol yn hygyrch i bawb".

Roedd adborth cyflogwyr a gweithwyr o’r peilot cyntaf wedi nodi manteision cael Hwylusydd Lles ar set gynhyrchu. Dangosodd:

  • Fod cael mynediad i Hwylusydd Lles yn dangos ymrwymiad cadarnhaol y cyflogwr i gefnogi llesiant ei weithlu;
  • Bod y gweithlu yn fwy hyderus yn codi problemau llesiant sy’n weddol hawdd eu datrys gan fod yr Hwylusydd Lles yn anhysbys;
  • Y gallai lleisio pryderon ynghylch ymddygiad gwael helpu i wella problemau;
  • Bod tynnu sylw at bryderon sensitif mewn sgriptiau wedi helpu i roi gwybod i’r cast, criw a’r rheolwyr am bwyntiau sbardun posibl ar gyfer unigolion;
  • Bod y gallu i drafod heriau personol yn gyfrinachol megis materion teuluol, profedigaeth, iechyd meddwl gwael, problemau ariannol, dim digon o waith etc a chael eich cyfeirio at gymorth priodol yn werthfawr;
  • Bod angen hyfforddiant o ran iechyd meddwl a llesiant, materion rheoli a chydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyflogwyr a’r gweithlu;
  • Bod cyflogwyr wedi ceisio cyngor ar hygyrchedd ee ynghylch anabledd, crefydd etc.

Yn ddiweddar, dywedodd arolwg yr Elusen Ffilm a Theledu, Iechyd Meddwl yn y Diwydiant Teledu a Ffilm 2022 - Tair Blynedd yn ddiweddarach, fod "newid positif" i’w weld mewn diwylliant ac ymddygiad yn ymwneud ag iechyd meddwl a llesiant. Fodd bynnag, nododd yr arolwg hefyd fod ffordd bell iawn i fynd i gefnogi gweithlu'r diwydiant yn well.