English icon English
Image-159

Cyllid ychwanegol ar gyfer Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd i hybu presenoldeb mewn ysgolion

Extra funding for family engagement officers in drive to boost school attendance

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd £8.8m yn cael ei ddarparu i gynyddu ymgysylltiad a phresenoldeb mewn ysgolion, gan gynnwys £1.5m i ddarparu mwy o gapasiti ar gyfer Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd i gefnogi dysgwyr gyda'u presenoldeb.

Mae codi safonau mewn ysgolion yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r llywodraeth ac mae gwella presenoldeb yn rhan allweddol o hyn. Er bod presenoldeb mewn ysgolion wedi cynyddu 0.5% eleni, bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn helpu i hybu cyfraddau presenoldeb ymhellach trwy gefnogi recriwtio Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd ychwanegol ledled Cymru. Mae'r swyddogion hyn yn allweddol i gynyddu'r ymgysylltu â dysgwyr a'u teuluoedd a gwneud yr ysgol yn amgylchedd mwy cadarnhaol.

Mae Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd yn cael eu cyflogi gan ysgolion i helpu i feithrin perthynas gadarnhaol o ymddiriedaeth rhwng eu hysgolion a'u teuluoedd drwy bontio'r bwlch rhwng bywyd ysgol a bywyd cartref. Drwy gynnig cymorth ac arweiniad, maent yn sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt ac yn ymgysylltu â'r ysgol. Maent yn gweithio i wella presenoldeb drwy ddeall y ffactorau ehangach a allai fod yn atal y plentyn rhag bod eisiau mynychu'r ysgol ac yn gweithio gyda theuluoedd i fynd i'r afael â'r rhain.

Maent yn chwarae rhan bwysig mewn ysgolion bro, gan helpu i wneud i deuluoedd deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu clywed a'u gwerthfawrogi. Dangoswyd bod hyn yn cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi £6.5m eleni i gefnogi tua 200 o swyddi ar gyfer Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd* a byddwn yn adeiladu ar hyn yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

"Mae gwella presenoldeb yn un o fy mlaenoriaethau pennaf. Rwy'n hapus i weld bod presenoldeb wedi gwella, ond mae angen gwneud mwy o waith i fynd i'r afael â'r materion sylfaenol sy'n achosi absenoldeb. Dyna pam rwyf mor falch o gyhoeddi cyllid ychwanegol i recriwtio a hyfforddi mwy o Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Byddaf yn ychwanegu at y cymorth gwerthfawr hwn ymhellach yn y flwyddyn ariannol nesaf i sicrhau y gallwn gynyddu a chadw'r rolau hyn. Mae Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd yn hanfodol i hwyluso perthynas rhwng teuluoedd ac ysgolion a thrwy hynny helpu i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol absenoldeb. Mae eu gwaith eisoes wedi bod yn hynod lwyddiannus, ac edrychaf ymlaen at weld y gwelliant hwn yn parhau i'n dysgwyr."

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Notes

  • Full time equivalent posts.
  • The £1.5 million is from this financial year.
  • Photo - from left to right; Emma Thomas, Head Teacher Adamsdown Primary School, Lynne Neagle, Cabinet Secretary for Education, Tracey Gallagher, Family Engagement Officer, Sophie Moignard, Community Focused Schools Cluster Manager, Cardiff Local Authority and Emily Parker, Local Authority Community Focused Schools Officer.