Cyllid ychwanegol i helpu pobl drwy gyfnodau anodd
Additional funding to help those through difficult times
Mae £3m ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau profedigaeth ledled Cymru i helpu i sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, pan fydd ei angen arnyn nhw.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, y byddai'r cyllid dros gyfnod o dair blynedd yn helpu Cymru i fod yn "genedl dosturiol" ac yn gwella gofal a chymorth profedigaeth.
Bydd y Grant Cymorth Profedigaeth yn cefnogi pawb sy'n profi colled, gan roi mathau arbenigol o gymorth i bobl sy'n byw ac yn gweithio ym maes ffermio yn ogystal ag i'r rhai sy'n profi mathau mwy cymhleth o alar.
Dywedodd Sarah Murphy: "Rydym am sicrhau bod Cymru yn genedl dosturiol, lle mae gan bawb fynediad teg at ofal a chymorth profedigaeth o ansawdd uchel. Rydym yn gobeithio y bydd darparu'r cyllid ychwanegol hwn yn ein helpu i gyrraedd y nod hwnnw."
Un o'r sefydliadau sy'n elwa ar y grant yw Lles Platfform sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd.
Dywedodd un person sydd wedi cael cefnogaeth gan Platfform: "Rwy'n teimlo'n llawer gwell yn siarad â fy nghwnselydd am yr hyn roeddwn i'n mynd drwyddo. Maen nhw mor gefnogol a dydyn nhw byth yn eich barnu chi am yr hyn rydych chi'n siarad amdano.
"Alla i ddim diolch digon i fy nghwnselydd am siarad drwy bethau gyda mi ac am fy helpu."
Dywedodd un arall: "Roedd y [cwnselydd] yn gefn mawr imi, gan fy helpu nid yn unig drwy fy mhrofedigaeth ond hefyd gyda rhai o'r materion mawr eraill oedd yn effeithio arnaf, fy iechyd meddwl a lles emosiynol. Mae hi wir wedi gwneud gwahaniaeth i fy mywyd a dydw i ddim yn siŵr fyddwn i wedi gallu goroesi'r flwyddyn ddiwethaf hebddi."
Dywedodd Peter Johnson, cyfarwyddwr masnachol Lles Platfform: "Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y cyllid parhaus hwn, sy'n ein galluogi i gefnogi'r rhai sydd wedi profi profedigaeth.
"Dros y tair blynedd diwethaf, mae'r gefnogaeth hon wedi ein galluogi i gyrraedd cannoedd o bobl drwy filoedd o sesiynau un i un a grwpiau cymorth gan gymheiriaid yn ystod cyfnod sy'n aml yn ddryslyd ac yn anodd. Mae wedi bod yn fraint cael bod yn gefn i gynifer ar eu taith."
Fel rhan o'r ymdrechion i ddatblygu llwybr ar gyfer gofal profedigaeth yng Nghymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yw'r bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i ddarparu gwasanaeth profedigaeth sy'n cael ei arwain gan seicoleg. Cynigir y gwasanaeth yn benodol i'r rhai sy'n profi marwolaeth baban, naill ai yn ystod beichiogrwydd neu hyd at 28 diwrnod ar ôl genedigaeth eu baban.
Wrth siarad ar ôl ei hymweliad â Platfform, dywedodd Sarah Murphy: "Mae Platfform yn darparu gwasanaeth gwych, ac mae'n sicrhau bod gan bobl y cyswllt iawn pan fydd ei angen arnyn nhw.
Roedd yn bleser dysgu am brofiadau pobl sydd wedi defnyddio Platfform a siarad â staff am sut mae'r sefydliad wedi eu helpu yn ystod eu profiadau eu hunain o alar."