Cyllid ychwanegol i hosbisau yng Nghymru
Welsh hospices’ funding to increase
Bydd hosbisau yng Nghymru yn cael £2.2 miliwn yn ychwanegol fel rhan o adolygiad Llywodraeth Cymru o ofal diwedd oes.
O'r cyllid hwn, bydd £888,000 yn mynd i'r ddwy hosbis blant, Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith, a bydd y gweddill ar gyfer gwasanaethau hosbis i oedolion ledled Cymru.
Mae'r cyllid hwn ar ben yr £13.8 miliwn a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r sector a chryfhau'r gwasanaethau cymorth mewn profedigaeth gydol y pandemig.
Mae'r cyllid yn rhan o gam cyntaf yr adolygiad o ofal diwedd oes. Bydd yr ail gam yn edrych ar ddarpariaeth gofal diwedd oes ehangach o fis Ebrill 2022 ymlaen, dan oruchwyliaeth y Bwrdd Rhaglen newydd ar gyfer Gofal Diwedd Oes.
Neilltuwyd yr arian yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru a chaiff ei ddosbarthu’n rheolaidd o fis Ebrill 2022 ymlaen.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
"Mae hosbisau'n rhan hanfodol o'r gwasanaeth gofal Iechyd yng Nghymru, maen nhw’n darparu gofal hollbwysig i fwy na 20,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn sy’n cael eu heffeithio gan salwch terfynol, ac yn helpu i atal pobl rhag cael eu derbyn i'r ysbyty’n ddiangen.
"Ni fu erioed fwy o angen y gofal hwn nag yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Gydol y pandemig, mae hosbisau wedi bod yno i gefnogi cleifion, teuluoedd a gofalwyr drwy'r amser anoddaf iddynt ac o dan yr amgylchiadau anoddaf hefyd.
"Rydym wedi ymrwymo i ddwysau ein ffocws ar ofal diwedd oes a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda’r Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol newydd i yrru’r gweithredu ar draws y Llywodraeth, a chyda rhanddeiliaid, i wella gwasanaethau gofal diwedd oes i bawb."
Dywedodd Prif Weithredwr hosbis blant Tŷ Hafan, Maria Timon Samra:
"Ynghyd â Thŷ Gobaith rydym wedi bod yn ymgyrchu i sicrhau trefn gyllido gynaliadwy ar gyfer hosbisau plant Cymru. Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu yn sgil argymhellion yr adolygiad o gyllid hosbisau.
"Rydym yn diolch i'r Gweinidog, Eluned Morgan, y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan, ac Aelodau o bob rhan o'r Siambr, am eu cefnogaeth i'r gronfa gymorth hon, heb anghofio'r swyddogion yn y llywodraeth fu hefyd yn gweithio ar yr adolygiad.
"Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda nhw i greu Cymru sy'n fwy tosturiol ac sy'n cefnogi plant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau, a'u teuluoedd. Yn aml, ein hosbisau yw’r unig le y gallant dderbyn gofal a chymorth mewn argyfwng, a chael seibiant."
Dywedodd Andy Goldsmith, Prif Weithredwr Hosbis Blant Tŷ Gobaith:
"Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am ymateb i'n cais am gyllid teg a chynaliadwy ar gyfer dwy hosbis blant Cymru.
"Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn gam cyntaf mawr ymlaen o ran sicrhau bod y cymorth gwerthfawr y mae hosbisau plant yn ei ddarparu ar gael i bob plentyn a theulu sydd ein hangen. Rydych yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ariannu a datblygu gwasanaethau i ddiwallu'r angen cynyddol a newidiol am y cymorth gofal a phrofedigaeth arbenigol y mae Tŷ Gobaith a Thŷ Hafan yn ei ddarparu yng Nghymru."
Cyn y pandemig, roedd tua dwy ran o dair o incwm hosbisau yn dod o weithgareddau codi arian.
Defnyddiwyd cyllid brys gan Lywodraeth Cymru o £13.84 miliwn i gynorthwyo hosbisau wrth iddyn golli’r incwm yr oeddent yn arfer ei godi drwy weithgareddau elusennol; i ddiogelu eu gwasanaethau craidd ac i gryfhau’r gwasanaethau cymorth mewn profedigaeth.
Arweiniwyd yr adolygiad o ofal diwedd oes gan dîm Cydweithredol y GIG a ddadansoddodd wybodaeth a gyflwynwyd gan hosbisau, gan gynnal cyfarfodydd rheolaidd â nhw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am hynt y gwaith.
Mae'r £2.2 miliwn hwn o gyllid ychwanegol yn rhoi codiad sylweddol i hosbisau ledled Cymru yn eu dyraniadau cyllid craidd ac mae’n cynnig lefel o sicrwydd iddynt wrth fynd ati i gynllunio a darparu gwasanaethau yn y dyfodol.