Cyllideb i greu dyfodol mwy disglair i Gymru
A budget to build a brighter future for Wales
£1.5 biliwn yn ychwanegol i gryfhau gwasanaethau cyhoeddus, cefnogi busnesau bach a sbarduno twf economaidd – dyna sylfaen Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26.
Bydd holl adrannau'r llywodraeth yn cael cynnydd yn eu cyllid refeniw a chyfalaf, sy'n sefyllfa dra gwahanol i'r cyfyngiadau cyllidebol blaenorol.
Bydd y cynlluniau gwario cyfalaf yn fwy na £3 biliwn am y tro cyntaf yng ngham y Gyllideb Ddrafft, sy’n golygu y bydd modd buddsoddi’n sylweddol mewn adeiladau ysgolion, seilwaith y GIG, tai a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford:
“Dyma gyllideb sy'n cynnig dyfodol mwy disglair, gan roi £1.5 biliwn yn ychwanegol i'n gwasanaethau cyhoeddus a'n blaenoriaethau a helpu i roi Cymru ar y trywydd cywir unwaith eto i sicrhau twf ar ôl 14 o flynyddoedd anodd dros ben. Mae hyn yn gyferbyniad llwyr i’r flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, pan gawsom ein gorfodi i wneud penderfyniadau anodd a phoenus iawn.
"Mae'r Gyllideb Ddrafft hon yn cynnig cyfle gwirioneddol i ddechrau ailadeiladu ac adnewyddu ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n rhoi cynnydd i bob adran ac yn rhoi hwb sylweddol o ran cyllid cyfalaf, sy'n golygu mwy o fuddsoddiad yn yr hanfodion – ystad y Gwasanaeth Iechyd ac ysgolion, tai a seilwaith cyhoeddus – calon Cymru.
“Mae hon yn gyllideb dda i Gymru. Ond bydd yn cymryd amser i wrthdroi’r difrod a gafodd ei wneud i Gymru dros 14 blynedd hir o esgeulustod gan weinyddiaethau blaenorol y Deyrnas Unedig."
Mae'r Gyllideb Ddrafft yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y meysydd sydd bwysicaf i bobl – cefnogi'r GIG, swyddi a thwf, cyfleoedd i deuluoedd, a chysylltu cymunedau.
Mae’n cynnwys:
- Mwy na £600 miliwn o gyllid refeniw a chyfalaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a fydd yn helpu'r GIG i barhau i leihau’r amseroedd aros hiraf, gwella gwasanaethau iechyd meddwl, a chryfhau gwasanaethau iechyd menywod.
- Cyllid ychwanegol i atgyweirio a cadw golwg ar domenni glo, a hynny yr un diwrnod ag y mae deddfwriaeth newydd i wella diogelwch tomenni glo segur yn cael ei chyflwyno yn y Senedd.
- £81 miliwn yn fwy o gyllid cyfalaf i adeiladu mwy o gartrefi rhent cymdeithasol, gan helpu i leihau digartrefedd a sicrhau bod gan bawb yng Nghymru le i'w alw'n gartref.
- Mwy na £100 miliwn yn fwy ar gyfer y gyllideb addysg a chynnydd o 4.3% yn y setliad llywodraeth leol, a fydd yn helpu i ariannu ysgolion, gofal cymdeithasol a'r gwasanaethau eraill rydym yn dibynnu arnynt.
- £181.6 miliwn i wella gwasanaethau rheilffyrdd, gan gynnwys trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd o fod yn rheilffordd Oes Victoria i fod yn rhwydwaith Metro o’r radd flaenaf.
- £3.7 miliwn i gyflymu penderfyniadau cynllunio a digideiddio gwasanaethau cynllunio.
- Dwy gronfa newydd i gynnal a chadw rhwydwaith ffyrdd Cymru – llenwi tyllau yn y ffyrdd ac atgyweirio diffygion.
Er mwyn cefnogi busnesau Cymru, bydd y lluosydd ardrethi annomestig yn cael ei gapio ar 1% ar gyfer 2025-26 a bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn parhau i gael rhyddhad o 40% tuag at eu biliau. Bydd cyfanswm o £335 miliwn yn cael ei wario ar gymorth ardrethi annomestig yn 2025-26.
Ni fydd cyfraddau Treth Incwm Cymru yn newid – bydd talwyr treth incwm Cymru yn parhau i dalu'r un cyfraddau â phobl yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Ond mae'r Gyllideb Ddrafft yn cynnwys nifer o fesurau treth eraill, a fydd yn codi arian i gefnogi busnesau a gwasanaethau cyhoeddus ac yn helpu i gefnogi uchelgeisiau Cymru i ailgylchu mwy o wastraff.
O 11 Rhagfyr 2024 ymlaen, bydd cyfraddau preswyl uwch y Dreth Trafodiadau Tir sy'n berthnasol i brynu eiddo preswyl ychwanegol yn cynyddu 1%, gan godi amcangyfrif o £7 miliwn yn ychwanegol yn 2025-26. Mae'r newid hwn yn cyd-fynd yn fras â newidiadau a wnaed i Dreth Tir y Dreth Stamp yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Bydd cyfradd safonol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn codi i £126 ac i £6.30 fesul tunnell ar gyfer y gyfradd is i helpu i leihau swm y gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi ac annog mwy o ailgylchu.
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Mae'r gyllideb hon yn dangos pŵer dwy lywodraeth, sy'n rhannu'r un gwerthoedd, yn gweithio gyda'i gilydd."
Bydd Aelodau'r Senedd yn craffu ar y Gyllideb Ddrafft cyn cynnal pleidlais derfynol ym mis Mawrth 2025.