English icon English

Cyllideb y DU yn "gam cyntaf i drwsio difrod yr 14 mlynedd diwethaf"

UK Budget a “first step to repair the damage of the last 14 years”

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi croesawu Cyllideb gyntaf Llywodraeth newydd y DU a'r £1.7bn ychwanegol y bydd yn ei olygu i Gymru dros ddwy flynedd.

Wrth siarad ar ôl datganiad y Canghellor, dywedodd ei fod yn gam cyntaf tuag at "drwsio'r difrod a achoswyd dros yr 14 mlynedd diwethaf gan lywodraethau blaenorol y DU".

A dywedodd fod Rachel Reeves - Canghellor benywaidd cyntaf erioed y DU - yn gwrando ar Gymru drwy fuddsoddi yn niogelwch tomenni glo a chynyddu cyllideb gyfalaf Cymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:

"Mae hon yn Gyllideb sy'n canolbwyntio ar drwsio'r sylfeini; ailadeiladu gwasanaethau cyhoeddus a chreu llwybr buddsoddi ar gyfer twf.

"Mae'n nodi'r camau cyntaf i'r cyfeiriad cywir ar ôl 14 mlynedd o gamreoli economaidd gan lywodraethau blaenorol y DU a'r effaith y mae eu penderfyniadau wedi'i chael ar bobl a chymunedau.

"Mae'n amlwg bod y Canghellor yn gwrando ynghylch yr hyn sydd ei angen ar Gymru. Dw i'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU ar ein blaenoriaethau eraill, gan gynnwys sicrhau cyllid teg ar gyfer y rheilffyrdd."

Yn dilyn Cyllideb y DU heddiw, mae setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 dros £1bn yn uwch nag y byddai wedi bod o dan Lywodraeth flaenorol y DU. Gan gymryd 2024-25 a 2025-26 gyda'i gilydd, mae'r setliad oddeutu £1.7bn yn uwch o'i gymharu â'r hyn y byddai wedi bod.

Roedd Cyllideb y DU yn cynnwys y canlynol ar gyfer Cymru:

  • £1.7bn o gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a buddsoddi cyfalaf yng Nghymru.
  • £25m i gefnogi buddsoddiad parhaus Llywodraeth Cymru i wneud tomenni glo yn ddiogel
  • Symud i'r cam nesaf ar gyfer y Porthladd Rhydd Celtaidd gan ddynodi'r safleoedd treth
  • Cefnogaeth i brosiectau hydrogen gwyrdd yn Aberdaugleddau a Phen-y-bont ar Ogwr
  • Dod â'r anghyfiawnder ynghylch cronfa bensiwn glowyr i ben
  • Cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol i ddegau o filoedd o weithwyr yng Nghymru.

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Cyllid: "Mae'r cyllid ychwanegol i'w groesawu, ac er mai nod Cyllideb y Canghellor yw creu twf, mae'r cyd-destun ariannol ehangach yn dal i fod yn anodd.

"Byddwn yn gwneud ein penderfyniadau gwario wrth inni ddatblygu ein Cyllideb Ddrafft yn yr wythnosau i ddod."

DIWEDD