English icon English
Tots and Toddlers set-up-2

Cymru'n gweld y twf uchaf erioed mewn entrepreneuriaeth

Wales sees record growth in entrepreneurship

Adroddiad GEM Cymru 2023 yn datgelu'r cyfraddau entrepreneuriaeth uchaf erioed.

Mae Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf erioed mewn gweithgarwch entrepreneuraidd, gyda ffigurau newydd o adroddiad Monitor Entrepreneuriaeth Byd-eang (GEM) Cymru 2023 yn dangos y lefelau uchaf a gofnodwyd erioed o ran cyfraddau busnesau cyfnod cynnar.

Mae'r adroddiad yn canfod bod cyfradd Cyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar (TEA) yng Nghymru wedi cyrraedd 11.5% digynsail yn 2023, sy'n gynnydd sylweddol o'i gymharu â 7.8% yn 2022.

Mae entrepreneuriaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghymru wedi gweld cynnydd rhyfeddol, gyda 14.0% o bobl ifanc bellach yn cymryd rhan mewn gweithgareddau busnes cyfnod cynnar, i fyny o 2.0% yn 2002.

Mae adroddiad GEM 2023, sy'n rhoi cipolwg blynyddol ar dueddiadau entrepreneuraidd ledled y DU, hefyd yn datgelu bod 20% o oedolion o oedran gweithio nad ydynt yn entrepreneuriaid yng Nghymru yn bwriadu dechrau busnes o fewn y tair blynedd nesaf, i fyny o 15.7% yn 2022.

Mae'r gyfradd TEA i fenywod, ar 9.5%, yn agos at 13.5% i ddynion. Mae'r ddau ffigur yn gynnydd o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Drwy ei gwasanaeth Busnes Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth helaeth a phwrpasol i unigolion sydd am ddechrau neu dyfu eu busnesau. Mae hyn yn cynnwys cyfoeth o adnoddau am ddim, o gyngor ymarferol ar lansio busnes i daflenni ffeithiau manwl ar wahanol agweddau ar entrepreneuriaeth.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates:

“Mae Cymru yn lle gwych i ddechrau busnes. P'un a ydych chi bob amser wedi breuddwydio am fod yn fos arnoch chi eich hun neu os yw'ch amgylchiadau wedi eich arwain i ystyried hunangyflogaeth, rydyn ni yma i helpu.

“Fel y dengys adroddiad GEM 2023, mae mwy o bobl yng Nghymru yn manteisio ar y cyfle i ddechrau eu busnesau eu hunain. Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i wneud Cymru'n lle y mae ein pobl yn teimlo'n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol yma a bod yn rhan o'n cymuned gynyddol o entrepreneuriaid sy'n llunio economi yfory.”

Trodd Jade Woodhouse, 25 oed, o Fae Colwyn, ei breuddwyd yn realiti drwy lansio ei busnes ei hun, Tots and Toddlers Soft Play, ym mis Chwefror 2024. Mae stori Jade yn enghraifft wych o sut mae entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru yn dod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnynt i ddod â'u syniadau yn fyw.

Dywedodd hi:

“Roeddwn i wastad eisiau gweithio i mi fy hun – roedd y rhyddid a hyblygrwydd rhedeg fy musnes fy hun yn apelio'n fawr ataf, ond doeddwn i ddim yn gwybod lle i ddechrau.

“Dyna le y gwnaeth Busnes Cymru gamu i 'r adwy. Roedd fy nghynghorydd, Rebecca, yn anhygoel. Roedd hi'n credu yn fy ngweledigaeth ac yn fy arwain drwy'r camau i dyfu Tots and Toddlers Soft Play ac yn fy helpu i ddod o hyd i gyfleoedd sy'n cyd-fynd â'm nodau.”

Am ragor o wybodaeth a chymorth i helpu i droi eich syniadau busnes yn realiti, goresgyn rhwystrau a datblygu eich busnes ymhellach, ac i siarad ag arbenigwyr a chynghorwyr y diwydiant, ewch i wefan Busnes Cymru.

Nodiadau i olygyddion

Adroddiadau'r Monitor Entrepreneuriaeth Byd-eang 2023: https://www.llyw.cymru/adroddiadaur-monitor-entrepreneuriaeth-byd-eang-2023