Cymorth ar gael i ffermwyr wrth i'r tywydd sych barhau
Support available for farmers as dry weather continues
- Grantiau cyfalaf ar gael ar gyfer tyllau turio, cynaeafu dŵr ac awyru
- Rhanddirymiadau dros dro ar gael i ffermwyr yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a ffermwyr sy'n cyflawni contractau cynlluniau paratoi.
- Canllawiau ar les anifeiliaid mewn tywydd eithafol ar gael
Gall ffermwyr a thyfwyr sy'n wynebu cyfnod arall o dywydd sych gael mynediad at gymorth ymarferol sydd ar gael i'w helpu i ymdopi.
Mae amaethyddiaeth yn agored iawn i niwed mewn tonnau gwres ac amodau sych, sy'n gallu lleihau cynnyrch cnydau, niweidio glaswelltiroedd, bygwth lles da byw a rhoi pwysau cynyddol ar adnoddau dŵr.
Er bod amodau heddiw yn anodd, mae ymchwil yn dangos y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn ffermio mewn amodau llawer mwy heriol oherwydd newid hinsawdd, sy'n golygu fod addasu'n gynnar yn hanfodol.
Mae'r grant Cyfalaf Cynhyrchu ac Effeithlonrwydd bellach ar agor, a gall ffermwyr wneud cais am gyllid tuag at fesurau addasu i'r hinsawdd fel tyllau turio, offer cynaeafu dŵr, a systemau awyru gan gynnwys ffaniau ar gyfer siediau gwartheg.
Anogir ffermwyr sydd wedi ymuno â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) neu sy'n cyflawni contractau cynlluniau paratoi, a allai fod yn cael trafferth bodloni'r gofynion oherwydd y tywydd, i wneud cais am randdirymiad dros dro trwy eu cyfrif ar-lein RPW, gan gynnwys tystiolaeth ffotograffig sy'n dangos cyflwr y cnwd. O ystyried yr amodau eithriadol eleni, bydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn ffafriol a bydd atebion yn cael eu rhoi yn ddi-oed.
Dywedodd Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd:
"Rydym yn cydnabod y pwysau sy'n wynebu ffermwyr a thyfwyr yn ystod cyfnodau hir o dywydd sych, gan gynnwys effeithiau ar dda byw, cnydau, a busnesau fferm.
"Dyna pam rydyn ni eisiau i ffermwyr wybod am y cymorth sydd ar gael, boed hynny drwy ein cynllun Grantiau Cyfalaf, neu'r hyblygrwydd sydd ar gael o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
"Rydym wedi cyhoeddi mwy na £1bn yn ystod tymor y Senedd hon i gefnogi amaethyddiaeth gynaliadwy, a thrwy ein Rhaglen Diwygio Dŵr, byddwn yn cymryd rheolaeth lawn o ddŵr yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Dylai ffermwyr sydd â phryderon am les eu hanifeiliaid ofyn am gyngor ar unwaith gan eu milfeddyg. Mae canllawiau ymarferol ar ofalu am anifeiliaid fferm a cheffylau mewn tywydd eithafol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.