Cymorth hanfodol gan y Gronfa Cadernid Economaidd yn helpu i warchod staff â sgiliau arbennig gydag arbenigwyr technoleg resin yn Nhrefforest
Economic Resilience Fund vital helps protect highly-trained staff at Treforest resin technology specialists
Mae Llywodraeth Cymru wedi helpu i warchod 30 o staff â sgiliau arbennig gydag arbenigwyr technoleg resin yn Nhrefforest diolch i gyllid gan ei Chronfa Cadernid Economaidd.
Derbyniodd Dectek gyllid o £72,500 gan Lywodraeth Cymru i helpu i warchod swyddi a fyddai fel arall wedi eu colli oherwydd effaith economaidd y pandemig.
Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd yn rhan o becyn cymorth gwerth dros £2.5 biliwn gan Lywodraeth Cymru i fusnesau. Mae wedi darparu cymorth ariannol sylweddol i filoedd o gwmnïau ledled Cymru ac eisoes wedi helpu i warchod dros 160,000 o swyddi. Mae’r gronfa yn ategu’r cymorth a ddarperir gan Lywodraeth y DU.
Sefydlwyd Dectek gan y Rheolwr-gyfarwyddwr Mike Beese o fwrdd ei gegin yn 2002. Ers hynny mae wedi datblygu yn un o brif weithgynhyrchwyr Ewrop o ran labeli resin, bathodynau enw, a’r Dulliau Pacio Digidol a lansiwyd yn ddiweddar, gan gyflenwi i gwmnïau fel Google, eBay a brandiau eraill led-led y byd.
Meddai Mr Beese: Roedd y cyllid gan y Gronfa Cadernid Economaidd a gafodd DecTek yn hanfodol i’n llywio drwy ein cyfnod masnachu anoddaf oherwydd y pandemig. Mae hefyd wedi rhoi sylfaen gadarn inni ddatblygu wedi adfer.”
Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae busnesau Cymru wedi bod yn brwydro i oroesi yn ystod yr argyfwng hwn, gyda cynifer yn aberthu cymaint. Fel llywodraeth, rydyn ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi. Roedd ein Cronfa Cadernid Economaidd yn allweddol i’n hymdrechion i warchod cwmnïau, swyddi a bywoliaeth rhag effeithiau economaidd difrifol y coronafeirws.
“Mae Dectek yn gyflogwr gwerthfawr gyda staff â sgiliau arbennig, felly dwi’n falch ein bod wedi rhoi cymorth ariannol hanfodol i’r cwmni yn ystod cyfnod pan oedd ei angen fwyaf.
“Wrth inni baratoi ar gyfer adferiad cadarn yng Nghymru, byddwn yn cefnogi busnesau a gweithwyr o Gymru i barhau i ddarparu cymorth cynhwysfawr yn seiliedig ar yr egwyddorion o waith teg a chynaliadwyedd, sydd wedi ei anelu at ddiwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.
“Mae ansicrwydd economaidd gwirioneddol o’n blaenau. Ond mae hon yn llywodraeth sydd o ddifrif ynghylch partneriaethau a chymryd camau dewr i greu economi gryfach, decach a gwyrddach yng Nghymru.”