English icon English
Service children event Bridgend-2

Cymorth i blant milwyr yng Nghymru

Support for Service children in Wales

Gall ysgolion wneud cais am grantiau o hyd at £3,000 gan Cefnogi Plant Milwyr Mewn Addysg yng Nghymru (SSCE Cymru), i ddarparu cymorth ymarferol i blant milwyr drwy gydol eu haddysg.

Ar hyn o bryd mae'r rhaglen yn cefnogi dros 2,000 o blant ledled Cymru, diolch i £270,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae plant milwyr yn aml yn wynebu heriau unigryw mewn addysg, gan gynnwys cyfnodau o darfu ar addysg oherwydd adleoli, cysylltiadau cymdeithasol yn dod i ben yn sydyn, a phryderon am ddiogelwch rhieni ar ddyletswydd weithredol.

Gellir defnyddio'r grantiau ar gyfer ystod o weithgareddau, megis clybiau ysgol pwrpasol, gwybodaeth i athrawon i ddeall profiadau plant yn well, a chymorth pontio i ddisgyblion sy'n gorfod newid ysgolion, er enghraifft pennu 'cyfaill' yn yr ysgol newydd.

I nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog [28 Mehefin], fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda chefnogaeth SSCE Cymru, gynnal Gŵyl Lluoedd Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghanolfan Milwyr wrth Gefn Pen-y-bont ar Ogwr (Pencadlys 160 Company REME). Roedd yr ŵyl yn ddeuddydd o hyd a chroesawodd 182 o ddisgyblion o 20 o ysgolion ledled Pen-y-bont ar Ogwr, gyda 125 ohonynt o deuluoedd y Lluoedd Arfog.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys gweithgareddau meithrin tîm a sesiynau lles, gan gynnwys celf a chrefft, gweithgareddau chwaraeon, a her ddŵr. Roedd y rhain oll wedi'u cynllunio i feithrin cysylltiadau ymysg plant milwyr a'u ffrindiau.

Dywedodd un o blant milwyr Ysgol Gynradd Pencoed:

"Mae symud mor aml wedi cael effaith fawr arna i, rydw i wedi gorfod gwneud amser i wneud ffrindiau sy'n anodd ond rydych chi'n dod i arfer ag ef.

"Mae cwrdd â phlant eraill sy'n blant milwyr wedi gwneud i mi sylweddoli nad fi yw'r unig un sy'n gorfod symud ysgolion a gwneud ffrindiau newydd, a bod yna bobl o gwmpas i helpu."

Ychwanegodd y Swyddog Lles Kaye King, sydd hefyd yn Eiriolwr dros Blant Milwyr yn Ysgol Gynradd Pencoed:

"Mae gan ddigwyddiadau fel heddiw gynifer o ganlyniadau cadarnhaol i blant milwyr a'u ffrindiau. Mae cwrdd â phobl eraill mewn sefyllfa debyg a gallu rhannu eu profiadau mor bwysig.

"Mae cael statws Ysgolion sy'n Ystyriol o'r Lluoedd Arfog yng Nghymru a bod yn rhan o rwydwaith SSCE Cymru wedi ein galluogi ni fel ysgol i ddeall effaith ffordd o fyw y Lluoedd Arfog ar brofiadau plant milwyr yma yn Ysgol Gynradd Pencoed."

Wrth siarad ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog, dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:

"Mae cefnogi pob plentyn i gael addysg o safon uchel a phrofiad hapus yn yr ysgol yn hanfodol. Rwy'n cydnabod yr heriau penodol y gall plant milwyr eu hwynebu, a dyna pam mae'r cyllid a gynigir drwy Cefnogi Plant Milwyr Mewn Addysg yng Nghymru mor bwysig.

"Rydw i mor falch o weld yr ystod o brosiectau arloesol a'r gymuned sydd wedi'i sefydlu diolch i'r cyllid rydym yn ei ddarparu."

Mae SSCE Cymru yn cael ei reoli gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno yn ddiweddar i ehangu diffiniad presennol Llywodraeth Cymru o blant milwyr mewn addysg, fel bod rhagor o blant yn gallu elwa ar gymorth. Ar hyn o bryd mae swyddogion yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ystyried diffiniad newydd.