Cymorth i ddiogelu swyddi gyda gwneuthurwr rhannau ceir
Over 60 jobs to be safeguarded at car parts manufacturer
Mae cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn mynd i helpu i greu a diogelu mwy na 60 o swyddi gyda gwneuthurwr rhannau ceir yn Nhorfaen, gan ei helpu i sicrhau busnes newydd gwerthfawr gyda Jaguar Land Rover (JLR).
Bydd ZF Automotive UK Ltd, sy'n cyflenwi rhannau o geir i frandiau ceir ledled y byd, yn derbyn £432,000 o gyllid gan Gronfa Dyfodol yr Economi Llywodraeth Cymru.
Bydd hyn yn caniatáu i'r busnes o Bont-y-pŵl, sy'n cynhyrchu caliperau brêcs yn bennaf, i uwchraddio llinell gynhyrchu ar gyfer y contract JLR.
Bydd ffocws cryfach ar wella cynhyrchiant yn golygu y bydd staff yn datblygu sgiliau newydd mewn prosesau gweithgynhyrchu, a bydd cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau a graddedigion hefyd yn cael eu creu.
Bydd y cyllid hefyd yn helpu ZF Automotive i ddisodli ei system wresogi nwy, sydd dros 50 mlwydd oed, a gwella effeithlonrwydd ynni ar ei safle. Bydd hyn yn arwain at ostyngiad sylweddol mewn allyriadau carbon.
Dywedodd Steven McKenzie, Cyfarwyddwr Gweithrediadau gyda ZF Automotive UK Ltd:
“Mae ein tïm ym Mhont-y-pŵl yn gweithio’n ddiflino i barhau i wella ein gweithrediadau gweithgynhyrchu, fel bod y cwmni’n gallu parhau i gystadlu o fewn sector modurol heriol.”
“Bydd y cyllid hwn yn ein cynorthwyo i brynu cyfarpar a sicrhau busnes newydd, a hefyd yn cynorthwyo â’n prosiect gwresogi er mwyn gwella’n sylweddol ein heffeithlonrwydd ynni.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
"Mae ZF Automotive yn gyflogwr sefydledig a phwysig i Bont-y-pŵl a'r ardal gyfagos gyda llawer o staff yn gweithio yno ers amser maith.
"Bydd y cyllid yn helpu'r busnes i ddatgarboneiddio a gwneud y gorau o'i weithrediadau, gan ddod â chontractau gwerthfawr gyda Jaguar Land Rover i Gymru ac uwchsgilio staff o ganlyniad i hynny."