English icon English

Cymorth lles coleg yn allweddol i brofiad addysg y dysgwyr

College wellbeing support playing important role in learners education experience

Mae dysgwyr ledled Cymru yn elwa ar fwy o gymorth lles ac iechyd meddwl diolch i £4 miliwn o gyllid i golegau. Mae cyllid wedi cael ei ddefnyddio yn y gorffennol  i greu canolfannau lles neu wasanaethau cwnsela.

Mae lles da yn rhan bwysig o brofiad addysg dysgwr. Un coleg sy'n buddsoddi mewn lles yw Coleg Merthyr. Dyfarnwyd Gwobr Tîm Addysgu Cenedlaethol Cymru am Ymgysylltu â Dysgwyr yn yr ysgol/coleg iddynt yn 2024, a hynny er mwyn cydnabod y gefnogaeth ardderchog y maent yn ei ddarparu i ddysgwyr coleg. Roedd y coleg hefyd yn rownd derfynol Gwobr Grŵp NOCN Cymdeithas y Colegau ar gyfer Iechyd Meddwl a Lles.

Yn ddiweddar, bu'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles, Sarah Murphy, ar ymweliad â'r coleg i gael gwybod rhagor am y cymorth sydd ar gael i ddysgwyr, cymorth sy'n  cynnwys canolfan les sy'n darparu cyngor ac yn cynnwys cymorth therapiwtig a gwasanaethau cwnsela. Roedd y dysgwyr yn sôn yn gadarnhaol wrthynt am y profiad y maent wedi'i gael yn y coleg.

Yn ystod yr ymweliad, bu staff y coleg hefyd yn siarad am y manteision o gael y cymorth hwn.

Dyma Sara Fowler, y Dirprwy Bennaeth Adnoddau a Phrif Swyddog Gweithredu. 'Yn y Coleg, rydym yn blaenoriaethu iechyd meddwl a lles ein holl ddysgwyr a staff trwy gynnig cyfleoedd a chefnogaeth sy'n hawdd cael ato ar draws y sefydliad a'r gymuned leol. Rydym yn falch o'r partneriaethau rydyn ni wedi'u creu i wneud y mwyaf o'r gefnogaeth a'r gweithgareddau sydd ar gael i sicrhau ein bod yn rhagweithiol ac amrywiol yn ein cynnig. 

Roedd yn fraint cael dangos ein tîm Llesiant i'r Gweinidogion, ac fe wnaethom fwynhau clywed ein dysgwyr yn siarad am effaith y gefnogaeth maen nhw wedi'i derbyn.'

Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells: "Mae'r gefnogaeth iechyd meddwl a lles sy'n cael ei darparu gan Goleg Merthyr yn werth chweil. Mae eu hymrwymiad i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i bob dysgwr yn rhywbeth i'w ryfeddu ato. Rwy'n falch o fod wedi cael y cyfle i siarad yn uniongyrchol â dysgwyr a staff i weld y rôl bwysig y mae mentrau lles yn ei chwarae wrth sicrhau'r canlyniadau addysgol gorau i'n dysgwyr. Mae Medr yn dyrannu cyllid i golegau sy'n adlewyrchu blaenoriaethau unigol sefydliadau addysg ar gyfer eu dysgwyr a'u staff."

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles, Sarah Murphy, "Roedd ymweld â Choleg Merthyr yn wych, yn enwedig cael gweld sut maen nhw'n sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cefnogi'n llawn gyda'u hiechyd meddwl a'u lles. Mae eu dull yn dangos yn union y math o ofal rhagweithiol sydd ei angen arnom ar draws ein system addysg i helpu i roi'r sgiliau cywir i bobl ifanc ar gyfer dyfodol iachach a mwy llwyddiannus."