
Pum cam i'w cymryd ar unwaith i fynd i'r afael ag ymddygiad
Five immediate actions to tackle behaviour
Yn dilyn uwchgynhadledd ymddygiad yng Nghaerdydd, cyhoeddwyd pum cam sydd i'w cymryd ar unwaith i fynd i'r afael ag ymddygiad mewn ysgolion ac i gefnogi athrawon.
Daeth uwchgynhadledd ymddygiad heddiw [dydd Iau 22 Mai 2025] â Llywodraeth Cymru, undebau, awdurdodau lleol a phenaethiaid ynghyd i drafod pryderon ynghylch ymddygiad, a'r hyn y gellir ei wneud i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Wrth iddi ddod â'r uwchgynhadledd i ben, amlinellodd yr Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle ei hymrwymiad i barhau i ganolbwyntio ar ymddygiad, ac i gynnal y ddeialog gydag athrawon, rhieni a phobl ifanc.
Dywedodd Ms Neagle:
"Dw i wrth fy modd ein bod wedi gallu cynnal uwchgynhadledd heddiw, a chael gweld ymgysylltu mor gadarnhaol o bob rhan o'r sector ar y materion heriol hyn. Fe fyddwn ni'n rhoi ystyriaeth lawn i syniadau ac adborth heddiw, ond mae'n amlwg i mi fod yna rai pethau y gallwn ni eu gwneud yn gyflym er mwyn dechrau gwneud gwahaniaeth.
Dw i'n ymrwymo heddiw i greu'r strwythurau sydd eu hangen i gefnogi gwaith aml-asiantaethol, i helpu sefydliadau i ddod at ei gilydd er mwyn mynd i'r afael â'r materion cymdeithasol sy'n cyfrannu at ymddygiad heriol.
Mae'n amlwg bod yna awydd i weld canllawiau i ysgolion yn cael eu diweddaru i sicrhau bod mwy o eglurder a chysondeb ledled Cymru.
Fe fyddwn ni'n sefydlu system ar gyfer rhannu arferion gorau rhwng ysgolion, yn lleol ac yn genedlaethol, gan ddysgu gwersi o ddulliau atal trais sy'n cael eu treialu mewn ysgolion ar hyn o bryd."
Un thema allweddol a ddaeth i'r amlwg yn yr uwchgynhadledd oedd yr angen i ddatblygu cyfleoedd dysgu proffesiynol sy'n canolbwyntio ar dechnegau rheoli ymddygiad, dad-ddwysáu sefyllfa ac ymyrryd. Ymrwymodd i wneud nodyn o hyn a sicrhau bod y corff arweinyddiaeth a dysgu proffesiynol newydd yn mynd i'r afael â'r gwaith hwn.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn cydnabod yr angen i sicrhau diffiniadau ac adroddiadau cyson mewn perthynas â digwyddiadau, a bod set ddata glir ar lefel awdurdod lleol ac ar lefel genedlaethol yn hanfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, llefarydd CLlLC dros addysg:
"Rydyn ni'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw haeddiannol i'r mater pwysig hwn, ac yn cefnogi dull cydweithredol ar lefel Cymru gyfan. Mae'n hanfodol ein bod ni'n cael sgyrsiau agored, cenedlaethol gyda phawb sy'n gysylltiedig er mwyn dod o hyd i atebion cadarnhaol, ymarferol.
"Mae angen i blant barhau i fod yn ganolog i'r gwaith hwn - gan ganolbwyntio ar yr hyn sydd y tu ôl i'w hymddygiad, nid dim ond yr ymddygiad ei hun, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n hyrwyddo camau ac iaith gadarnhaol."